|
![]() |
|||
|
||||
OverviewFull Product DetailsAuthor: Angharad JonesPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781859022771ISBN 10: 1859022774 Pages: 192 Publication Date: 25 September 2023 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsNofel yw hon am ferch sydd yn cyrraedd pentref o'r enw Llan yn ei chlogyn du ar ddiwrnod gwlyb. Daeth yno er mwyn hyfforddi'r ysgol gynradd leol i lwyfannu drama Blodeuwedd. Mae rhyw ddieithrwch rhyfedd yn ei chylch ond mae yna rywbeth cyfarwydd ynglyn a hi hefyd. Yn wir, mae rhyw ddieithrwch yn nechrau'r nofel hon pan sylweddolwn mai un o'r cymeriadau ydy'r dylluan wen. Mae'r gwrthgyferbyniad rhwng gwynder a duwch, rhwng diniweidrwydd a drygioni, yn brigo i'r wyneb yn aml yng nghorff y nofel. Mae'r plant yn wyliadwrus o Myfi, yn rhedeg oddi wrthi, ond mae'r hen Mrs Rowlands sydd yn gweithio yn y gegin yn synhwyro fod yna ryw gyfrinach ynghlwm wrth hon gyda'i llediaith a'i hacen Americanaidd. O dipyn i beth fe ddatgela'r dylluan wen ei chyfrinach i ni. Mae ymsonau'r dylluan yn synhwyrus ac yn hudol. 'Mae hi'n dechrau dadwisgo. A ddylem aros yma ar sil y ffenestr? Oni fyddai'n fwy gweddus i ni droi ein golygon i rywle arall? Gadael llonydd iddi hi Myfi a'i dillad du a'i dillad isaf gwyn? Oni ddylem edrych draw at y mynyddoedd sydd fel hetiau gwrachod dan gylch arian y lloer?' Drwy symbolau gwae, deallwn fod yna ddialedd a drygioni yn y gwynt ac mae'r ddrama Blodeuwedd fel cynfas i'r dialedd. Un o'r prif gymeriadau yw Ifor Gruffydd y prifathro, a gofyn ei ferch fach Gwen, 'Blodeuwedd, fydd hi'n dylluan am byth?' 'Na' yw'r ateb a rydd Myfi, ' Aros mae hi. Aros am ei chyfle. I ddod yn ol i'r ddaear fel dynes. Er mwyn dial -- dial ar y dewin a greodd hi.' Camp Angharad Jones yw neidio o un person i'r llall o bennod i bennod. Try at y presennol yng ngwydd y ferch fach Gwen a neidia yn ol i'r gorffennol pan fydd Ifor Gruffydd yn cael ei ddarlunio. Taena Myfi ei hudlath ar Ifor fel Gwydion ar Blodeuwedd gynt a cheir disgrifiad cynnil iawn o'r ddau yn caru. Dywedodd y beirniaid yn eu beirniadaeth pan enillodd hon y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995: 'dyma nofel seicolegol ... stori sy'n peri ichi fod eisiau gwybod beth sydd yn dod nesaf o hyd ac o hyd. A stori fydd yn eich cadw'n rhwym i'ch cadair nes i chi ei rhoi o'ch llaw.' Nia M. Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |