Hawl i Fyw - Hunangofiant Irfon Williams

Author:   Irfon Williams
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845276140


Pages:   254
Publication Date:   22 November 2017
Format:   Paperback
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $17.98 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Hawl i Fyw - Hunangofiant Irfon Williams


Overview

Full Product Details

Author:   Irfon Williams
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845276140


ISBN 10:   1845276140
Pages:   254
Publication Date:   22 November 2017
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Dyma hanes siwrne bersonol un dyn wrth iddo wynebu canser a hanes ei frwydr gyhoeddus ddewr i sicrhau tegwch i gleifion au teuluoedd ledled Cymru -- Gwasg Carreg Gwalch

Reviews

Cynhelir LANSIAD y gyfrol yng NGHLWB RYGBI BANGOR NOS WENER, TACHWEDD 24ain am 7.30 yh yng nghwmni ELIN FFLUR a RHYS MEIRION gyda LLION WILLIAMS yn darllen Mynediad am ddim Croeso i bawb -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Dyma'r llyfr a roddodd yr ysgytwad mwyaf i mi erioed. Ar adegau mae'r gonestrwydd yn ingol - hanes bywyd un a droes drychineb personol yn ysbrydoliaeth. Yr oedd Irfon Williams wedi marw cyn cyhoeddi ei hunangofiant Hawl i Fyw, a phrawf o'i ddycnwch a'i wytnwch oedd iddo orffen sgrifennu'r gyfrol yn ei wely ddyddiau cyn ei farwolaeth. Roedd yn 46 oed. Dair blynedd cyn hynny canfuwyd bod ganddo ganser y coluddyn a bod y canser wedi lledu i organau eraill ei gorff - ergyd ofnadwy i ddyn hwyliog, egniol, yn wr a thad gofalus oedd yn mwynhau bywyd i'r eithaf. Roedd yn gymeriad a hanner, ac yn un a fu'n chwarae rygbi ac yn hyfforddi chwaraewyr eraill. Roedd Irfon yn gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd, ym maes iechyd meddwl plant a phobol ifanc, ac yn sydyn yr oedd mewn brwydr gyda'r sefydliad a oedd yn ei gyflogi, a'r sefydliad gwleidyddol yng Nghymru. Yr oedd tystiolaeth fod Cetuximab yn effeithiol mewn achosion cynnar o ganser y coluddyn, ond nid oedd y cyffur ar gael yng Nghymru. Cafodd ymgyrch Irfon i gael y cyffur iddo'i hun, ac yn arbennig i eraill oedd yn dioddef canser, sylw ledled Cymru a thu hwnt. Yn ei achos ef bu raid iddo fynd am gyfnod i fyw i Ellesmere Port er mwyn derbyn Cetuximab. Dyna gychwyn ar ei ymgyrch fawr, a nifer o ymgyrchoedd, yn wir. Bu'n codi arian i'r elusen Awyr Las, elusen y gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Cododd Irfon a'i gefnogwyr - #timirfon - GBP150,000 i gefnogi anghenion pobol leol oedd yn dioddef o ganser. Ymgyrch i ddileu'r loteri cod post oedd Hawl i Fyw - ac roedd hwnnw'n gam anodd gan fod Irfon a'i wraig Becky yn gweithio ym maes iechyd. Buan y clywsant fod staff Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a staff cynghorau lleol yn y gogledd wedi cael rhybudd i fod yn ofalus ynglyn a chefnogi ymgyrchoedd gwleidyddol. Er hyn, daliodd ati a'r ymgyrch hon a'i gwnaeth yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau. Ochr yn ochr a hyn, yr oedd iechyd Irfon a'r canser yn graddol waethygu, a cheir disgrifiadau dirdynnol o'r triniaethau ynghyd a'r llawenydd a'r gobaith achlysurol. Mae'n stori hwyliog, hefyd, yn arbennig am ei gyfnod yn nyrs, gyda straeon teilwng o Doctor in the House a ffimliau Carry on ... Yn ogystal a'r hunangofiant, ceir yn y gyfrol eiriau o deyrnged iddo gan gyfeillion, cyd-weithwyr, cyd-ymgyrchwyr a'r meddygon a frwydrodd mor galed i ymestyn ei fywyd, yn arbennig rhagair Becky, a'i geiriau tyner ac annwyl am y gwr a'r tad llawen, cariadus a frwydrodd i'r eithaf. Irfon gaiff y gair olaf: Peidiwch a derbyn yr hyn mae gwleidyddion na meddygon yn ei ddweud wrthoch chi. Trist - ond gwir. -- Gwyn Griffiths @ www.gwales.com


Dymar llyfr a roddodd yr ysgytwad mwyaf i mi erioed. Ar adegau maer gonestrwydd yn ingol hanes bywyd un a droes drychineb personol yn ysbrydoliaeth. Yr oedd Irfon Williams wedi marw cyn cyhoeddi ei hunangofiant Hawl i Fyw, a phrawf oi ddycnwch ai wytnwch oedd iddo orffen sgrifennur gyfrol yn ei wely ddyddiau cyn ei farwolaeth. Roedd yn 46 oed. Dair blynedd cyn hynny canfuwyd bod ganddo ganser y coluddyn a bod y canser wedi lledu i organau eraill ei gorff ergyd ofnadwy i ddyn hwyliog, egnol, yn wr a thad gofalus oedd yn mwynhau bywyd ir eithaf. Roedd yn gymeriad a hanner, ac yn un a fun chwarae rygbi ac yn hyfforddi chwaraewyr eraill. Roedd Irfon yn gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd, ym maes iechyd meddwl plant a phobol ifanc, ac yn sydyn yr oedd mewn brwydr gydar sefydliad a oedd yn ei gyflogi, ar sefydliad gwleidyddol yng Nghymru. Yr oedd tystiolaeth fod Cetuximab yn effeithiol mewn achosion cynnar o ganser y coluddyn, ond nid oedd y cyffur ar gael yng Nghymru. Cafodd ymgyrch Irfon i gael y cyffur iddoi hun, ac yn arbennig i eraill oedd yn dioddef canser, sylw ledled Cymru a thu hwnt. Yn ei achos ef bu raid iddo fynd am gyfnod i fyw i Ellesmere Port er mwyn derbyn Cetuximab. Dyna gychwyn ar ei ymgyrch fawr, a nifer o ymgyrchoedd, yn wir. Bun codi arian ir elusen Awyr Las, elusen y gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Cododd Irfon ai gefnogwyr #tmirfon 150,000 i gefnogi anghenion pobol leol oedd yn dioddef o ganser. Ymgyrch i ddileur loteri cod post oedd Hawl i Fyw ac roedd hwnnw'n gam anodd gan fod Irfon ai wraig Becky yn gweithio ym maes iechyd. Buan y clywsant fod staff Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a staff cynghorau lleol yn y gogledd wedi cael rhybudd i fod yn ofalus ynglyn chefnogi ymgyrchoedd gwleidyddol. Er hyn, daliodd ati r ymgyrch hon ai gwnaeth yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau. Ochr yn ochr hyn, yr oedd iechyd Irfon ar canser yn graddol waethygu, a cheir disgrifiadau dirdynnol or triniaethau ynghyd r llawenydd ar gobaith achlysurol. Maen stori hwyliog, hefyd, yn arbennig am ei gyfnod yn nyrs, gyda straeon teilwng o Doctor in the House a ffimliau Carry on ... Yn ogystal r hunangofiant, ceir yn y gyfrol eiriau o deyrnged iddo gan gyfeillion, cyd-weithwyr, cyd-ymgyrchwyr ar meddygon a frwydrodd mor galed i ymestyn ei fywyd, yn arbennig rhagair Becky, a'i geiriau tyner ac annwyl am y gwr ar tad llawen, cariadus a frwydrodd ir eithaf. Irfon gaiff y gair olaf: Peidiwch derbyn yr hyn mae gwleidyddion na meddygon yn ei ddweud wrthoch chi. Trist ond gwir. Gwyn Griffiths Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

NOV RG 20252

 

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List