Sgorio

Author:   Emyr Davies
Publisher:   Y Lolfa
ISBN:  

9780862435820


Pages:   84
Publication Date:   05 November 2001
Recommended Age:   13 years
Format:   Paperback
Availability:   To order   Availability explained
Stock availability from the supplier is unknown. We will order it for you and ship this item to you once it is received by us.

Our Price $12.81 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Sgorio


Add your own review!

Overview

A fully illustrated colour volume tracing the history of the popular television football series 'Sgorio', from the beginning in 1988 until the present day comprising interviews with the three presenters, Arthur Emyr, Amanda Protheroe-Thomas and Morgan Jones and interesting information about European leagues and teams and famous players past and present. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Emyr Davies
Publisher:   Y Lolfa
Imprint:   Y Lolfa
Dimensions:   Width: 20.00cm , Height: 0.70cm , Length: 21.00cm
ISBN:  

9780862435820


ISBN 10:   086243582
Pages:   84
Publication Date:   05 November 2001
Recommended Age:   13 years
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   To order   Availability explained
Stock availability from the supplier is unknown. We will order it for you and ship this item to you once it is received by us.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Mewn cerdd yn ei gyfrol Sobers a fi, ma' Dafydd Rowlands yn son am fynd i Lords gyda'i fam pan oedd e'n fachgen ifanc, i weld prawf criced rhwng Lloegr a Phacistan. Mae e'n cofio'r argraff a wnaeth enwau'r teithwyr arno: Amarnath, Mushtaq a Mankad, 'enwau hudolus yn diferu oddi ar dafod fel mel'. Tebyg yw'r atgofion sy gen i am enwau'r pel-droedwyr ddaeth yn fyw ar y sgrin bob nos Lun, ar y rhaglen Sgorio: Bakero, Beguiristain, Butragueno, Hugo Sanchez yn Sbaen, Maradona, wrth gwrs, Gullit et al a Giannini yn yr Eidal. Fy hoff enw oedd Aldo Serena ond dwi ddim yn cofio pam erbyn hyn. Anodd cofio'r amser nawr, ond pan oedd Sgorio yn dangos i Gymry eiddgar jyst pa mor bert y gallai'r 'gem bert' fod, doedd yna ddim cymaint a hynny o bel-droed ar y teledu. A rhan fawr o apel y rhaglen oedd y ffaith bod gwylwyr yn teimlo'u bod nhw'n perthyn i glwb dethol, mae'n siwr. Rwy'n cofio bod yn ddilornus iawn, er enghraifft, o sylwebwyr Saesneg fel John Motson pan ddechreuodd y sianeli Saesneg ddangos gemau timau o'r cyfandir. Roedd Arthur Emyr wedi'n dysgu ni mai Real Tharagotha oedd yr ynganiad cywir, ac mai Thubitharreta oedd golwr Barcelona . . . Beth oedd Motson, felly, ond twpsyn o Sais ymerodraethol yn 'Jones-io' enwau anghyfarwydd eto fyth? Oes aur. Byddwn i'n argymell y llyfr hwn i unrhyw un wnaeth fwynhau, ac sy'n dal i fwynhau Sgorio. Mae'n cynnwys ystadegau diddorol (nid oxymoron), erthyglau ac atgofion difyr a darllenadwy gan sylwebwyr a chyflwynwyr y rhaglen, yn ogystal a bywgraffiadau o rai o ser amlyca pel-droed Ewrop yn y blynyddoedd diwetha. Mae 'na sawl ysgrif hefyd yn adrodd hanes yr amrywiol Gymry aeth i chwarae a rheoli clybiau yn Ewrop: o lwyddiant superstar cynta pel-droed Prydain, John Charles, yn Juventus ddiwedd y pumdegau i Ian Rush a aeth i Tiwrin ddeng mlynedd ar hugain ar ol Charles. Llai llwyddiannus oedd Rush doedd yr Eidal ddim yn barod ar gyfer y mwstas hwnnw . . .(Meddai am ei brofiadau yno, gyda llaw, 'Roedd hi fel bod mewn gwlad dramor'.) Ac os yw'r son uchod am fod yn ddilornus o John Motson am ddiffygion ei ynganu yn awgrymu darlleniad ehangach o Sgorio na rhaglen uchafbwyntiau syml, yna mae'n werth aros am ychydig i feddwl am y rhaglen, a'r llyfr bellach, fel trosiad ar gyfer y ddelwedd o Ewrop ddelfrydol sydd wedi'i sefydlu gan rai carfanau gwleidyddol a diwylliannol. Dyma ni yn teithio ar hyd priffyrdd y cyfandir yn mwynhau holl chic y gwareiddiad cappuccino, a'r pel-droedwyr pert sy'n gallu gwneud triciau a pheli na all David Beckham ond breuddwydio amdanyn nhw. Maen nhw'n frodyr ac yn gefndryd i ni roedd John Toshack, meddai'r sylwebydd Emyr Davies, 'yn gallu uniaethu'n syth' a'r Basgiaid a'u dyheadau yng nghlwb Real Sociedad am mai Cymro ydoedd. Ac mae'n amheus gen i a oes yna glwb yn y byd sy'n fwy cynhenid Gymreig na Barcelona. Dyma dim y Catalanwyr, wrth gwrs, y bobl y bu Ffranco'n erlid eu hiaith a'u diwylliant, a phel-droed, felly, yn datblygu fel yr unig fodd i wrthwynebu'r gormes . . .A gorau oll, does 'na ddim son am Loegr ar gyfyl y lle. Byddai'r llyfr hwn yn anrheg ddelfrydol i blant (a phlant heb fod mor ifanc a hynny hefyd). Nid yn unig y bydden nhw'n cael gwledd o bel-droed gorau'r byd, ond byddai'n ffordd heb ei hail i roi ieuenctid ein gwlad ar y trywydd gwleidyddol iawn hefyd. -- Owen Martell @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

RGJUNE2025

 

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List