|
|
|||
|
||||
OverviewAnn Fychan was a lyricist and songwriter who died in 2025. The volume includes tributes and portraits and a selection of her poems and verses. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Cyril JonesPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch Dimensions: Width: 12.80cm , Height: 0.80cm , Length: 19.80cm ISBN: 9781845248000ISBN 10: 1845248007 Pages: 120 Publication Date: 22 May 2026 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Forthcoming Availability: Not yet available This item is yet to be released. You can pre-order this item and we will dispatch it to you upon its release. Language: Welsh Table of ContentsReviewsCyfrannodd Ann i ddiwylliant ei hardal ym Maldwyn a Chymru gyfan gydol ei hoes. Lluniodd bytiau hunangofiannol am ei phlentyndod ym mhentre Pennant, Llanbryn-mair, cyn i’w rhieni, Islwyn a Gwyneira Lewis, benderfynu symud i’r Pandy yn yr un plwyf i gadw siop. Mae’r rheiny yn y gyfrol, yn ddarlun gwiw o blentyndod yn y cefndir a’r cyfnod hwnnw. Roedd Ann yn hyfforddreg llefarwyr a beirniad mewn eisteddfodau ledled y wlad. Dychwelodd o’r Coleg Normal i fod yn athrawes yn y Drenewydd, Llanbryn-mair a Glantwymyn. Ar wahanol gyfnodau bu’n athrawes bro a dirprwy brifathrawes. Mae’r gofal a’r parch at eiriau yn amlwg yn ei gwaith creadigol ei hun hefyd. Yn nyddiau Gerallt Lloyd Owen, roedd ef fel Meuryn yn dotio at y tinc telynegol oedd yn ei cherddi a’i phenillion telyn. Does ryfedd i Dafydd Wyn, ei chyd-aelod yn nhîm Talwrn y Beirdd Bro Ddyfi, ei galw yn ‘llawforwyn crefft llefaru’, gan gwblhau ei englyn â’r disgrifiad ohoni yn dysgu ‘to ’rôl to nes troi y tŷ’n/ Athen i’n gwasanaethu’. Yr un yw byrdwn Gerallt Lloyd Owen yn ei englyn yntau iddi: Canaf i’r un fu’n cynnal ei haelwyd a’i haelwyd yn ardal; ym min Dyfi mae’n dyfal gadw tŷ heb godi tâl. Rhan o deyrnged i Ann Fychan (1941–2025), Barn Tachwedd 2025 ‘Arferai lunio cerddi yn y mesurau rhydd ac roedd graen arbennig ar ei gwaith bob amser, yn enwedig penillion ar batrwm y penillion telyn, telynegion a'i cherddi ysgafn. Wele un pennill telyn sy’n nodweddu’i chrefft: Cododd Deio’n gynnar, gynnar, Codi’n gynt na’r haul a’r adar, Ond ni chododd ddigon bore I ddal Mari Llwyn yr Hendre. Yn ogystal ag ysgrifennu geiriau ar gyfer talyrnau, lluniodd Ann ddegau o eiriau caneuon ar gyfer grwpiau canu ysgafn, lleol a chenedlaethol. Y geiriau enwocaf o blith y rheini yw cân anthemig Plethyn ‘Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?’’ -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Author InformationY bardd Cyril Jones oedd enillydd Coron Eisteddfod Aberystwyth 1992. Cyhoeddodd gyfrol o'i waith, Eco'r Gweld, gyda Barddas yn 2012. Cyhoeddodd gyfrolau gyda Gwasg Carreg Gwalch: Maldwyn (Cyfres Bröydd Cymru) a Man Gwyn y Smotyn Du (Sgrifenwyr a Beirdd Ardal Unigryw yr Undodwyr yng Ngheredigion). -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Tab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |
||||