|
![]() |
|||
|
||||
OverviewFull Product DetailsAuthor: Vaughan RoderickPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781784611590ISBN 10: 178461159 Pages: 432 Publication Date: 15 September 2017 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Not available ![]() This product is no longer available from the original publisher or manufacturer. There may be a chance that we can source it as a discontinued product. Language: Welsh Table of ContentsReviewsDoes fawr neb gwell na Vaughan Roderick i brynu peint iddo a dadlau datblygiadau gwleidyddol y dydd. Mi sylweddoles i hynny ar fy niwrnod cyntaf yn y BBC flynydde maith yn l.Maen wybodus, deallus, treiddgar, gwreiddiol a hynod ddireidus. Diolch i Ruth Thomas am roir cyfraniadau ysgrifenedig yma dros ddau ddegawd rhwng dau glawr.Maer gyfrol yn deyrnged deilwng i lygad manwl a greddf gref y blogiwr. Maen deall sut all manylion bychain ddweud cyfrolau, a pham fod mathemateg mor ganolog chymeriad ac egwyddorion yn y gm fawr wleidyddol.Maer ddwy flynedd diwethaf wedin hatgoffa nad ywn ddoeth ceisio darogan datblygiadau gwleidyddol, ond rhagwelodd Vaughan ein senedd grog bresennol, ac mae ganddo dalent ryfeddol i sylwi ar y datblygiadau ar cymeriadau o bwys. Gwelodd botensial Owen Smith fel y Cymro cyntaf ers Kinnock i geisio cipio arweinyddiaeth ei blaid. Awgryman fwy swil y gallai Eluned Morgan olynu Carwyn yn y Cynulliad. Ac mae awgrym cryf na oroesith Leanne Wood yn rhy hir gyda Rhun ap Iorwerth yn ei rhengoedd.Mae yma ddadansoddi craff ar berthynas gymhleth Rhodri Morgan r Gymraeg, Peter Hain a Carwyn, y Ceidwadwyr ar Cynulliad ar dosbarth gweithiol gyda Brexit. Nid cyd-ddigwyddiad, medd, fod y bws Brexit wedi ei beintion goch ac mai neges ynglyn r gwasanaeth iechyd oedd ar ei ochr.Wela i fawr o dystiolaeth, er hynny, o Vaughan yn rhoi ei ben ar y bloc, fel yr awgrymar teitl. Mae degawdau o ufuddhau i ganllawiaur Gorfforaeth yn pwyson drwm arno ac yn ei atal rhag dweud ei ddweud mor blaen ag y gallai. Rydw in parchur canllawiau hynny, ond maen drueni dychrynllyd mai dynar unig newyddiaduraeth sydd ganddon ni yng Nghymru. Mae angen colofnwyr beiddgar, pryfoclyd, syn tynnu blew o drwyn, yn corddi ac yn arddel safbwyntiau eraill. Mae angen codi cwestiynau sylfaenol am gyfundrefn unbleidiol syn cynnig cyn lleied.Yn drigain oed, gydar gallu ar profiad sydd ganddo, fe allai Vaughan fod wedi dweud lot mwy am ddisodli Dafydd Wigley, er enghraifft, ac am fethiant truenus y rhan fwyaf o aelodau Llafur Cymru yn San Steffan i ddringo or meinciau cefn. Maen cyffwrdd r pethau yma, ond heb ddod i gasgliadau, heb gynnig gwell a heb roi ei ben ar y bloc.Cawn lwyth o fanylion am y drafodaeth y tu cefn i glymblaid yr Enfys yn y Cynulliad ond dim gresynu mai camun l o gyfle hanesyddol i dorri mowld undonog ein gwleidyddiaeth ni. Rhaid troi at fyd drama Byw Celwydd i weld unrhyw un yng Nghymru hyd yn oed yn dychmygur wlad wedi ei rhyddfreinio rhag Llafur. Y siom fwyaf yw penodau cyntar gyfrol yma. Heb flog iw ailargraffu o 1997 i 2003, dylai Vaughan fod wedi chwysu dros ei hen nodiadau a sgwennu cyflwyniad caboledig yn cynnig cyd-destun a dehongliad cryno a choeth or hyn ddaw wedyn. Yn hytrach, maen siarad o dop ei ben i ficroffon y golygydd. Gallaf glywed ei lais, a mwynhau'r cynnwys ond bwffe blasus sydd fanma, nid y wledd y mae Vaughan yn fwy nag abl iw chynnig inni.Guto HarriGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |