|
|
|||
|
||||
OverviewA novel for Welsh Learners at Higher Level by Welsh tutor Mared Lewis. Rob and his two children move into his aunt's house and begins life as a single parent. But is it easy to recreate the flame of old? A humorous novel that deals with a number of contemporary themes. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Mared LewisPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781784618674ISBN 10: 1784618675 Pages: 116 Publication Date: 28 August 2021 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsMae'r nofel hon wedi cael ei hysgrifennu gan Mared Lewis ar gyfer dysgwyr, a gwnes i ei mwynhau yn fawr iawn. Yn y dechrau, yr oeddwn i'n ffindio'r cynnwys yn ysgafn a difyr ac hefyd ro'n i'n siwr y gallwn ragweld yn union beth fyddai'n digwydd rhwng Rob (prif gymeriad, tad sengl efo 2 o blant, newydd wedi ysgaru), a'r merched amrywiol yn ei fywyd o, yn enwedig 'Vogue' ag Alys. Mae Rob wedi etifeddu ty ar ol marwolaeth ei fodryb, ac felly mae'n symud i fyw mewn pentref lle roedd e'n arfer aros pan yr oedd o'n ifanc. Mae 'Vogue' yn ddynes hyderus, fel model, ac y mae Rob yn cwrdd a hi am y tro cyntaf wrth giat yr ysgol, ac mae Alys yn hen gariad iddo. Fy hoff gymeriadau yw plant Rob - ei fachgen bach Moc, efo ei ffordd unigryw o siarad a gweld y byd; a Ffion, merch yn ei harddegau, amyneddgar ac yn annibynnol, ambell waith yn dweud pethau anodd ond hefyd yn amlwg yn caru ei thad a'i brawd iau. Ro'n i'n ffindio Wil, ffrind Anti Harriet (a fu farw cyn dechrau'r hanes), yn gymeriad diddorol hefyd. Yn ystod ail hanner y llyfr, fe digwyddodd rhywbeth nad oeddwn i'n ei ddisgwyl o gwbl, ac fe wnaeth hwn tynnu fy sylw yn syth. Mae Mared Lewis yn defnyddio iaith ysgrifenedig syml a clir - iaith bob dydd. Os oes gair neu ymadrodd anodd, mae'n debyg y bydd cyfieithiad ar waelod yr un tudalen wedi ei ddarparu, sydd yn galluogi darllen yn haws - does dim angen troi at y geiriadur bob 5 munud! Hefyd mae pob pennod yn fyr, sydd yn golygu y mae'n bosib ffindio'r amser i'w darllen. Yn bendant fe fyddwn i'n annog unrhyw un sydd eisiau darllen yn y Gymraeg i drio'r nofel hon. Mae'n berffaith i godi hyder dysgwyr wrth i ni drio defnyddio'r Gymraeg fwy a mwy bob dydd. -- Nicola Dunkley @ www.gwales.com Mae’r nofel hon wedi cael ei hysgrifennu gan Mared Lewis ar gyfer dysgwyr, a gwnes i ei mwynhau yn fawr iawn. Yn y dechrau, yr oeddwn i’n ffindio’r cynnwys yn ysgafn a difyr a hefyd ro’n i’n siŵr y gallwn ragweld yn union beth fyddai’n digwydd rhwng Rob (y prif gymeriad, tad sengl efo dau o blant, newydd ysgaru), a’r merched amrywiol yn ei fywyd o, yn enwedig ‘Vogue’ ac Alys. Mae Rob wedi etifeddu tŷ ar ôl marwolaeth ei fodryb, ac felly mae’n symud i fyw mewn pentref lle roedd o’n arfer aros pan oedd o’n ifanc. Mae ‘Vogue’ yn ddynes hyderus, fel model, y mae Rob yn cwrdd â hi am y tro cyntaf wrth giât yr ysgol, ac mae Alys yn hen gariad iddo. Fy hoff gymeriadau yw plant Rob – ei fachgen bach Moc, efo’i ffordd unigryw o siarad a gweld y byd; a Ffion, merch yn ei harddegau, sy’n amyneddgar ac yn annibynnol, ambell waith yn dweud pethau anodd ond hefyd yn amlwg yn caru ei thad a’i brawd iau. Ro’n i’n ffindio Wil, ffrind Anti Harriet (a fu farw cyn dechrau’r hanes), yn gymeriad diddorol hefyd. Yn ystod ail hanner y llyfr, fe digwyddodd rhywbeth nad oeddwn i’n ei ddisgwyl o gwbl, ac fe wnaeth hwn dynnu fy sylw yn syth. Mae Mared Lewis yn defnyddio iaith ysgrifenedig syml a chlir – iaith bob dydd. Os oes gair neu ymadrodd anodd, mae’n debyg y bydd cyfieithiad wedi ei ddarparu ar waelod yr un tudalen, sydd yn eich galluogi i ddarllen yn haws – does dim angen troi at y geiriadur bob pum munud! Hefyd mae pob pennod yn fyr, sydd yn golygu ei bod yn bosib ffindio’r amser i’w darllen. Yn bendant, fe fyddwn i’n annog unrhyw un sydd eisiau darllen yn y Gymraeg i drio’r nofel hon. Mae’n berffaith i godi hyder dysgwyr wrth i ni drio defnyddio’r Gymraeg fwy a mwy bob dydd. -- Nicola Dunkley @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |