|
![]() |
|||
|
||||
OverviewA handy anthology of Welsh quotations. They appear under the following headings: The Year and its Seasons; Advice and Comments; Wales and things Welsh; Proverbs and Sayings; Verses, Folk Songs, Nurdery Rhymes; The Bible; Hymns, Prayers and Religious Sayings. Includes an index of atuhors / collections and and index of quotations. Full Product DetailsAuthor: Edwin C. LewisPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781843237105ISBN 10: 1843237105 Pages: 377 Publication Date: 28 February 2007 Audience: General/trade , General Format: Hardback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsDyma ychwanegiad gwerthfawr at ein dyfyniaduron modern, megis Mil o Ddyfyniadau Cymraeg, Gwilym Lloyd Edwards, ar Flodeugerdd o Ddyfyniadau Cymraeg, Alan Llwyd. Fel yn achos y rhai hynny, dewis un person sydd yma, ac ofer fyddai dechrau holi pam y cafodd dyfyniad arbennig fynediad, a pham y caewyd y drws ar un arall. Nid yr un yw chwaeth pawb, ar modd i drin y gyfrol hon yw pori ynddi ai mwynhau, oherwydd y mae yma berlau lawer, y cyfan wedi eu dosbarthu o dan wyth o benawdau, a mynegeion manwl yn allwedd ir cwbl. Dyma rai or pethau m trawodd i wrth fodior gyfrol. O sn am berlau, petair awdur wedi chwynnu ychydig yma ac acw, byddai wedi cael lle i fwy o amrywiaeth ohonynt. Er enghraifft, a oedd angen dyfynnur ddihareb Un wennol na wna wanwyn(rhif 34) yn syth ar l cwpled o waith Edmwnd Prys, Na chred ei bod, rhod ywr rhl, / Yn wanwyn er un wennol? (35) Ac oni chollwyd cyfle i gynnwys rhywbeth gwahanol yn lle un or canlynol: Mor anwadal cheiliog y gwynt (619) a Mor gyfnewidiol cheiliog y gwynt (622)? Gellir ychwanegu enghreifftiau eraill, megis 618 a 636, 676 a 727, ac yn y blaen. Y mae l darllen proflenni gofalus ar y gyfrol, a phrin iawn ywr brychau sydd yn y testun. Dewis anffodus o ffynhonnell a roddodd y darlleniad cloff ir triban cyfarwydd am y chwilen bwm (17). Maer drydedd linell yn glonciog, a chollwyd yr odl fewnol yn y llinell olaf. Dylai ddarllen fel hyn: Does fawr o goel ar chwilen bwm, / Gall fwrwn drwm serch hynny. Digwyddodd yr un peth mewn triban arall (749) syn gorffen r llinellau: Ni gawn lawenydd gydar rhain / Ar tannau mn yn tiwnio, lle mae mn yn wall amlwg am main. Nodwedd newydd yn y gyfrol hon oi chymharu r cyfrolau uchod ywr cyfieithiadau o ieithoedd eraill a geir ynddi, ynghyd r fersiwn gwreiddiol ar ffynhonnell. Gwaith yr awdur ei hun, yn l y broliant, ywr cyfieithiadau hyn, a rhaid dweud bod graen arbennig arnynt. Yn yr adran lle dyfynnir or Beibl, ceir ganddo, ymhlith darnau or cyfieithiad newydd, ddarnau hefyd or hen gyfieithiad. Bendith arno am hynny -- bitin wir na fyddai wedi glynu wrth yr hen yn unig. Meddylier am yr adnod honno o Lyfr Job (rhif 888 yma): Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. Yn enw cywirdeb (maen debyg) aeth yn debyg i frawddeg o adroddiad am gm bl-droed: Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw, ac y saif yn gefnogwr ar y ddaear. Sylwais na ddyfynnwyd o Ganiad godidog Solomon i sn am lais y durtur yn ein gwlad, am ddiadell o ddefaid gwastatgnaif y rhai a ddaethant i fyny or olchfa, ac am y ferch honno wedi ei pherarogli myr, ac a thus, ac a phob powdr yr apothecari. Nid beirniadaeth yw hyn ond sylwn unig wedir cyfan, detholiad Mr Lewis yw hwn, nid fy netholiad i, a diolch yn fawr iddo amdano. Tegwyn Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |