|
![]() |
|||
|
||||
OverviewThis book is perfect for children from 6 years of age. It provides all the information they need and much more! A mixture of breath-taking photography and charming illustrations ensure a perfect visual balance for this golden age. Sian Lewis's Welsh adaptation of Encyclopedia of Very Important Things is bursting with knowledge and loads of very important things. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: James Mitchem , Siân LewisPublisher: Rily Publications Ltd Imprint: Rily Publications Ltd Dimensions: Width: 21.30cm , Height: 0.50cm , Length: 25.50cm ISBN: 9781804163597ISBN 10: 1804163597 Pages: 224 Publication Date: 01 October 2023 Recommended Age: 9 years Audience: Primary & secondary/elementary & high school , Educational: Primary & Secondary Format: Hardback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Table of ContentsReviewsGwyddom oll fod plant yn chwilfrydig a’u hawch i ddysgu yn ddiddiwedd. Wel, dyma’r llyfr perffaith i ddiwallu’r awch hwnnw! Mae gwybodaeth mor bwysig i blant i ddeall y byd a’u lle ynddo, ac mae croeso bob amser i wyddoniadur mor lliwgar a deniadol â hwn. Mae’r holl bynciau y byddech yn eu disgwyl mewn gwyddoniadur yma – y ddaear a’r gofod, y tywydd a'r tirwedd, mapiau a gwybodaeth am wledydd y byd, mamaliaid ac amffibiaid, deinosoriaid a hanes yr hen fyd, sut mae’r corff yn gweithio, yn ogystal ag ychwanegiadau difyr iawn megis rhifo a lluosi, arwyddion y Sidydd a horosgopau’r Tsieineaid. Ceir yma ddigonedd o wybodaeth a ffeithiau i sicrhau sawl sesiwn bleserus o ddarllen gyda phlant, yn ogystal â bod yn ddigon hwylus i fedru darganfod yr union dudalen wrth chwilio am bwnc arbennig. Ond nid oes gormod o ffeithiau yma, chwaith, i orlethu’r darllen. Mae’r brawddegau byrion a’r lluniau lu yn golygu bod y darllen yn rhwydd ac yn ddifyr, ac yn wir gall hefyd fod yn ymarfer darllen da ynddo’i hun i ddarllenwyr hyderus chwech oed a hŷn. Mae’r lluniau a gosodiad y tudalennau mor amrywiol a lliwgar, ac mae troi pob tudalen yn bleser i weld y cyfoeth gweledol gwahanol. Mae’r dyluniad yn sicr yn ychwanegu at y dysgu, er enghraifft gosod tyrau uchaf y byd yn ymyl ei gilydd i gymharu eu huchder, a’r trac rasio i’n helpu i ddeall cyflymder creaduriaid. Mae amrywiaeth y teip a’r defnydd amrywiol o brint trwm a phriflythrennau hefyd yn helpu i wneud y darllen yn haws. Mae’r addasiad yn un clodwiw, a’r Gymraeg yn llifo’n rhwydd a naturiol. Yr unig drueni, wrth gwrs, yw bod Cymru yn cael cam mewn gwyddoniadur cyffredinol fel hwn (map y Deyrnas Unedig sydd yma, e.e. ac nid un Cymru), a gwych o beth fyddai cael gwyddoniadur cystal yn sôn am yr holl bethau pwysig am Gymru. -- Gwenllïan Dafydd @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |