Geiriau Diflanedig

Awards:   Winner of The Beautiful Book Award 2017
Author:   Mererid Hopwood ,  Mererid Hopwood ,  Jackie Morris
Publisher:   Graffeg Limited
ISBN:  

9781913134617


Pages:   130
Publication Date:   25 September 2019
Format:   Hardback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $64.69 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Geiriau Diflanedig


Add your own review!

Awards

  • Winner of The Beautiful Book Award 2017

Overview

As we become estranged from the natural world around us, we may lose the language of that world. Mererid Hopwood's lyrical Welsh interpretion of Macfarlane's acrostic poems, together with Jackie Morris' stunning illustrations, make this a celebration of nature. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Mererid Hopwood ,  Mererid Hopwood ,  Jackie Morris
Publisher:   Graffeg Limited
Imprint:   Graffeg Limited
Dimensions:   Width: 27.00cm , Height: 2.00cm , Length: 36.80cm
ISBN:  

9781913134617


ISBN 10:   191313461
Pages:   130
Publication Date:   25 September 2019
Audience:   Children/juvenile ,  Children / Juvenile
Format:   Hardback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Mesen, Miaren, Dant y Llew, Dyfrgi – yn y blynyddoedd diwethaf mae’r geiriau natur hyn wedi bod yn diflannu o fywydau plant. Mae’r llyfr hanfodol hwn yn dathlu iaith dan fygythiad a’r byd naturiol y mae’n ei ddisgrifio drwy ‘swynganeuon’ acrostig Robert Macfarlane, pob un yn dal hud a lledrith cynhenid eu pwnc ac yn annog ymgysulltiad adfywied gyda’r byd o’n cwmpas. Mae lluniau Jackie Morris wedi’u peintio â llaw yn adlewyrchu pob cerdd, gan greu trysor gweledol a fydd i’w fwynhau am genedlaethau i ddod. • Argraffiad Saesneg wedi gwerthu dros 200,000 copi • wedi ei gyfieithu i bedwar iaith • fe fydd ymgyrch ariannu torfol yn lansio ym mis Awst 2019, i roi copi ym mhob ysgol yng Nghymru ‘The most beautiful and thought-provoking book I’ve read this year’ Frank Cottrell-Boyce, Observer ‘Gorgeous to look at and to read. Give it to a child to bring back the magic of language – and its scope’ Jeanette Winterson, Guardian ‘Robert Macfarlane and Jackie Morris have made a thing of astonishing beauty’ Alex Preston, Observer GWERTHWR GORAU SUNDAY TIMES ENILLYDD THE BEAUTIFUL BOOK AWARD 2017 AR RHESTR FER THE WAINWRIGHT PRIZE FOR NATURE WRITING 2018 -- Cyhoeddwr: Graffeg Cyfrol hardd o ran diwyg a hardd o ran cynnwys yw Geiriau Diflanedig, addasiad Mererid Hopwood o gyfrol Robert Macfarlane o gerddi acrostig, The Lost Words, a enillodd wobr Books are my Bag ac a enwyd yn Llyfr yr Ŵyl yng Ngŵyl y Gelli yn 2017. Cyrhaeddodd y gyfrol honno hefyd restr fer y Wainwright Prize for Nature Writing yn 2018. Cymaint yw bri’r gyfrol Gymraeg yn ogystal nes ysgogi ymgyrch ariannu torfol lwyddiannus yn Awst 2019 er mwyn sicrhau bod copi o’r gyfrol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru, a da hynny. Dathliad sydd yma o fyd natur ac o’r holl eiriau sy’n gysylltiedig â phlentyndod chwilfrydig yn yr awyr agored. A byd natur bellach o dan fygythiad, mae peryg hefyd o golli rhai o’r enwau gwreiddiol hyn ar rai o ryfeddodau harddaf byd natur. O’r cychwyn cyntaf mae arddull hudolus Mererid Hopwood yn swyno’r darllenydd: ‘Unwaith, amser maith yn ôl, dechreuodd ambell air ddiflannu o enau plant bychain …’ Disgrifir sut gall y gyfrol ‘ddwyn yn ôl yr hen eiriau coll a’u cael eto yn loyw yng ngolau cannwyll ein llygad ac yn flasus ar flaen ein tafod.’ Wrth fodio’r gyfrol ceir yn sicr gerddi ‘blasus’ sydd hefyd yn swynol i’r glust, ynghyd â darluniau sy’n cyd-fynd â’r geiriau ac yn wledd i’r llygad. Rhaid cydnabod dawn aruthrol Jackie Morris, gan iddi greu darluniau hynod hardd a byw iawn. Mae’r darluniau’n asio’n arbennig â’r cerddi ac yn ychwanegu at y dweud. Does dim syndod i’r gyfrol ennill medal CILIP Kate Greenaway – gwobr a sefydlwyd yn 1955 i gydnabod dylunio nodedig mewn llyfrau i blant. O ran y cerddi eu hunain, ceir defnydd cyson o gyflythrennu ac odli, nodweddion sy’n sicr o ddenu sylw darllenwyr o bob oedran. Mwynheais y cyflythrennu’n arbennig yn y gerdd ‘crychydd’: ‘Cynefin crychydd y coesau cam yw hwn’; a’r odl hynod effeithiol yn ‘dant y llew’: ‘Tic-toc, petalau cloc, ffedog yr ysgall – ffroc’. At hynny, arhosodd tristwch ‘ehedydd’ yn y cof. Gellid dadlau mai llyfr llun i blant sy’n addas ar gyfer oedolion yn bennaf yw Geiriau Diflanedig. Hynny yw, llyfr hynod gain, o faint sylweddol, y byddai plentyn ar ei ben ei hun, dros amser, yn debygol o’i ddifetha, ond un y gall plentyn ei fwynhau yng nghwmni oedolyn. Mae ceinder y dweud yn sicrhau y gellid darllen y gyfrol hon i blentyn gweddol ifanc er mwyn mwynhau’r rhythmau a’r arddull ddisglair. Fe wnes innau’n sicr fwynhau darllen y cerddi’n uchel. Mae’n gyfrol werth ei chael! -- Rhiannon Salisbury @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

wl

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List