Llyfrau Llafar Gwlad: 90. Dyrnwr Mawr, Y

Author:   Twm Elias ,  Emlyn Richards
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845276287


Pages:   118
Publication Date:   21 June 2017
Format:   Paperback
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $19.41 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Llyfrau Llafar Gwlad: 90. Dyrnwr Mawr, Y


Overview

At one time, the 'Thresher' was the largest and most complex farm machine, and this volume relates the story of the machine and the threshing day. Technical and agricultural information is included together with details re the social nature of this important and memorable activity.

Full Product Details

Author:   Twm Elias ,  Emlyn Richards
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845276287


ISBN 10:   1845276280
Pages:   118
Publication Date:   21 June 2017
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Fel y gwyddom oll, maer byd wedi newid yn aruthrol yn y can mlynedd diwethaf, a does unlle syn amlygur newid hwnnw yn fwy nar byd amaethyddol. Yn y gyfrol Y Dyrnwr Mawr cawn hanes un rhan o amaethyddiaeth Cymru wrth iddi ymgodymu r newid i beiriannau mecanyddol, ac yn wir cawn lawer mwy na hanes y dyrnwr yn unig, gan fod yma ddarlun cymdeithasol o ffordd o fyw sydd wedi diflannu (gan gynnwys y cnoi baco a phastynu llygod!). Camp Twm Elias ac Emlyn Richards yw iddynt gofnodi hanes dyrnu, sef y broses hen honno i ddidolir grawn or gwellt, ys dywedir yn y llyfr, yng nghefn gwlad Cymru mewn ffordd ddifyr ac addysgol.Maer penodau cyntaf yn wledd o hanes amaethyddiaeth yn gyffredinol, ac yn enwedig hanes datblygiad y gwaith o fedir cynhaeaf, ar offer ar prosesau a ddefnyddid, megis pwysigrwydd y sgubor fel brenhines adeiladaur fferm. Cawn gefndir cynhwysfawr a difyr, yn gyforiog o gyfeiriadau Beiblaidd a llenyddol sy'n bleser iw ddarllen. Mae rhan olaf y llyfr yn fwy sgyrsiol ei natur, yn ymdrin yn fwy dyrnu fel achlysur cymdeithasol ac yn cyflwyno cymeriadau, atgofion a hanesion penodol sydd hefyd yn bwysig iw cadw ir oesoedd a ddl. Peidiwch chael eich camarwain gan yr isteitl Ynys Mn a Llyn. Maer hanes diddorol yn y penodau cyntaf yn fyd-eang a chyffredinol, a chyfeiriadau yma at y Bala a Chyffylliog ymysg eraill, er bod penodau olaf y llyfr yn pwyso mwy ar dystiolaeth a hanesion o Fn a Llyn. Diddorol oedd yr hanesyn yn sn bod darpariaeth arlwyo Sir Aberteifi yn rhagori ar y gogledd!Swta braidd oedd y sn am y newid yn y byd amaethyddol a arweiniodd at ddiwedd y dyrnwr, ond cafwyd diweddglo cadarnhaol iawn wrth gyflwyno gwaith y Gymdeithas Dyrnu yn Amlwch ar Cylch. Gan y dywedir yn y llyfr ei hun: Prin iawn felly yw gweld y dyrnwr medi ar waith erbyn ein dyddiau ni, nac unrhyw fath o ddyrnu mewn gwirionedd, efallai y gellid wedi ehangu ar y cyflwyniad ar y dechrau, heb gymryd yn ganiataol fod gan y darllenydd gefndir i ddeall. Byddai darlun manwl or dyrnwr ei hun ai swyddogaethau wedi bod yn gaffaeliad, ac er bod y cyd-destun bob amser yn esbonio geiriau anghyfarwydd, byddai geirfa a therminoleg syml hefyd wedi bod o fudd efallai. Ond yn sicr dyma gyfrol amhrisiadwy arall yng nghyfres Llyfrau llafar Gwlad.Gwenllan DafyddGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council -- Cyngor Llyfrau Cymru


Fel y gwyddom oll, maer byd wedi newid yn aruthrol yn y can mlynedd diwethaf, a does unlle syn amlygur newid hwnnw yn fwy nar byd amaethyddol. Yn y gyfrol Y Dyrnwr Mawr cawn hanes un rhan o amaethyddiaeth Cymru wrth iddi ymgodymu r newid i beiriannau mecanyddol, ac yn wir cawn lawer mwy na hanes y dyrnwr yn unig, gan fod yma ddarlun cymdeithasol o ffordd o fyw sydd wedi diflannu (gan gynnwys y cnoi baco a phastynu llygod!). Camp Twm Elias ac Emlyn Richards yw iddynt gofnodi hanes dyrnu, sef y broses hen honno i ddidolir grawn or gwellt, ys dywedir yn y llyfr, yng nghefn gwlad Cymru mewn ffordd ddifyr ac addysgol. Maer penodau cyntaf yn wledd o hanes amaethyddiaeth yn gyffredinol, ac yn enwedig hanes datblygiad y gwaith o fedir cynhaeaf, ar offer ar prosesau a ddefnyddid, megis pwysigrwydd y sgubor fel brenhines adeiladaur fferm. Cawn gefndir cynhwysfawr a difyr, yn gyforiog o gyfeiriadau Beiblaidd a llenyddol sy'n bleser iw ddarllen. Mae rhan olaf y llyfr yn fwy sgyrsiol ei natur, yn ymdrin yn fwy dyrnu fel achlysur cymdeithasol ac yn cyflwyno cymeriadau, atgofion a hanesion penodol sydd hefyd yn bwysig iw cadw ir oesoedd a ddl. Peidiwch chael eich camarwain gan yr isteitl Ynys Mn a Llyn. Maer hanes diddorol yn y penodau cyntaf yn fyd-eang a chyffredinol, a chyfeiriadau yma at y Bala a Chyffylliog ymysg eraill, er bod penodau olaf y llyfr yn pwyso mwy ar dystiolaeth a hanesion o Fn a Llyn. Diddorol oedd yr hanesyn yn sn bod darpariaeth arlwyo Sir Aberteifi yn rhagori ar y gogledd! Swta braidd oedd y sn am y newid yn y byd amaethyddol a arweiniodd at ddiwedd y dyrnwr, ond cafwyd diweddglo cadarnhaol iawn wrth gyflwyno gwaith y Gymdeithas Dyrnu yn Amlwch ar Cylch. Gan y dywedir yn y llyfr ei hun: Prin iawn felly yw gweld y dyrnwr medi ar waith erbyn ein dyddiau ni, nac unrhyw fath o ddyrnu mewn gwirionedd, efallai y gellid wedi ehangu ar y cyflwyniad ar y dechrau, heb gymryd yn ganiataol fod gan y darllenydd gefndir i ddeall. Byddai darlun manwl or dyrnwr ei hun ai swyddogaethau wedi bod yn gaffaeliad, ac er bod y cyd-destun bob amser yn esbonio geiriau anghyfarwydd, byddai geirfa a therminoleg syml hefyd wedi bod o fudd efallai. Ond yn sicr dyma gyfrol amhrisiadwy arall yng nghyfres Llyfrau llafar Gwlad. Gwenllan Dafydd Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council -- Cyngor Llyfrau Cymru


O holl weithgareddau byd y fferm hyd at y 1960au a'r 70au mae'n debyg mai'r diwrnod dyrnu adawodd yr argraff ddyfnaf yn y cof. Byddai ymweliad 'gwyllt beiriant yr ysguboriau' a'r criw o gymdogion fyddai eu hangen i'w weithio yn golygu diwrnod hwyliog a chynhyrchiol oedd yn llawn delweddau cofiadwy. Gwaith trwm, llychlyd a pheryglus yn aml ond y gwmniaeth, y tynnu coes a'r cinio dyrnu yn llwyr gwneud iawn am hynny. Yn ei ddydd y dyrnwr mawr, hyd ddyfodiad y dyrnwr medi, oedd y peiriant amaethyddol mwyaf ei faint a'i gymhlethdod a welwyd erioed ar unrhyw fferm. Cawn olrhain hanes dyrnu o gyfnod y ffust hyd ddatblygiad y dyrnwr bach syml yn y 18fed ganrif ac yna y dyrnwr mawr a barhaodd am ganrif gron o'r 1860au i'r 1960au. Hanesion am y dynion, hwyl y gylchdaith o fferm i fferm, troeon trwstan, rhigymau bachog a chystadleuaeth y merched i ddarparu'r cinio gorau - maen nhw yma i gyd. -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Fel y gwyddom oll, mae'r byd wedi newid yn aruthrol yn y can mlynedd diwethaf, a does unlle sy'n amlygu'r newid hwnnw yn fwy na'r byd amaethyddol. Yn y gyfrol Y Dyrnwr Mawr cawn hanes un rhan o amaethyddiaeth Cymru wrth iddi ymgodymu a'r newid i beiriannau mecanyddol, ac yn wir, cawn lawer mwy na hanes y dyrnwr yn unig, gan fod yma ddarlun cymdeithasol o ffordd o fyw sydd wedi diflannu (gan gynnwys y cnoi baco a phastynu llygod!). Camp Twm Elias ac Emlyn Richards yw iddynt gofnodi hanes dyrnu, sef y 'broses hen honno i ddidoli'r grawn o'r gwellt', ys dywedir yn y llyfr, yng nghefn gwlad Cymru mewn ffordd ddifyr ac addysgiadol. Mae'r penodau cyntaf yn wledd o hanes amaethyddiaeth yn gyffredinol, ac yn enwedig hanes datblygiad y gwaith o fedi'r cynhaeaf, a'r offer a'r prosesau a ddefnyddid, megis pwysigrwydd y sgubor fel 'brenhines adeiladau'r fferm'. Cawn gefndir cynhwysfawr a difyr, yn gyforiog o gyfeiriadau beiblaidd a llenyddol, sy'n bleser i'w ddarllen. Mae rhan olaf y llyfr yn fwy sgyrsiol ei natur, yn ymdrin yn fwy a dyrnu fel achlysur cymdeithasol ac yn cyflwyno cymeriadau, atgofion a hanesion penodol sydd hefyd yn bwysig i'w cadw i'r oesoedd a ddel. Peidiwch a chael eich camarwain gan yr isteitl 'Ynys Mon a Llyn'. Mae'r hanes diddorol yn y penodau cyntaf yn fyd-eang a chyffredinol, a chyfeiriadau yma at y Bala a Chyffylliog ymysg llefydd eraill, er bod penodau olaf y llyfr yn pwyso mwy ar dystiolaeth a hanesion o Fon a Llyn. Diddorol oedd yr hanesyn yn son bod darpariaeth arlwyo Sir Aberteifi yn rhagori ar y gogledd! Swta braidd oedd y son am y newid yn y byd amaethyddol a arweiniodd at ddiwedd y dyrnwr, ond cafwyd diweddglo cadarnhaol iawn wrth gyflwyno gwaith y Gymdeithas Dyrnu yn Amlwch a'r cylch. Gan y dywedir yn y llyfr ei hun, 'Prin iawn felly yw gweld y dyrnwr medi ar waith erbyn ein dyddiau ni, nac unrhyw fath o ddyrnu mewn gwirionedd', efallai y gellid bod wedi ehangu ar y cyflwyniad ar y dechrau, heb gymryd yn ganiataol fod gan y darllenydd gefndir i ddeall. Byddai darlun manwl o'r dyrnwr ei hun a'i swyddogaethau wedi bod yn gaffaeliad, ac er bod y cyd-destun bob amser yn esbonio geiriau anghyfarwydd, byddai geirfa a therminoleg syml hefyd wedi bod o fudd efallai. Ond yn sicr dyma gyfrol amhrisiadwy arall yng nghyfres Llyfrau Llafar Gwlad. -- Gwenllian Dafydd @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

NOV RG 20252

 

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List