|
![]() |
|||
|
||||
OverviewCyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy'n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955-). Hon yw'r astudiaeth estynedig gyntaf o'i waith, a rhoddir sylw penodol i'r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 - cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i'r afael a phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ol-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i'r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ol-fodernaidd Gymraeg a'i harwyddocad i'n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg a beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio'r ffin dybiedig rhwng 'ffaith' a 'ffuglen'. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw a thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur. Full Product DetailsAuthor: Rhiannon MarksPublisher: University of Wales Press Imprint: University of Wales Press ISBN: 9781786835901ISBN 10: 1786835908 Pages: 208 Publication Date: 15 August 2020 Audience: Professional and scholarly , Professional & Vocational Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsAuthor InformationDaw Rhiannon Marks yn wreiddiol o Gil-y-Cwm, Sir Gar, ac fe'i haddysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Iesu, Rhydychen. Mae'n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn arbenigo mewn llenyddiaeth gyfoes a theori lenyddol. Enillodd ei chyfrol academaidd gyntaf, 'Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr': Golwg ar Waith Menna Elfyn Wobr Goffa Syr Ellis Griffith yn 2015. Tab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |