|
![]() |
|||
|
||||
OverviewA collection of autobiographical articles which look at the milestones in the life and works of one of Wales' most prominent writers as he reaches his eightieth birthday. Nearly 40 black and white photographs are also included. Full Product DetailsAuthor: T.James JonesPublisher: Cyhoeddiadau Barddas Imprint: Cyhoeddiadau Barddas Volume: No. 1 ISBN: 9781906396800ISBN 10: 1906396809 Pages: 238 Publication Date: 05 November 2014 Audience: General/trade , General Format: Hardback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsUn o theorau llenyddol mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif oedd honno a gyflwynwyd gan Roland Barthes yn ei draethawd, La mort de lauteur. Honnai Barthes na ddylid troi o gwbl at fywyd yr awdur, ei farn wleidyddol, ei grefydd, ei genedligrwydd nai seicoleg, na chwaith y cyd-destun hanesyddol nar un nodwedd bersonol arall, wrth ddadansoddii waith. Fuasai gan Barthes fawr iw ddweud wrth y gyfrol hon, felly, ond i nir Cymry, syn hoffi gwybod pwy ydi pwy a beth ydi beth, bydd y dehongliad personol o fywyd a gwaith T. James Jones Jim Parc Nest yn apelgar a gwahanol. Gwyddys fod hunangofiannaun gwerthun lleng, a bu galw mawr yn y blynyddoedd diweddar am gofiannau swmpus hefyd meddyliwch am Saunders, Kate, Bob, Waldo ar cewri un enw eraill. Yn y gyfrol hon, priodwyd yr hunangofiant poblogaidd gydar cofiant swmpus, gan ofyn ir gwrthrych ddadansoddii fywyd ai waith ei hun. Tipyn o her! Ar y cyfan, maer gyfrol yn llwyddo, ond mae hynny am fod yma wrthrych penigamp i gychwyn y gyfres. Ceir dadansoddi treiddgar o ddylanwadau ei fagwraeth ar y llenor, a dyfynnu helaeth (rhy helaeth weithiau) ar ei gerddi. I mi, y penodau gorau oedd y rheiny bler i Jim ir afael i ysgogiad ei berthynas gwaith Dylan Thomas, er enghraifft; cafwyd penodau llai gafaelgar tua diwedd y llyfr, ble dododd ei hun mewn magl o ddechrau dyfynnu teyrngedau i aelodaur teulu, a gorfod dal ati rhag pechu neb, o bosib. Dyma gyfrol a fydd at ddant darllenwyr hunangofiannau, cofiannau a barddoniaeth. Os ywr cerddin ormod o bwdin i chi, anwybyddwch nhw a pheidiwch gadael iddyn nhw amharu ar lif y naratif. Ond byddwch ar eich colled, oherwydd mae hin werth dyfalbarhau nhw mor ardderchog o fardd yw T. James Jones, a chymaint y dylanwadodd ei fywyd ar ei waith. Barthes? Bu yntau farw yn 1980 ... Bethan Mair Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |