|
![]() |
|||
|
||||
OverviewIn October 1913, the valley of Senghennydd was shaken to its core by a large blast in the Universal coalmine, with families torn by the loss of 440 lives. This volume tells the story of the tragedy and the effects of the explosion on local families and relatives throughout Wales as reported in the Welsh press at the time. Full Product DetailsAuthor: Myrddin ap DafyddPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch Volume: 83 ISBN: 9781845274290ISBN 10: 1845274296 Pages: 224 Publication Date: 26 June 2013 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsPentref o chwe mil a hanner o bobl yng Nghwm yr Aber, bedair milltir o Gaerffili, yw Senghennydd. Ond un bore yn 1913 trodd o fod yn enw lle i fod yn gyfystyr chraith ar seice dynoliaeth. O fewn munudau aeth 440 o lowyr yn ebyrth i drachwant y meistri glo. Saif enw Senghennydd ochr yn ochr ag enw Aber-fan fel cofeb i ddioddefwyr diniwed y trachwant hwnnw. Yn hytrach na dilyn llinyn y stori yn gronolegol, yr hyn a gawn yn y gyfrol hon yw pigion o wasg y cyfnod cerddi, lluniau, llythyrau a chardiau post. Or herwydd, maer arswyd rywfodd yn ddyfnach. Mae gweld y penawdau graffig fel Aberth i'r Danchwa, Rhuadau Angau, Cwmwl o Fwg a Llwch a Pob Gobaith wedi Darfod yn union fel darllen penawdau newyddion di-dor syn rhedeg fel llinyn ar waelod sgriniau teledu ein dyddiau ni. Cyn i mi ddarllen y gyfrol hon, dim ond ystadegol oedd fy ngwybodaeth or trychineb. Wyddwn i ddim, er enghraifft, mai hon oedd yr ail drychineb i daro glofar Universal o fewn cyfnod o ddeuddeg mlynedd. Yn 1901 lladdwyd 81 o lowyr yno. Ar hyd dwy dudalen cawn restr or Llan ar Dywysogaeth o golledigion mewn glofeydd yn Ewrop rhwng 1845 a 1913 (heb gynnwys ail drychineb Senghennydd). Ar l cyfrif hyd at 1,404 hanner y ffordd i lawr y dudalen gyntaf fe wnes i roir gorau iddi. Y ffigwr uchaf, gyda llaw, oedd 1,230 yn Courrires, Pas-de-Calais, yn 1906. Ie, ystadegau eto. Ond yr hyn syn arswydo rhywun yw sylweddoli bod gan bob un a laddwyd, yn cynnwys y pedwar cant yn Senghennydd, rieni, brodyr, chwiorydd a phlant. A neges fawr y gyfrol sobreiddiol hon yw nad trychineb lleol oedd Senghennydd. Does yna ddim un ardal yng Nghymru na chynrychiolir gan y lladdedigion. Adran sobreiddiol arall yw honno syn mynd ni ar grwydr ymysg y cerrig beddau. Mae yna, yma ac acw, dadau au meibion yn yr un bedd. Brodyr wedyn yn cydorwedd, tri ohonynt o Flaenau Ffestiniog. Y mwyaf cofiadwy ywr pethau bach ymddangosiadol ddibwys. Cerdyn post o Senghennydd gan fab iw rieni yn dweud yn syml: Mae meibion Ann Jones wedi eu lladd. Mae Edmwnd, beth bynnag am Evan. Llun watsh boced wedyn, un ddigon cyffredin ond wedi ei rhewi ar union eiliad y danchwa. Do, rhewodd amser ar un bore dydd Mawrth ganrif yn l yn Senghennydd. Rhewodd, nid yn unig yn achos y 400 a laddwyd, rhewodd hefyd galonnau miloedd ou hanwyliaid na fu eu bywydau byth yr un fath wedi'r digwyddiad. Lyn Ebenezer Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |