|
![]() |
|||
|
||||
OverviewA collection of jokes and humorous stories about the inhabitants of Cardiganshire, by Emyr Llewelyn. Full Product DetailsAuthor: Emyr Llywelyn , Elwyn IoanPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa Dimensions: Width: 0.10cm , Height: 0.30cm , Length: 0.10cm ISBN: 9780862438944ISBN 10: 0862438942 Pages: 93 Publication Date: 30 March 2006 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsYsgol Llandysul gynt; Plant; Profiadau athro; Dala'r slac yn dynn; Bois y wlad; Poced ddwfn y Cardi; Dim swache; Y Cardi a'i wraig; Saco bola'n dynn; Gan y gwirion ceir...; Ateb parod; Cyfreithwyr a meddygon; Y cwrw gorau; Hiwmor ar gan; Y Bardd Gwlad yn creu chwerthin; Direidi Dyffryn Aeron; Cymeriadau Ceredigion.ReviewsYm 1934, cyhoeddwyd Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill, casgliad o ganeuon a cherddi ysgafn gan y digrifwr Idwal Jones. Cyflwynodd y gyfrol i Waldo, ei ffrind mawr ac un o gewrir genedl: I Waldo Goronwy Williams, am fy nghadw ar ddihun y nos yn cyfansoddi limrigau, lawer tro, pan ddylswn fod yn cysgu. Oni bai am ddynion oi fath ef achubid Cymru rhag rhywbeth fel hyn. Wrth adolygu Hiwmor y Cardi dwedaf innau yn gwbl groes, sef bod Emyr Llywelyn yn y gyfrol hon wedi achub llawer o gyfoeth y genedl rhag diflannu am byth. Mae doniolwch, rhigymau ysgafn a hanesion troeon trwstan bob amser iw croesawu gan bawb, a dyma gyfrol arall ddifyrrus iawn yn y gyfres Tin Jocan, wedi ei hysgrifennu gan Gardi. Mae yma storau at ddant pawb, yr ifanc ar hen: hiwmor a gonestrwydd plant o brofiad yr awdur fel athro; rhigymau a adroddwyd gan genedlaethau o blant ysgolion cynradd, a disgrifiad o gymeriadau amrywiol, fel y prifeirdd S.B. Jones a Sarnicol, beirdd gwlad fel Tydfor ac Isfoel a digrifwyr fel Eirwyn Pontsin, gyda dyfyniadau ou gwaith, heb sn am y nythaid o feirdd yng ngodrer sir. Daw llu o atgofion wrth ddarllen Y Dyn Dierth (S.B. Jones), darn a adroddwyd gan D.J. Lloyd, Pontarsais yn eisteddfodaur wlad hanner canrif a mwy yn l er na feddyliais erioed fod y darn yn un mor hir. Maer awdur hefyd yn dyfynnu gwaith Idwal Jones a D. Jacob Davies - caneuon ysgafn y bu bri mawr arnynt wrth eu canu mewn llu o gyngherddau welcome home yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae llyfrau Idwal Jones a Jacob yn fy meddiant ers dyddiau fy mhlentyndod, llyfrau a ysgrifennwyd nid ir doeth ar deallus ond ir bobol gyffredin, er mawr bleser i mi am tebyg. Trysoraf y llyfrau yma fel y gwnaf yn siwr drysori Hiwmor y Cardi gan Emyr Llywelyn. Dyma gyfrol ddifyr iawn, cyfrol y dylai pob Cardi syn gwerthfawrogi hiwmor a doniolwch fod yn berchen arni, yn arbennig felly Gardi oddi cartref fel fi oherwydd y pleser ychwanegol a geir yn sgil yr atgofion ddaw wrth ei darllen. Roy Davies Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationMae Emyr Llew yn un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg a'i wreiddiau'n ddwfn yng Ngheredigion. Bu'n athro, awdur, darlithydd, ac ymgyrchydd dros yr iaith. Mae'n byw yn Ffostrasol ac ef yw golygydd y Faner Newydd. Tab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |