|
![]() |
|||
|
||||
OverviewYm 1917 anfonwyd miliynau o wyr a bechgyn Prydain i faes y gad, ac roedd eu teuluoedd adref yn dioddef caledi, colledion mawr a phrinder bwyd hefyd. Er mwyn ysbrydoli'r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela, ac ailgynnau fflam yr ymdrech, dyma'r Biwro Propaganda yn comisiynu'r gyfres hon o chwe deg chwech print. Er bod y testunau a'r themau dan reolaeth gaeth y Biwro (a ailenwyd yn y Weinyddiaeth Wybodaeth yn y pen draw), mae'r delweddau yn dangos effaith y rhyfel ar gymdeithas, yn enwedig rol menywod. Rhannwyd y gyfres yn ddwy themau, sef 'Ymdrechion' a 'Delfrydau'. Rhannwyd 'Ymdrechion' ymhellach yn naw adran yn dangos gweithgareddau'r rhyfel: Creu Milwyr, Creu Morwyr, Gwneud Gynnau, Adeiladu Llongau, Adeiladu Awyrennau, Hwylio'r Mor, Gwaith Menywod, Trin y Tir a Trin y Clwyfedig. Comisiynwyd pob artist i greu chwe phrint ar gyfer pob adran. Yr artistiaid oedd Muirhead Bone, Frank Brangwyn, George Clausen, A. S. Hartrick, Eric Kennington, C. R. W. Nevinson, Charles Pears, William Rothenstein a Claude Shepperson. Yn y portffolio 'Delfrydau' mae deuddeg artist yn cyfleu amcanion a gobeithion y rhyfel mewn testunau fel Rhyddid y Moroedd a Buddugoliaeth Democratiaeth. Yr artistiaid oedd Frank Brangwyn, George Clausen, Edmund Dulac, Maurice Greiffenhagen, Francis Ernest Jackson, Augustus John, Gerald Moira, William Nicholson, Charles Ricketts, William Rothenstein, Charles Shannon ac Edmund Joseph Sullivan. Nid oedd gan y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Rhoddwyd y testun i bob un a rhaid oedd i bob delwedd fodloni'r sensoriaid. Fe'u talwyd yn hael fodd bynnag, gyda phob un yn derbyn GBP210 (werth tua GBP10,000 heddiw) a breindaliadau. Gwerthwyd y printiau 'Ymdrechion' am GBP2 2s 0d (GBP100) yr un a'r 'Delfrydau' am GBP3 3s 0d (GBP154). Cyhoeddwyd y printiau yn eang wedi eu harddangos am y tro cyntaf ym 1917. Ymateb llugoer gafwyd mewn rhai mannau fodd bynnag: beirniadwyd rhai delweddau am eu portread rhamantaidd o ryfel. Cafodd y printiau eu harddangos ledled Prydain ac yn Ffrainc, America, Canada ac Awstralia. Cyflwynwyd rhai setiau i orielau ac amgueddfeydd, a derbyniodd Amgueddfa Cymru ei set hithau ym 1919. Mae'r printiau yn cael eu harddangos am y tro cyntaf erioed yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2014. Full Product DetailsAuthor: National Museum WalesPublisher: Llyfrau Amgueddfa Cymru/ National Museum Wales Books Imprint: Llyfrau Amgueddfa Cymru/ National Museum Wales Books ISBN: 9780720006285ISBN 10: 0720006287 Pages: 56 Publication Date: 04 August 2014 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsAuthor InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |