|
|
|||
|
||||
OverviewA novel set in 1980 and the present, revealing a story of lost love. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Rhian CadwaladrPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch Dimensions: Width: 12.80cm , Height: 1.30cm , Length: 19.80cm ISBN: 9781845279936ISBN 10: 184527993 Pages: 300 Publication Date: 26 June 2026 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Forthcoming Availability: Not yet available This item is yet to be released. You can pre-order this item and we will dispatch it to you upon its release. Language: Welsh Table of ContentsReviewsMae Gari yn digwydd taro i mewn i siop lyfrau yng Nghaerdydd ac yn gweld wyneb o’r gorffennol: ei gariad bore oes, Bethan. Tydi o ddim wedi clywed ganddi ers iddi adael ardal Llanberis i fynd i’r coleg dros ddeugain mlynedd ynghynt, a does ganddo ddim syniad pam y bu iddi adael. Wrth i’r ddau ddod i ail adnabod ei gilydd, a allan nhw alltudio ysbrydion y gorffennol er mwyn ailgynnau fflam eu perthynas? Lleoliad - mae'r nofel wedi ei lleoli yn Llanberis a Chaerdydd, a daw'r awdur o ogledd-orllewin Cymru. -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Author InformationMae Rhian Cadwaladr wedi bod yn actores am dros ddeng mlynedd ar hugain yn gweithio ym meysydd theatr, radio a theledu. Bu’n diwtor drama ac yn gydlynydd ar SBARC!, prosiect celf i’r ifanc yn Galeri Caernarfon o 2005 – 2016. Ysgrifennodd saith sgript wreiddiol ar eu cyfer gyda chast o 75 − 85 o bobl ifanc ym mhob un. Fe fu ar banel sgriptio Pobol y Cwm am gyfnod cyn rhoi’r gorau iddi oherwydd beichiau gwaith arall. Mae hi bellach yn gweithio’n llawrydd mewn amrywiol feysydd creadigol e.e. asiant ac ymarferydd creadigol i’r cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol; hwylusydd hyrwyddwyr ifanc Noson Allan; actores a dyfeisiwr gweithdai achlysurol yn Amgueddfa Lechi Llanberis. Mae hi hefyd wedi bod yn tiwtora ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy. Ysgrifennodd ddrama radio, Malachai, a ddarlledwyd ar Radio Cymru yn 2004. Mae eisoes wedi cyhoeddi nofelau Fi sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd, Plethu, Dathlu a Gwaddol, llyfrau Ynyr yr Ysbryd i blant a llyfrau coginio, Casa Cadwaladr, Casa Dolig a Casa’r Haf. -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Tab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |
||||