|
![]() |
|||
|
||||
OverviewMae Perfformio'r Genedl yn gyfrol sy'n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i'r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o'i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol - sef astudiaeth o'r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o'r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae'r gyfrol yn canoli ar themau amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau'r Orsedd, y drafodaeth o ddramau cynnar y mudiad drama, a'r dogfennu ar weithgaredd cwmniau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu'r amryw themau yn ei waith a'u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o'r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry. Full Product DetailsAuthor: Anwen JonesPublisher: University of Wales Press Imprint: University of Wales Press ISBN: 9781786830340ISBN 10: 1786830345 Pages: 240 Publication Date: 27 April 2017 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviews'Dyma gyfrol arloesol ac amheuthun sy'n cynnig cyfres o ymatebion ysgolheigaidd i waith Hywel Teifi Edwards, ac sy'n ehangu'r drafodaeth ar astudiaethau theatr a pherfformiad yn Gymraeg. Tra bod gwaith Edwards yn wybyddus iawn ym maes y Gymraeg, dyma'r llyfr cyflawn cyntaf i hawlio pwysigrwydd ac arwyddocad i'w waith i astudiaethau theatr a pherfformiad yn benodol.' - Dr Lisa Lewis, Prifysgol De Cymru Author InformationMae Anwen Jones yn bennaeth ar Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, ac yn Ddarllenydd mewn Astudiaethau Theatr. Tab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |