|
![]() |
|||
|
||||
OverviewThe third in the philosophical series, 'Astudiaethau Athronyddol' edited by E. Gwynn Matthews. This book will again include readable essays by prominent authors incorporating philosophy with topics such as religion, law and order, politics and standpoints by Rawls and Wittgenstein. Full Product DetailsAuthor: Various , E. Gwynn MatthewsPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa Volume: No. 3 ISBN: 9781847719270ISBN 10: 1847719279 Pages: 96 Publication Date: 17 July 2014 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsDymar drydedd gyfrol yn y gyfres Astudiethau Athronyddol dan olygiaeth E. Gwynn Matthews. Mae yma gyfranwyr sydd yn meddu ar feddyliau praff dadansoddol, ac arbenigwyr yn eu maes sy'n trin eu pwnc yn ddeheuig. Dywedir yn y broliant fod yr ysgrifau'n cael eu cyflwyno mewn modd hygyrch i'r sawl sydd heb gefndir academaidd yn y maes. Mae hyn yn wir i raddau, ond mae angen peth gwybodaeth gefndirol i lawn werthfawrogi'r ysgrifau. Mae angen hefyd ymroddiad a chanolbwyntio manwl i ddilyn rhesymeg y gwahanol safbwyntiau athronyddol a drafodir yma. Cawn yma chwech ysgrif nas cyhoeddwyd o'r blaen yn ymwneud yn bennaf chwestiynau moesegol a hefyd yn cyffwrdd byd crefydd a gwleidyddiaeth. Daw'r bennod gyntaf ni wyneb yn wyneb meddyliau ynglyn 'r natur ddynol a'r posibilrwydd o hunanwellhad. Yna cawn ysgrifau yn trafod pynciau megis ffiniau maddeuant a'r gwahaniaeth o'r defnydd o dda gan y byd crefyddol a'r byd seciwlar ynghyd 'r berthynas neu'r diffyg perthynas sydd rhyngddynt. Mae rhai ysgrifau'n trafod pynciau mwy penodol sef cyffuriau, gwella perfformiad a dibyniaeth. Yn y cyswllt yma trafodir a oes modd esgusodi twyll? Diben cosbi troseddwr yw maes un arall. Yn wir, dyma bynciau dyrys sydd yn gorfodi'r darllenydd i edrych ac ystyried yn ddwys a manwl cyn mynegi barn a gweithredu. Trafodaeth ar ddau safbwynt gwahanol am swyddogaeth athroniaeth yw cynnwys y bennod olaf. Mae'r gyfrol hon yn gyfraniad gwerthfawr i'r drafodaeth ar bynciau sydd o bwys. Rwy'n sicr y bydd rhai sy'n ymddiddori yn y mesydd hyn yn cael blas ar y darllen. Er mai dyrchafu rhesymeg dynol a wna'r byd athronyddol, wrth ddarllen gwelwn fod rhesymeg yr awduron gwahanol yma, ac awduron ar hyd y canrifoedd, yn anghytuno 'i gilydd. Gwelwn hefyd fod maes athroniaeth a rheswm ohonynt eu hunain yn annigonol i ateb cwestiynau dyrys bywyd. Dengys y gyfrol na ellir ymddatod yn llwyr oddi wrth gwahanol ddylanwadau bywyd arnom trwy ein diwylliant, profiadau, hyfforddiant a datguddiad. R. O. Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |