|
![]() |
|||
|
||||
Overview366 interesting snippets - one for each day of the year. A book you'll return to, time and time again. Full Product DetailsAuthor: Esyllt Maelor , Sian Northey , Gareth Evans-Jones , Marred Glynn JonesPublisher: Gwasg y Bwthyn Imprint: Gwasg y Bwthyn ISBN: 9781907424779ISBN 10: 1907424776 Pages: 176 Publication Date: 05 October 2015 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsOnid yw hin braf weithiau cael llyfr bwrdd coffi llyfr y gallwch droi ato'n awr ac yn y man i gael mymryn o wybodaeth neu ddoethineb, yn arbennig felly pan fo'r pytiau yr ydych yn eu darllen yn codi eich calon? Wel, dyna'n union a geir yn y gyfrol hon. Llyfr yw Estyn Llaw syn cynnwys pwt difyr ar gyfer pob dydd or flwyddyn. Weithiau cawn ddyfyniad gan rywun, bryd arall ddihareb, rhyw hanesyn cryno neu ddwy frawddeg fer. Ar gyfer 17 Mai, er enghraifft, ceir y canlynol: Paid llusgo dy groes heddiw. Cofia fod help ar gael iw chario hi. Ar gyfer 13 Awst, rhan o hunangofiant a llythyrau Twm or Nant a leinwr gofod ac yn niwedd mis Awst ceir y dyfyniad a ganlyn gan Charlie Chaplin: Mae diwrnod heb chwerthin yn ddiwrnod a wastraffwyd.' Fel y gwelir, maer dyfyniadau yn amrywiol iawn o ran eu hyd a'u ffynhonnell, ond yr hyn syn gyffredin iddynt oll yw eu bod yn codi calon. Yn cyfoethogir dyfyniadau oll y mae lluniau hyfryd a pherthnasol. Geraint Lloyd Owen sydd wedi golygur gyfrol ac y mae pump arall wedi cyfrannu iddi, sef Gareth Evans-Jones, Harri Parri, Esyllt Maelor, Sian Northey a Marred Glynn Jones. Yn ei ragymadrodd fe ddywed y golygydd fod y gyfrol yn arweinlyfr syn ein cyfeirion gyson o dywyllwch i oleuni, ac meddai ymhellach: Maen gyfle inni atgyfnerthu gogyfer r yfory a mwynhau ambell ddywediad a hanesyn syn rhoddi blas a lliw ar fywyd a gwneud byw o ddydd i ddydd yn werth chweil. Yn sicr maer gyfrol wedi llwyddo yn ei bwriad, ac mae'n llyfr defnyddiol iawn i bob athro syn paratoi at wasanaeth ysgol. Yn fwy na dim, mewn dyddiau tywyll, dyma gyfrol syn falm ir galon. Sarah Down-Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |