|
![]() |
|||
|
||||
OverviewFull Product DetailsAuthor: Graham HowellsPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781848514751ISBN 10: 1848514751 Pages: 112 Publication Date: 29 July 2013 Audience: Primary & secondary/elementary & high school , Educational: Primary & Secondary Format: Hardback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsYdech chi wedi clywed am y teulu Ws tybed? Wedi eu gweld yn crwydro strydoedd Aberystwyth, Caernarfon neu Batagonia, hyd yn oed? Does wybod pa le y byddwch yn eu cyfarfod nesaf ... ond maent i gyd yn llechu rhwng cloriau'r gyfrol arbennig hon. Dewch i gyfarfod brachiosawrws, stegasawrws, sonorasawrws, hadnosawrws, brontosawrws ar brenin ei hun Tyranosawrws rex! Cawn ddilyn hanes a helyntion y deinosoriaid o bob lliw a llun yn eu cynefin ac mewn ambell le annisgwyl arall, ac maer cyfan wedi ei ddylunion atyniadol gan Graham Howells. Dyma drysor o gyfrol i bawb syn ifanc ei ysbryd ac syn ymhel ym myd y deinosoriaid yn gerddi a straeon o bob math gan awduron poblogaidd a chyfoes, a phob un ohonynt yn ddynion, coeliwch neu beidio! Mae llenorion megis Ifor ap Glyn, Jon Gower, Hywel Griffiths, Gwion Hallam, Llion Iwan, Ceri Wyn Jones, Ifan Morgan Jones, Aneirin Karadog, Eurig Salisbury ac Ion Thomas yn dod deinosoriaid yn fyw unwaith eto mewn un ar ddeg o ddarnau creadigol llawn antur a chyffro. Dyma lyfr syn llawn dirgelwch a rhyfeddod; llyfr iw rannu. Na, does dim byd brawychus fel y cyfryw yma, rhyw ddeinosoriaid hynod garedig a chyfeillgar ydi'r rhain ar y cyfan, ac yn hoff o gwmni plant! O ran cynnwys maen addas ar gyfer pob oedran, gyda rhai straeon a cherddi yn fwy heriol nai gilydd, gan roi cyfle i ddarllen ar y cyd a darllen dan arweiniad yn ogystal darllen yn annibynol. Lleolir yr hanesion ar hyd a lled Cymru a thu hwnt lleolir rhai mewn trefi go iawn megis Aberystwyth a Chaernarfon, ac mewn adeiladau megis mewn amgueddfa a cheir yma rai bydoedd dychmygol syn bodoli ar sgrin y cyfrifiadur! Mae yma rywbeth at ddant pawb ac mae digon o hiwmor yn brithor darnau, megis y cerddi D am Deinosor syn adnodd gwych i geisio dysgur wyddor, neu Rhyfel Cartref syn esbonio pam roedd y deinosoriaid honedig wedi diflannu o'r ddaear: T-recs a stegosawrws, A diplododcws pinc, Triceratops a raptor Sydd bellach yn extinct. Feu bwriwyd nhw or ddaear Nid gan ryw feteoreit, Ond Ifan gydai hwfyr Yn gwrthod ildior ffeit. Maer cyfan wedi ei blethun gyfrol amrywiol o ran genres, safbwyntiau, y digrif ar dwys ond un peth syn gyffredin yw gwrthrychaur darnau, sef y deinosoriaid. Hyfryd o delynegol ydir stori Dechraur Diwedd syn fwy heriol ac at gynulleidfa hyn efallai deunydd cnoi cil arno. Mae'r Anifail Anwes Mwya Enfawr Erioed Erioed Erioed wedi ei lleoli ym Mhatagonia a braf yw gweld enwau cyfarwydd ynddi ... Camwy, Hector ac ati! Os am wers wahanol ir disgwyl fe gewch ganllawiau ar gyfer gm gyffrous yn Dyddiadur Deino. Tybed a fydd Cricosor yn gamp Olympaidd ryw ddydd? Mae neges bwysig yn niwedd y stori am y gwan yn gorchfygur cryf hefyd Dafydd a Goliath byd y deinosoriaid! Ydi, mae hon yn drysorfa yng ngwir ystyr y gair ... mwynhewch! Andrea Parry Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |