|
|
|||
|
||||
OverviewA collection of essays discussing some of the implications of nationhood including discussions on prominent nationalists such as Gwynfor Evans and Welsh communists, with particular attention paid to the ramifications in relation to nationhood from the standpoint of the concept of justice. Full Product DetailsAuthor: Various , E. Gwynn MatthewsPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa Volume: 2 ISBN: 9781847716835ISBN 10: 1847716830 Pages: 160 Publication Date: 31 July 2013 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsDyma gasgliad o anerchiadau a draddodwyd rhwng 1999 a 2011 yng nghynadleddau Adran Athronyddol Graddedigion Prifysgol Cymru. Meddai'r golygydd, 'Mae'r tri maes a enwir yn y teitl yn gwbl ganolog i fywyd gwleidyddol yng Nghymru a'r byd heddiw'. Howard Williams sy'n gosod y cywair yn ei 'Athronyddu drwy hanes athroniaeth wleidyddol' lle mae'n dadlau bod athroniaeth nid yn unig yn ddiben ynddo'i hun ond yn angenrheidiol er mwyn deall ymweud cymdeithasol pobl 'i gilydd. Cwestiynau moesegol yw hanfod athroniaeth wleidyddol meddai, ac mae'r pwyslais yma'n brigo i'r wyneb yn gyson yng ngweddill yr ysgrifau. Tra bod eglurder meddwl ac iaith yn help i gymryd penderfyniadau cywir, dadl Huw Williams yn 'Gafael rhyfel cyfiawn ar y meddwl modern' yw bod cam gwag athronyddol gan yr Americanwr rhyddfrydig John Rawls wedi cynnig sail foesol i ryfelgwn hyrwyddo rhyfeloedd anghyfiawn a niweidiol. Yn 'Cyfiawnder John Rawls ac annibyniaeth wleidyddol i Gymru' mae Gwenllian Lansdowne Davies yn mynnu bod gwaith Rawls, 'eilun y traddodiad rhyddfrydol', yn cynnig sail foesegol i'r polisi cyfansoddiadol y mae hi ei hun yn ei ffafrio. Uchafbwynt y gyfrol yn ddau yw dwy ysgrif ddisglair Gwynn Matthews, 'Gwladgarwch: Richard Price ar garu ein gwlad' a 'Cydnabyddiaeth a hunaniaeth'. Drwy archwiliad rhesymegol craff-ofalus o weithiau athronwyr megis Platon, Hegel, Richard Price, Henry Jones, Fukuyama a Charles Taylor mae'n chwilio am gyfiawnhad moesegol i genedlaetholdeb. Dyma esiampl o athronyddu goleuedig mewn iaith ddiledryw a darllenadwy. Mae'r ddwy ysgrif nesaf, 'Syniadaeth wleidyddol Gwynfor Evans' gan Richard Wyn Jones ac 'Ymwisgo comiwnyddiaeth mewn gwisg Gymreig' gan Douglas Jones, yn perthyn i gategori gwahanol. Tra bod yr awduron blaenorol, wrth drafod syniadau athronwyr, megis yn athronyddu yn eu hawl eu hunain, trafodaeth hanesyddol ar hynt syniadau penodol mewn dwy blaid sy gan y ddau yma. Mae eu cyfraniadau, serch hynny, yn werthfawr ac yn ddiddorol ac yn llanw'u lle yn gwbl briodol. Gyda sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y mae'r golygydd yn ymfalcho iddo sefydlu perthynas arbennig ag Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion, a gallwn ni edrych ymlaen at ragor o gyhoeddiadau tebyg i hon. Gobeithio y byddan nhw'n dilyn esiampl (ond nid yn ddieithriad) y gyfrol hon drwy ofalu bod y dyfyniadau yn Gymraeg. Nid ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig y dylai rheol Gymraeg weithredu. Cynog Dafis Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |