|
![]() |
|||
|
||||
OverviewAn extraordinary book by two differing authors in both style and thought processes. However, both Christians feel frustrated with the religious situation in Wales today, and both reach the same conclusion Y that the problem lies with God. Full Product DetailsAuthor: Aled Jones Williams , Cynog DafisPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 9781845275570ISBN 10: 1845275578 Pages: 175 Publication Date: 09 March 2016 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsDyma gyfrol i gorddi dyfroedd byd crefydd yng Nghymru, er nad hynny ywr bwriad. Maen gyfrol sydd, oi chychwyn cyntaf, yn gwrthod y syniad o Dduw fel bod goruwchnaturiol. Ir ddau awdur, creadigaeth meddwl neu ddychymyg dynol yw Duw a chredant fod lliaws mawr ou cyd-Gymry yn rhannur gred hon. Ond yn wahanol iawn i lawer iawn o awduron a meddylwyr eraill sydd yn arddel yr un syniad, mae'r ddau or farn fod gan grefydd gyfraniad gwerthfawr ac angenrheidiol yn y byd. Cyfrol yw hon sydd wedi ei pharatoi ar gyfer y bobl hynny sydd yn teimlo braidd yn anghysurus mewn eglwysi sydd yn siarad am Dduw fel y Crwr hollalluog neu fel Arglwydd popeth, ac sydd, o ganlyniad, yn cael eu temtio i droi cefn ar grefydd. Mae Cynog Dafis ac Aled Jones Williams yn cynnig cyfiawnhad iw meddylfryd a gwerth iw math hwy o grefydda. Aled Jones Williams sy'n agor y gyfrol gan geisio cyflwynoi thema yn gryno. Maen ddarn syn defnyddio iaith yn ddychmygus a lliwgar, ac i raddau yn pwysleisior dirgelwch sydd mewn crefydd ac yn y gair 'Duw'. Yna y mae rhan helaethaf y gyfrol yn drafodaeth athronyddol a diwinyddol swmpus o eiddo Cynog Dafis. Yn ei ddull manwl a gofalus y mae Cynog Dafis yn olrhain syniadaeth gwahanol ddiwinyddion a llenorion am y bod o Dduw gan bwyso a mesur y damcaniaethau ar trafodaethau a cheisio dod i gasgliadau. Dylid darllen y gyfrol petai dim ond er mwyn edmygu gallu Cynog Dafis i grynhoi syniadaeth a dadleuon cymhleth mewn ychydig eiriau dethol. Ceir yma drafodaeth ar syniadau pobl mor amrywiol T. Gwynn Jones a Karen Armstrong, T. Rowland Hughes a Dewi Z. Phillips, Richard Dawkins a Walford Gealy neu Stephen Nantlais Williams, a phob un yn cael ei grynhoi ai dafoli yng nghlorian yr awdur. Maen drafodaeth swmpus a digon diddorol, a'r cyfan yn nghyd-destun y cwestiwn mawr, 'A ellir credu mewn Duw Goruwchnaturiol yn yr unfed ganrif ar hugain?' Maer ddau awdur yn eu rhagarweiniad yn nodi eu bod yn gytn ar dri datganiad sylfaenol, sef na ellir credu mewn Duw goruwchnaturiol yn y ganrif bresennol; yn ail, nad drwy ddadl ac ymresymu y mae cyffwrdd r crefyddol ar ysbrydol ond drwyr dychymyg; ac yn drydydd, bod crefydd yn rhywbeth sydd yn adlewyrchu angen dwfn ac arhosol yn natur dyn am ddimensiwn ysbrydol. Yn fy marn i, dyma wendid y gyfrol. Y mae eu cytundeb yn un dogmatig a ffwndamentalaidd ei natur, ac oherwydd hynny y maen gosod y drafodaeth yn yr union faes y maent hwy eu hunain yn nodi ei fod yn dir hesb wrth geisio amgyffred y crefyddol ar ysbrydol. Ond gwendid neu beidio, dyma gyfrol sydd yn sicr o herio confensiynau, gorfodi trafodaeth ac ysgogi pobl i holi a stilio ynghylch eu ffydd neu eu diffyg ffydd. John Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |