Gwersyll Fron-goch 1916 - Y Pair Dadeni

Author:   Lyn Ebenezer
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845275556


Pages:   320
Publication Date:   13 April 2016
Format:   Paperback
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $21.99 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Gwersyll Fron-goch 1916 - Y Pair Dadeni


Add your own review!

Overview

A revised and updated edition of the story behind the imprisonment of 1,800 Irishmen at Fron-goch camp near Bala after the 1916 Easter Rebellion, which places the uprising in its political and historical context and follows the lives of the prisoners after their release. Over 100 black and white images.

Full Product Details

Author:   Lyn Ebenezer
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845275556


ISBN 10:   1845275551
Pages:   320
Publication Date:   13 April 2016
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Cyhoeddir y gyfrol sylweddol hon i nodi canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon ym 1916, a'r carcharu a ddigwyddodd yn y Fron-goch, sef y gwersyll cadw cyntaf a agorwyd ar dir Prydain erioed cyn cyfnod yr Ail Ryfel Byd. Ym marn sicr yr awdur, mae hi bellach yn adeg amserol i ailasesu a chofnodi'n drwyadl ddigwyddiadau pellgyrhaeddol y flwyddyn dyngedfennol honno yn hanes Iwerddon. Cafodd carcharorion rhyfel Almaenig eu cadw mewn hen ddistyllfa chwisgi yn Fron-goch, ger y Bala, yn ystod rhan gyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon ym 1916 cafodd yr Almaenwyr eu disodli gan dros 1,800 o wirfoddolwyr yr Irish Republican Brotherhood, sef yr IRA yn ddiweddarach, yn cynnwys rhai o brif arweinwyr y mudiad, fel Michael Collins. Ac o dan arweinyddiaeth Collins, daeth Fron-goch i gael ei adnabod fel 'Prifysgol y Chwyldro' neu 'Brifysgol Sinn Fin'. Yn wir, ceir pennod gyfan ar hanes Collins. Yna, rhoddir sylw lled fanwl i hanes trist dau arall o'r carcharorion, sef Toms MacCurtain a Terence MacSwiney, ac o fewn pennod arall, arweinwyr eraill o bwys sydd yn derbyn cryn sylw gan yr awdur. Ymhlith eraill a garcharwyd yno roedd pobl fel Richard Mulcahy, Joe Clarke, Arthur Shields, a W. J. Brennan-Whitmore. Sonnir yma fod amryw'n teimlo'n ddigon cartrefol yn trigo yn y rhan hon o Gymru, gan yr ymdebygai i dirwedd wledig Iwerddon mewn sawl ffordd. Bu'r awdur yn ymddiddori'n fawr yn yr hanes rhyfeddol hwn byth ers 1966 pan fu'n ymweld Dulyn ar gyfer coffu'r hanner canrif. Estyniad sylweddol a geir yma o'r gyfrol wreiddiol, Y Pair Dadeni: Hanes Gwersyll y Fron-goch, astudiaeth a welodd olau dydd am y tro cyntaf yn 2005. Ond bu Lyn Ebenezer wrthi'n ddiwyd yn casglu llawer iawn o ddeunydd a ffynonellau ffres byth ers hynny, a manteisiodd ar y cyfle i ymgorffori'r cyfan yn y gyfrol newydd hon. Ei fwriad wrth lunio'r astudiaeth hon oedd 'deffro'r Cymry'n bennaf i'r sylweddoliad i'r Fron-goch, yn anad yr un lle arall, saerno Iwerddon Rydd (neu rannol rydd)' (tud. 10). Ac, yn hollol ar wahn i'r ymchwil ymarferol a wnaeth, bu'r awdur yn hynod ddiwyd yn darllen y llu o ffynonellau sydd ar gael mewn print ar y maes hwn. Bu hefyd yn hynod o gydwybodol yn cyfweld nifer o'r prif gymeriadau yn y stori tra oeddent hwythau'n dal ar dir y byw, a bu'n ymweld nifer o lyfrgelloedd ac archifdai sy'n gartref i ddefnyddiau crai perthnasol i faes ei ymchwil. Cafodd yr awdur lwyddiant ysgubol yn gosod hanes a chyfraniad gwersyll Fron-goch yn gadarn yn ei gyd-destun hanesyddol drwy asesu'r digwyddiadau a arweiniodd at Wrthryfel y Pasg a'r hyn a'i dilynodd. Gwneir ymdrech arbennig o lew i ddadansoddi ymateb y Cymry i'r digwyddiadau hyn oll a cheisir disgrifio bywyd beunyddiol y rhai a fu'n byw o fewn Fron-goch. Rhoddir ystyriaeth bellach, yn ogystal, i'r mater o gaethiwo fel dull o garcharu ac o gosbi. I gloi, edrychir ar yr hyn a ddigwyddodd yn ddiweddarach i'r prif actorion a fu'n chwarae eu rhan yn y ddrama fawr hon. Cryfder y gyfrol yw llwyddiant Lyn Ebenezer yn recordio ymateb y Gwyddelod hyn i'r ffaith eu bod bellach mewn gwersyll yng ngogledd Cymru, rhanbarth oedd yn hollol ddieithr i'r mwyafrif helaeth ohonynt. Sonnir hefyd yma am ymateb trigolion yr ardal arbennig hon o Gymru i'w cymdogion newydd dros dro a hwythau'n gyd-Geltiaid a hefyd am eu hymateb i ddigwyddiadau yn Iwerddon. Sonnir yn hynod ddifyr am y gyd-berthynas rhwng y carcharorion a'u wardeiniaid, ac am y digwyddiadau a drefnwyd o fewn y gwersyll mewn ymgais i leddfu ar fodolaeth undonog y preswylwyr. Teimlai mwyafrif helaeth y carcharorion iddynt gael eu caethiwo ym Mron-goch ar gam, heb achos llys na chyfle i'w hamddiffyn eu hunain mewn llys barn. Wrth gynnal ei ymchwil, dilynodd yr awdur bob llwybr posibl a oedd yn agored iddo. Ni adawodd yr un garreg heb ei throi. Daeth un ffaith yn sioc enbyd iddo. Cyn hynny, rhannai yntau farn y mwyafrif llethol ohonom mai'r Saeson, yr Albanwyr ac Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon fel ei gilydd oedd yn bennaf gyfrifol am driniaeth erchyll y Gwyddelod o fewn y gwersyll. Ond, mewn gwirionedd, roedd y Cymry hwythau hefyd ynghlwm 'r hyn a ddigwyddodd. Ond dylid nodi'n ogystal i drigolion lleol ardal y Bala ddangos cydymdeimlad diffuant thynged a chyflwr y deunaw cant o ddynion a garcharwyd yno ym 1916. Ac mewn pennod fer ac iddi'r teitl 'Epilog', cawn gyfle i ddarllen hanes boddi Capel Celyn ar ddechrau'r 1960au. Bwriad yr awdur wrth groniclo a dadansoddi'r hanes rhyfeddol hwn fel hyn yw nid ceisio dileu ychydig o'r cywilydd cenedlaethol hanesyddol, ond 'o leiaf lanhau ychydig o'r staen' a erys hyd heddiw. Mae ei waith yn bendant wedi cyfrannu'n sylweddol at y diddordeb cynyddol a amlygwyd yn ddiweddar yn nigwyddiadau a hanes y rhan hon o Sir Feirionnydd. J. Graham Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

MRG2025CC

 

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List