|
![]() |
|||
|
||||
OverviewAn eclectic collection of ten stories from around the world, to be read to children over 4 years old, collected and retold by Caryl Lewis, 'Wales's Favourite Author'. These stories reflect the stories of her childhood which fired her imagination and spurred her to write her own stories. Tir na n-Og Award Winner 2015. Full Product DetailsAuthor: Caryl LewisPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 9781845274979ISBN 10: 1845274970 Pages: 72 Publication Date: 15 October 2014 Audience: Children/juvenile , Children's (6-12) Format: Hardback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsDyma gyfrol hynod ddifyr ac un addas i'w darllen i blentyn tua 6 oed ac yn hyn sy'n dechrau mwynhau gwrando ar stori yn hytrach na dilyn stori a llun syml. Ceir storau bywiog, gwahanol i'r disgwyliedig, sy'n estyn y dychymyg i fydoedd newydd. Er bod moeswersi syml yn sail i nifer o'r hanesion, nid oes pregethu o unrhyw fath yma, ac mae naturioldeb a symlrwydd arddull yr awdur yn amlwg drwy'r cyfan. Mae'r llyfr hardd, clawr caled wedi ei ddylunio'n lliwgar gan bedwar artist dawnus: Valeriane Leblond, Dorry Spikes, Lizzie Spikes a Maria Royse. Mae lluniau Valeriane Leblond wedi cael eu defnyddio cyn hyn yn llwyddiannus gyda stori Caryl Lewis yn y llyfr hyfryd Sgleinio'r Lleuad. Ar ddechrau'r llyfr ceir map lliwgar gan Dorry Spikes, a dyma'r allwedd i'r holl antur. Gyda'r llew a'r eliffant ar gyfandir Affrica a'r cangarw a'r crocodeil yn Awstralia, pwy a wyr pa anturiaethau gawn ni wrth fynd ar daith drwy'r llyfr yma? Ceir deg stori i gyd, a'r rheiny'n dod o bob cwr o'r byd Mozambique, yr Eidal, Japan, Gwlad Pwyl, Kazakhstan, ac ambell wlad arall, gan gynnwys un stori o Gymru. Heblaw am 'Y Dywysoges bag papur', storau gwreiddiol gan Caryl Lewis yw'r cyfan. Dyma gyfrol y gwnes i fwynhau ei darllen, a bydd pawb sy'n troi ati yn mwynhau'r darluniau hefyd cymaint 'r storau. Mae hi'n anrheg i'w thrysori, yn sicr. Nia Mai Daniel Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |