|
|
|||
|
||||
OverviewThe first novel in a fun series about the performances of a mischevious dog in school classroom. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Jonathan Meres , Myrddin ap Dafydd , Katy HalfordPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch Dimensions: Width: 12.80cm , Height: 0.90cm , Length: 19.80cm ISBN: 9781845248116ISBN 10: 1845248112 Pages: 96 Publication Date: 30 April 2026 Audience: Children/juvenile , Children / Juvenile Format: Paperback Publisher's Status: Forthcoming Availability: In Print Limited stock is available. It will be ordered for you and shipped pending supplier's limited stock. Language: Welsh Table of ContentsReviewsNofel ysgafn a hwyliog, ond wedi’i chynllunio’n ofalus i gynorthwyo’r darllenwyr ifanc i fachu yn y stori ac i’w gwneud yn ddarllenwyr mwy hyderus a phrofiadol. Gwerth y gyfrol yw y bydd yn gwneud i blant chwerthin – ond hefyd yn magu cariad at lyfrau. Broliant Pwy yw aelod newydd y dosbarth? Cliw: mae ganddo bedair coes, mae’n cyfarth yn uchel ac mae ganddo gôt felen, flewog, gyrliog! Mae plant Ysgol Brynllawen yn gwirioni fod Nicsyn Cricsyn y ci yn eu dosbarth. Mae'n mwynhau gwrando ar stori, ac yn ymuno yn y gwersi canu! Wrth i Mr Rhys gyhoeddi eu bod am gael trip i lan y môr, a bod Nicsyn yn cael dod hefyd, mae pawb Denu plant i fwynhau darllen: Mae’r nofelau ysgafn hyn yn anelu at ddenu plant i fwynhau darllen. Maen nhw’n cael eu treialu ar gyfer plant a phobl ifanc, a hynny gan blant a phobl ifanc. Mae adnoddau addysgol yn cael eu paratoi ar gyfer gwersi parod ar y penodau – adnoddau i hwyluso gwaith athrawon wedi eu creu gan gyn-athrawon profiadol. Adolygiadau “I’r darllenwyr llai hyderus a ddysgais y llynedd, roedd Nicsyn Cricsyn yn llwyddiant ysgubol – llyfr sy’n apelio'n weledol, heb ymddangos yn rhy hawdd nac yn fabïaidd ac yn bwysicaf oll, yn rhoi pleser aruthrol i'r rhai a aeth i’w nôl oddi ar y silff.” – Mrs Sydney (World’s Smallest Library) “Llyfr ardderchog! Doniol a llawn mwynhad. Dechreuais ei ddarllen i fy mhlentyn 7 oed, ond dyma hi’n gafael yn y llyfr a’i ddarllen ei hun mewn dim o dro!” – Chemikalfaire, Toppsta.com “Fy hoff gymeriad oedd Shakira gan ei bod hi’n hoffi caws macaroni. Rydw i’n mynd i ddarllen y llyfr yma unwaith eto.” – Milesfoster, Toppsta.com “Dyma’r llyfr cyntaf lle mae fy merch wedi dewis geiriau neu frawddegau i’w darllen ei hun, neu wedi gofyn beth oedd ambell air roeddwn i wedi’i ddarllen iddi. Mae hynny oherwydd fod y gosodiad ar dudalen mor gyfeillgar a hawdd i’w ddarllen – does dim darnau maith o destun, dim ond ychydig o frawddegau gyda’i gilydd a gofod cyn yr ychydig frawddegau nesaf.” – Brightbel, Toppsta.com “Mae’n amlwg fod Jonathan Meres yn deall plant gystal ag y mae’n deall cŵn (mae’r stori yn seiliedig ar Pablo, ei gi ef ei hun). Bydd darllenwyr ifanc wrth eu bodd yn rhannu anturiaethau Nicsyn… Mae’n llyfr hynod o ddarllenadwy a bydd Nicsyn yn dod yn ffrind i bawb.” – LoveReading4Kids Cyflweliad gyda Pablo, ci yr awdur – y cymeriad sy’n ysbrydoliaeth i straeon Nicsyn Beth yw dy hoff fwyd? Y bwyd fydda i’n ei gael nesaf. Mae Jonathan [yr awdur] yn fy ngalw yn ‘hŵfer blewog’, gan fy mod yn hŵfro pob briwsionyn a ddaw i’r golwg. Pwy yw dy hoff berson? Yr un sy’n rhoi bwyd i mi. Rwy’n hoff iawn o fwyd. Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gi? Anodd ateb hwn oherwydd mai dyna rydw i wedi bod erioed. Ond rwy’n gwybod fy mod wrth fy modd yn rhedeg ar ôl brigau a pheli. Mae rasio ar ôl gwiwerod yn sbort hefyd – er nad ydw i erioed wedi dal un. Hefyd, rwy’n hoff o fwyta. Wyt ti’n helpu Jonathan gyda’i waith sgwennu? Ydw. Fi sy’n rhoi’r syniadau goraui iddo. Bydd ef yn gwadu hyn efallai. Ond dyna’r gwir. Mae’n cael llawer o syniadau wrth fynd â fi am dro. – Clwb Llyfrau Parrot Street -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Fe wnaeth y teitl Nicsyn Cricsyn – achosi pwl o chwerthin direidus acw, a daliodd y clawr deniadol gyda’r ci bach del a’i dafod allan sylw Iori (7 oed) ac Owi (3 oed), sy’n casáu eistedd yn llonydd i wrando ar unrhyw stori! Roeddwn i wedi gobeithio darllen un bennod bob nos efo’r hogiau cyn cysgu, ond fe wnaethon ni orffen y nofel mewn pedair noson wedi iddynt swnian am fwy a mwy o helyntion y ci bach. Nicsyn Cricsyn yw prif gymeriad y nofel – ci annwyl Ysgol Brynllawen. Daw Mr Rhys â Nicsyn i’r ysgol wedi i’w berchennog fynd i gartref gofal. Mae’r disgyblion yn gwirioni ar eu cyfaill bach blewog er ei fod yn dwyn o’u bagiau ac yn pi-pi ar goes y bwrdd! Fel y gallwch ddychmygu, fe achosodd hyn dipyn o giglan yn y gwely! Er gwaethaf ei ddireidi, gwelwn Nicsyn yn meithrin perthynas arbennig â’r disgyblion gan eu helpu i oresgyn eu hofnau a datblygu eu hyder. Mae’r ci bach yn arwr, yn ‘siwper-gricsyn’ erbyn diwedd y nofel – ond rhaid i chi ddarllen y stori er mwyn gwybod pam – er iddo fyrstio pêl y plant, dwyn selsigen a chwalu’r castell tywod! Mae hiwmor y nofel yn hudolus a diniweidrwydd y ddeialog yn ddoniol. Dyma lyfr hawdd iawn i’w ddarllen gyda phenodau byr, iaith syml, testun bras a digon o ofod rhwng paragraffau er mwyn prosesu ac ymlacio. Cipiwyd y llyfr o’m llaw er mwyn craffu ar y lluniau bywiog sy’n dod â’r cymeriadau a’r “ci hanner call a dwl” yn fyw! Mae’r cod QR ar ddiwedd y nofel yn arwain at amrywiaeth cyfoethog o weithgareddau, gan gynnwys tasgau fel lliwio, adnabod gwahaniaethau, trafod, darllen pellach a gweithgareddau creadigol. Mae’n adnodd cyfoes ac ymarferol fydd yn cefnogi athrawon i gynllunio’n effeithiol ac yn galluogi rhieni i feithrin hyder a sgiliau darllen eu plentyn yn y cartref. Un cwestiwn oedd gan yr hogiau ar ddiwedd y nofel: “Mam, plis gawn ni gi?” -- Teleri Jones @ www.gwales.com Author InformationMae’r gyfres hon o lyfrau am gi a’i gyfeillion dynol wedi’i chreu gan yr awdur hynod o boblogaidd, Jonathan Meres – awdur dros 30 o lyfrau plant. Dechreuodd Katy Halford, darlunydd y gyfres, wneud lluniau a chreu ei byd hudolus ei hun pan oedd yn blentyn. Mae wedi gwirioni ar dynnu lluniau pobl ac anifeiliaid. -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Tab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |
||||