|
![]() |
|||
|
||||
OverviewThis memorable photographic record details the history of mass language demonstrations in Wales over the last fifty years, from the Welsh Language Society's first protest in 1963 on Trefechan bridge to other controversial and confrontational campaigns and court cases up to the present day. Full Product DetailsAuthor: Amrywiol , Arwel VittlePublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781847717184ISBN 10: 1847717187 Pages: 228 Publication Date: 06 November 2013 Audience: General/trade , General Format: Hardback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsRhagymadrodd, Arwel Vittle Ar Bont Trefechan, Aled Gwyn Tryweryn, Caernarfon a Chilmeri Yr ymgyrch arwyddion ffyrdd, Robat Gruffudd Helynt Hailsham, Bangor, 1972 Y frwydr i sefydlu S4C Helyntion Coleg Bangor, Iwan Edgar Dal ati, Angharad Tomos Ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd Wynebu'r mewnlifiad Ymgyrchoedd Deddf Iaith 1993 a Mesur Iaith 2011, Dafydd Morgan Lewis Pont Trefechan 2013, Marian Delyth -- Cyhoeddwr: Y LolfaReviewsMor ddifyr yw syllu ar y llu lluniau yn y gyfrol sylweddol hon hen gyfeillion yng ngwres hanner canrif o frwydr. Maen nhw i gyd yma Ffred, Dafydd, Robat, Angharad Tomos, Merd, Gwynfor, DJ ... Sylwais ar yr Athro A. O. H. Jarman, Caerdydd, mewn un llun. Ble bynnag y byddai gwrthdystiad, yno, yn amlach na pheidio, yn dawel ac urddasol, fyddair Athro Jarman. Mae Ir Gad yn gofnod o hanes unigolion yn ogystal ag o fudiad a brwydr yr iaith. Mae i bob llun ei stori. Hen ystrydeb newyddiadurol yw dweud bod llun yn werth mil o eiriau, ond os felly, mae rhai o luniau'r gyfrol hon yn eiriol amhrisiadwy. Nid yn unig y mae lluniau da yn y gyfrol hon ugeiniau ohonynt, cannoedd yn wir y mae yma eiriau da, hefyd. Mae ysgrif golygydd y gyfrol, Arwel Vittle, am bwysigrwydd y ffotograffydd yn dal hanfod yr eiliad yn feistrolgar. Ardderchog, hefyd, ywr ysgrifau eraill. Ystrydeb newyddiadurol arall yw nad ywr cameran dweud anwiredd. Ond maen fwy cymhleth na hynny. Maer lluniau, fel y dywed Arwel Vittle yn ei ddadansoddiad, yn dangos ble mae cydymdeimlad y ffotograffwyr. Yr oeddwn yn adnabod Geoff Charles yn dda ac wedi gweithio llawer gydag e ar Y Cymro ac wedi hynny. Yr oedd y mwyaf cydwybodol a dibynadwy or holl ffotograffwyr y bu i mi weithio gyda nhw dros y blynyddoedd. Er gwaethaf ei fagwraeth led-Gymreig yn Sir Fflint, ef oedd y mwyaf cenedlaetholgar or hen do ar staff Y Cymro ac ef oedd y cyntaf i gydymdeimlon llwyr gydag amcanion a dulliau Cymdeithas yr Iaith. Mae maint ei gyfraniad ir gyfrol hon yn dyst iw ddygnwch ai gydymdeimlad yn y nyddiau cynnar y Gymdeithas. Gan Raymond Daniel y ceir rhai or lluniau mwyaf eiconig or protestiadau. Maer un o Nan Bowyer yn gorymdeithio yng Nghaerdydd ym 1970 yn gyfuniad rhyfeddol o angerdd a dwyster tawel ac o unigrwydd y gwrthdystiwr. Roedd Ray a Geoff yn feistri ar gipior llun perffaith o ganol anhrefn a pheryglon y brotest. Marian Delyth ywr trydydd or tri ffotograffydd syn gwneud y cyfraniad mwyaf ir gyfrol hon a chanddi hi y cawn rai o luniau mwyaf artistig y gyfrol. Mor ffodus y buom i gael cofnod tri mor ddawnus a chydwybodol. Gwir gyfeillion y mudiad iaith. Ceir lluniau campus gan ffotograffwyr eraill yn y gyfrol a chafwyd lluniau arbennig gan eraill a gofnododd y frwydr ond nas cynrychiolir o gwbl yn y gyfrol. Cyfeiriaf at waith Dorothea Heath a fu farw yn gynharach eleni. Bydd yn drychineb os ei gwaith hi i ddifancoll. Un pwynt i orffen strc anfawrol oedd cynnwys lluniau a dynnwyd gan awdurdodau Coleg Bangor i gael tystiolaeth o bwy oedd yn protestio yn erbyn polisau gwrth-Gymraeg y coleg ddiwedd y saithdegau a dechraur wythdegau. Lluniau y gellir eu cymharu gyda gwaith y ffotograffwyr 'iawn', ac os ydych yn amau a all y camera, neur sawl syn ei ddefnyddio, ddangos tuedd dymar prawf. Gwyn Griffiths Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |