Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr

Author:   Amrywiol
Publisher:   Y Lolfa
ISBN:  

9781784619312


Pages:   80
Publication Date:   01 August 2020
Format:   Paperback
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $15.50 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr


Add your own review!

Overview

Eight stories for Foundation Level Welsh Learners by some of Wales' best storytellers, including Bethan Gwanas, Guto Dafydd, Mared Lewis and Lois Arnold. In cooperation with the Welsh National Eisteddfod, the stories will be published in August, with the authors reading the stories (with subtitles) on various digital platforms. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Amrywiol
Publisher:   Y Lolfa
Imprint:   Y Lolfa
ISBN:  

9781784619312


ISBN 10:   1784619310
Pages:   80
Publication Date:   01 August 2020
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Rhwng cloriau Ffenest a straeon eraill i ddysgwyr, mi ddowch chi o hyd i straeon sy'n codi chwilfrydedd, yn cyffwrdd a'r galon, yn gwneud i chi feddwl ac i chwerthin. Mi gewch chi ddarllen straeon sy'n annwyl iawn, straeon sy'n edrych ar y berthynas rhwng pobl, rhai sy'n gofyn cwestiynau am gymdeithas heddiw a rhai sy'n ddigon i godi ofn ar rywun. Mae rhai ohonyn nhw wedi eu gosod yn ystod cyfnod pandemig y coronafeirws a chyfnod clo, felly mae stamp pendant iawn y flwyddyn 2020 a chyd-destun cymdeithasol ehangach i'w teimlo ar ambell stori. Ond mae un peth sy'n gyffredin rhyngddyn nhw; mae'r awduron wedi ysgrifennu straeon ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg, gan siarad mewn iaith sy'n addas iddyn nhw, ond heb fod yn nawddoglyd. Yn rhan o gyfres Amdani, ar y cyd a'r Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd y gyfrol hon yn haf 2020. Fel rhan o Wyl Amgen, roedd yr awduron yn darllen eu straeon, ac ar adeg ysgrifennu'r adolygiad yma mae'r fideos i'w gweld ar-lein os ewch chi i chwilota. Mae'r gyfrol yn addas i ddysgwyr lefel Sylfaen ac ar waelod pob tudalen ceir geirfa briodol. Mae gofyn i'r dysgwyr fod yn eitha' hyderus yn eu geirfa, patrymau a strwythurau'r Gymraeg, ond yn sicr mae'r rhain yn straeon gwych i gyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i'n siaradwyr newydd ni. Mae amrywiaeth o acenion yn y gwahanol straeon hefyd, felly mae'n addas i ddysgwyr sy'n dilyn cyrsiau iaith y Gogledd neu'r De. Er na lwyddodd pob stori i daro deuddeg efo fi (peth felly ydy chwaeth bersonol, mae'n debyg), rydw i'n hoff iawn o'r gyfrol yn ei chyfanrwydd. Fy hoff straeon i ydy 'Ffenest' gan Guto Dafydd, 'Calon wrth Galon' gan Meleri Wyn James, 'Hen Ffon fy Nain' gan Mared Lewis ac 'Ar y Bws' gan Bethan Gwanas. Dyma'r straeon wnaeth 'siarad efo fi' a chyffwrdd. Dwi'n siwr y bydd gan ddarllenwyr eraill eu ffefrynnau eu hunain. Fel tiwtor Cymraeg, mae dod o hyd i ddeunydd darllen diddorol ac amrywiol yn uchel iawn ar fy rhestr o flaenoriaethau wrth gefnogi dysgwyr. Rwy'n hoff o'r gyfrol yma am ei bod hi'n trafod ystod eang o bynciau sy'n mynd i apelio at amrywiaeth o ddysgwyr mewn iaith a phatrymau iaith sy'n gyfarwydd iddyn nhw. Mae gan bob dysgwr ei chwaeth bersonol ei hunan, wrth gwrs, ond mi faswn ni'n argymell hon fel cyfrol addas i gyflwyno gwaith rhai o awduron Cymraeg mwyaf blaenllaw a phoblogaidd Cymru iddyn nhw. -- Mererid Haf Roberts @ www.gwales.com


Rhwng cloriau Ffenest a straeon eraill i ddysgwyr, mi ddowch chi o hyd i straeon sy’n codi chwilfrydedd, yn cyffwrdd â’r galon, yn gwneud i chi feddwl ac i chwerthin. Mi gewch chi ddarllen straeon sy’n annwyl iawn, straeon sy’n edrych ar y berthynas rhwng pobl, rhai sy’n gofyn cwestiynau am gymdeithas heddiw a rhai sy’n ddigon i godi ofn ar rywun. Mae rhai ohonyn nhw wedi eu gosod yn ystod cyfnod pandemig y coronafeirws a chyfnod clo, felly mae stamp pendant iawn y flwyddyn 2020 a chyd-destun cymdeithasol ehangach i’w teimlo ar ambell stori. Ond mae un peth sy’n gyffredin rhyngddyn nhw; mae’r awduron wedi ysgrifennu straeon ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg, gan siarad mewn iaith sy’n addas iddyn nhw, ond heb fod yn nawddoglyd. Yn rhan o gyfres Amdani, ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd y gyfrol hon yn haf 2020. Fel rhan o Ŵyl Amgen, roedd yr awduron yn darllen eu straeon, ac ar adeg ysgrifennu’r adolygiad yma mae’r fideos i’w gweld ar-lein os ewch chi i chwilota. Mae’r gyfrol yn addas i ddysgwyr lefel Sylfaen ac ar waelod pob tudalen ceir geirfa briodol. Mae gofyn i’r dysgwyr fod yn eitha’ hyderus yn eu geirfa, patrymau a strwythurau’r Gymraeg, ond yn sicr mae’r rhain yn straeon gwych i gyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i’n siaradwyr newydd ni. Mae amrywiaeth o acenion yn y gwahanol straeon hefyd, felly mae’n addas i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau iaith y Gogledd neu’r De. Er na lwyddodd pob stori i daro deuddeg efo fi (peth felly ydy chwaeth bersonol, mae’n debyg), rydw i’n hoff iawn o’r gyfrol yn ei chyfanrwydd. Fy hoff straeon i ydy 'Ffenest' gan Guto Dafydd, 'Calon wrth Galon' gan Meleri Wyn James, 'Hen Ffôn fy Nain' gan Mared Lewis ac 'Ar y Bws' gan Bethan Gwanas. Dyma’r straeon wnaeth ‘siarad efo fi’ a chyffwrdd. Dwi’n siŵr y bydd gan ddarllenwyr eraill eu ffefrynnau eu hunain. Fel tiwtor Cymraeg, mae dod o hyd i ddeunydd darllen diddorol ac amrywiol yn uchel iawn ar fy rhestr o flaenoriaethau wrth gefnogi dysgwyr. Rwy’n hoff o’r gyfrol yma am ei bod hi’n trafod ystod eang o bynciau sy’n mynd i apelio at amrywiaeth o ddysgwyr mewn iaith a phatrymau iaith sy’n gyfarwydd iddyn nhw. Mae gan bob dysgwr ei chwaeth bersonol ei hunan, wrth gwrs, ond mi faswn ni’n argymell hon fel cyfrol addas i gyflwyno gwaith rhai o awduron Cymraeg mwyaf blaenllaw a phoblogaidd Cymru iddyn nhw. -- Mererid Haf Roberts @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

RGJUNE2025

 

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List