|
|
|||
|
||||
Overview"(Enaid Lewys Meredydd is almost certainly the earliest science fiction novel written in Welsh and is available here for the first time since its original serialisation) ""Draw yn y pellter, fel dwy aden wen fawr, roedd dwy long awyr yn troi ac yn hofran, weithiau'n codi ac weithiau'n gostwng uwchben Sir F�n, a'r naill fel pe buasai yn ymlid yr llall, fel pe buasent ddwy wylan ar yr aden. Daethant yn nes, nes. Roeddynt o'r diwedd uwchben Menai. ""Gw�l!"" ebe Ap Rhys. Gwelwyd rhywbeth fel llinyn o d�n yn neidio o un llong at y llall, a'r funud nesaf, roedd y naill yn disgyn fel carreg i'r afon, a'r llall yn ymgodi fel pluen i'r awyr."" Y flwyddyn yw 2002. Hyd ei oes, mae Meredydd Fychan wedi bod yn glaf anymwybodol dan ofal meddyg, yn fyw ond heb ddangos unrhyw arwydd o ymwybyddiaeth. Ond un bore, mae'n deffro, ac yn taeru mai ef yw Lewys Meredydd, bonheddwr fu farw bron i ganrif yn �l. Does bosib ei fod yn dweud y gwir? Ysgrifennwyd Enaid Lewys Meredydd yn 1905, ac mae'n ymddangos yn y gyfrol hon ar ffurf llyfr am y tro cyntaf erioed. Y nofel hon, hwyrach, yw'r nofel ffuglen wyddonol cynharaf i'w hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, ac mae'n cynnig cipolwg unigryw o ddychymyg un o Gymry blaenllaw'r oes ynglŷn �'r dyfodol. Thomas Gwynn Jones (1871-1949) yw un o brif ffigyrau llenyddol a deallusol y byd Cymraeg. Enillodd y Gadair yn 1902 gyda'i awdl Ymadawiad Arthur, ond ar y pryd roedd yn fwy enwog fel nofelydd a newyddiadurwr. Bu'n ysgrifennu ar gyfer nifer o bapurau newydd yn y Gymraeg a'r Saesneg, lle cyhoeddwyd ei nofelau fesul bennod, Enaid Lewis Meredydd yn eu plith, a ymddangosodd yn Papur Pawb yn 1905. Y fersiwn hwn yw'r tro gyntaf i'r nofel ymddangos ar ffurf cyfrol ers i'r nofel ymddangos fel cyfres yn 1905. Mae'r orgraff a'r sillafu wedi'u diweddaru rhywfaint." Full Product DetailsAuthor: T. Gwynn Jones , Adam PearcePublisher: Melin Bapur Imprint: Melin Bapur ISBN: 9781917237024ISBN 10: 1917237022 Pages: 128 Publication Date: 12 April 2024 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Table of ContentsReviewsAuthor InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |