|
![]() |
|||
|
||||
OverviewUn o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei genhedlaeth. Er mwyn nodi trichanmlwyddiant geni'r emynydd yn 2017, mae Gwasg Prifysgol Cymru yn ailgyhoeddi'r gyfrol; mewn rhagymadrodd helaeth i'r cyhoeddiad newydd, mae D. Densil Morgan yn dadansoddi cynnwys y gwaith, ei dafoli'n feirniadol ac yn olrhain ei ddylanwad ar y meddwl Cymreig o'i gyhoeddi yn 1927 hyd heddiw. Mae'n ddathliad deublyg o greadigrwydd Saunders Lewis ac o gyfraniad aruthrol y Per Ganiedydd i waddol y diwylliant cenedlaethol. Full Product DetailsAuthor: Saunders Lewis , D. Densil MorganPublisher: University of Wales Press Imprint: University of Wales Press Edition: 2nd Revised edition ISBN: 9781783169627ISBN 10: 1783169621 Pages: 208 Publication Date: 15 November 2016 Audience: College/higher education , Postgraduate, Research & Scholarly Format: Hardback Publisher's Status: Active Availability: Temporarily unavailable ![]() The supplier advises that this item is temporarily unavailable. It will be ordered for you and placed on backorder. Once it does come back in stock, we will ship it out to you. Language: Welsh Table of ContentsRhagymadrodd Newydd gan Densil MorganRhagairPennod I. Yr Estheteg GymreigPennod II. Drws y Society ProfiadIII. Ffordd y Puro: 1744-1752IV. THeomemphus: Y RhagymadroddV. Troedigaeth LlancVI. AlethiusVII. Amor SponsiVIII. Ffordd yr UnoIX. ArddullX. RhamantiaethMynegaiReviewsAuthor InformationRoedd Saunders Lewis yn ddramodydd, bardd, nofelydd, beirniad ac arweinydd gwleidyddol.Mae D. Densil Morgan yn Athro Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Cyhoeddodd yn helaeth ar hanes crefydd a diwylliant yng Nghymru'r cyfnod modern. Tab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |