|
![]() |
|||
|
||||
OverviewA comprehensive thesaurus for primary school children, compiled by the lexicographer D. Geraint Lewis. All the words included in the volume appear in either Geiriadur Cynradd Gomer in the case of the most familiar words, or in Geiriadur Gomer i'r Ifanc in the case of less familiar words. Reprint; first published in 2011. Full Product DetailsAuthor: D. Geraint LewisPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781843238614ISBN 10: 1843238616 Pages: 192 Publication Date: 08 February 2023 Recommended Age: 9 years Audience: Primary & secondary/elementary & high school , Educational: Primary & Secondary Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Table of ContentsReviewsDyma gyfrol arall o weithdy ein prif olygydd cyfeirlyfrau, D. Geraint Lewis thesawrws i blant syn 8 oed neun hyn y tro hwn. Pan sonnir am thesawrws mae dyn yn meddwl yn y lle cyntaf am waith Roget, syn ceisio cyfundrefnu holl eirfar iaith Saesneg dan ryw fil o benawdau. Ond mae llawer wedi ceisio dosbarthu geirfar Saesneg pob un mewn ffordd wahanol. Yn anffodus gan nad mater o sythwelediad mor un or systemau a ddefnyddir mae angen mynegai. Oherwydd hynny maen haws dosbarthu yn nhrefn yr wyddor, fel y gwneir yn y thesawrws hwn. Amcan thesawrws, meddair awdur, yw helpu unigolyn i ddod o hyd i air nad ywn gallui gofio...[ac] i chwilio am air newydd, tebyg ei ystyr, trwy edrych dan air mwy cyfarwydd. Gallwn feddwl mair ail, sef ehangu geirfar plentyn, fyddai amcan pwysicaf y gwaith hwn. Nid thesawrws hollol draddodiadol mohono. Mewn thesawrws traddodiadol ceir dangoseiriau ynghyd geiriau cyfystyr a geiriau croes eu hystyr, ac yn aml nid llawer mwy. Maer rhain, wrth reswm, iw cael yn y thesawrws hwn. Ym mhob erthygl bron mae dangosair a brawddeg enghreifftiol ac yna eiriau y gellir eu cyfnewid r dangosair yn y frawddeg honno. Yna ar ben hynny ceir rhestr o eiriau ac iddynt arlliw o ystyr wahanol, ynghyd brawddeg enghreifftiol i bob un ac weithiau diffiniad. Yn aml ychwanegir priod-ddulliau mewn teip coch ynghyd diffiniadau. Defnyddir paneli melyn i gynnwys rhestrau o eiriau perthynol, e.e. mathau o ddewiniaid neu o grefyddwyr. Ar y diwedd mae mynegai (syn cynnwys colofn rhan ymadrodd, peth syn tywyllu cyngor, yn fy marn i). Maer fframwaith hwn ar dylunio yn gwneud y llyfr yn ddelfrydol i ddysgu plant sut mae defnyddio thesawrws a geiriadur. Gallai rhai syn dysgu Cymraeg elwa oi ddefnyddio hefyd. D. Geraint Lewis yw awdur Geiriadur Cynradd Gomer a Geiriadur Gomer ir Ifanc, lle ceir diffiniadau o bob gair ac ymadrodd a gynhwysir yn y Thesawrws. Deallaf ei fod yn gweithio ar eiriadur mwy cynhwysfawr. Hir oes iddo i gynhyrchu thesawrws ir ifanc wedyn, yna un i oedolion, ac yng nghyflawnder yr amser un ir hen, y musgrell, ar piwis! Gareth Bevan Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |