|
![]() |
|||
|
||||
OverviewYn anaml iawn y daw ffynonellau newydd ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar i’r amlwg. Ond dyma a geir yn llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb229 – llawysgrif modern cynnar sy’n drysorfa o destunau hagiograffaidd. Ei thrysor mwyaf yw ei fersiwn unigryw o Fuchedd Cybi, a all gynnwys elfennau mor gynnar â’r ddegfed neu’r unfed ganrif ar ddeg, gan gyflwyno tystiolaeth gwbl newydd am Gybi a’i gwlt canoloesol. Nid am ei chopi o Fuchedd Cybi yn unig y mae’r gyfrol hon yn arwyddocaol. Fe ddengys yn ogystal sut yr aethpwyd ati i addasu gweithiau megis Buchedd Beuno a Buchedd Collen yn yr Oesoedd Canol diweddar a’r cyfnod modern cynnar; tystia i weithgarwch rhwydweithiau Catholig ac unigolion megis Edward Morgan o Lys Bedydd, offeiriad Catholig a greodd y cyfieithiad unigryw o Fuchedd Gwenfrewy yn y llawysgrif hon, ac a ddienyddiwyd maes o law. Diogelwyd y testunau hyn oll gan ysgrifydd amryddawn y llyfr, Robert Davies o Wysanau, Sir y Fflint, a chawn gyflwyniad i’w fywyd, ei weithgarwch a’i ddiddordebau eang. Full Product DetailsAuthor: David CallanderPublisher: University of Wales Press Imprint: Gwasg Prifysgol Cymru Dimensions: Width: 13.80cm , Height: 1.60cm , Length: 21.60cm ISBN: 9781837721207ISBN 10: 1837721203 Pages: 312 Publication Date: 15 May 2024 Audience: Professional and scholarly , Professional & Vocational Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Table of ContentsByrfoddau Rhagair 1 Llawysgrif Gatholig a’i Hysgrifydd 2 Buchedd yr Esgob Cybi 3 Trawsffurfio Hagiograffeg Gymraeg: Buchedd Beuno a Buchedd Collen 4 Cynnyrch Merthyr Catholig: Cyfieithiad Edward Morgan o’r Vita Wenefredae 5 Ar y Diwedd Llyfryddiaeth MynegaiReviewsAuthor InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |