|
![]() |
|||
|
||||
OverviewWeithiau gall tyfu i fyny deimlo'n debyg i fod mewn ffilm arswyd! Efallai dy fod yn teimlo'n ddryslyd; yn hunanymwybodol; ond yn llawn cyffro hefyd. Mae'n siŵr fod mil o gwestiynau'n gwibio drwy dy feddwl. Paid â phoeni; dwi yma i dy gefnogi. Dyma ganllaw cyfoes i fechgyn ar eu prifiant. Addasiad Cymraeg o How to Grow Up and Feel Amazing. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Dr Ranj , Catrin Wyn Lewis , David O'ConnellPublisher: Rily Publications Ltd Imprint: Rily Publications Ltd Dimensions: Width: 15.20cm , Height: 1.40cm , Length: 21.50cm ISBN: 9781804163429ISBN 10: 1804163422 Pages: 160 Publication Date: 01 August 2023 Audience: Children/juvenile , Children / Juvenile Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsDwi ddim yn cofio Mam a Dad byth yn eistedd i lawr efo fi a fy chwaer i gael ‘y sgwrs’ am ffeithiau bywyd a sut gawson ni ein ‘creu’. Ar un llaw, ella fasa hynny wedi bod yn eithaf defnyddiol, ond wedi meddwl yn iawn, dwi’n meddwl fasa fo wedi bod yn rhy lletchwith. Yn y dyddia’ hynny (a dwi ddim ond yn sôn am y 90au) doeddach chi jest DDIM yn trafod rhyw yn gyhoeddus, ac yn bendant ddim efo’ch rhieni. Dwi ddim yn cofio’n iawn sut wnes i ddod i ddeall ‘sut mae pethau yn gweithio’ ond dwi’n bendant am un peth – doedd o ddim o ganlyniad i’r gwersi ‘sex ed’ yn yr ysgol achos roedd rheiny’n anobeithiol! Mae gen i ryw gof o ffeindio gwyddioniadur reit fanwl ar y silff adra a chael agoriad llygad go iawn! Wrth gwrs mae isio dysgu am y bioleg tu ôl i’r cyfan, ond mae llawer mwy iddi na hynny. Yn wahanol i’r llyfrau llychlyd, hen ffasiwn oedd gennym ni, mae’r llyfr deniadol, modern yma yn sôn am nifer o bynciau cyfoes fel iechyd meddwl, rhywedd, cyfryngau cymdeithasol, teuluoedd cyfunol, gorbryder, catfishing a phethau felly – llawer mwy na jest dysgu am sut mae sberm ac wy yn dod at ei gilydd (ond, ie, mi fyddwch chi’n falch o glywed fod yna ddiagramau o’r mân bethau hynny yn rhywle yn y llyfr!). Gweld y llyfr yma wnes i yn Saesneg gyntaf, a chlywed wedyn fod Rily wedi gwneud addasiad o lyfr poblogaidd Dr Ranj Dysgu am Dyfu: Llawlyfr i Fechgyn. Mae’n bwysig nodi nad llyfr am ryw yn unig yw hwn. Mae’n cynnwys gwybodaeth am lwyth o bethau defnyddiol a difyr sydd yn ymwneud â thyfu i fyny, a’r holl newidiadau gwyllt a gwallgo’ sy’n digwydd yn ystod y glasoed. Stwff fel hylendid personol, perthnasau, chwaraeon, cadw’n iach, iechyd meddwl, seibrfwlio, ffrindiau, hormonau, emosiynau a mwy ... mae’r rhestr yn parhau! Yn siarad o brofiad, mae bechgyn yn aml iawn yn cael enw drwg am fod yn ‘blentynnaidd’ neu’n anaeddfed ynghylch materion yn ymwneud â rhyw, ond dwi’n meddwl fod hynny’n annheg braidd. Mae bechgyn eisiau dysgu am y pethau ’ma i gyd, ond mae angen iddyn nhw gael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n mynd i apelio. Dyna’n union mae’r llyfr yma’n ei wneud. Dwi ddim yn cofio Mam a Dad byth yn eistedd i lawr efo fi a fy chwaer i gael ‘y sgwrs’ am ffeithiau bywyd a sut gawson ni ein ‘creu’. Ar un llaw, ella fasa hynny wedi bod yn eithaf defnyddiol, ond wedi meddwl yn iawn, dwi’n meddwl fasa fo wedi bod yn rhy lletchwith. Yn y dyddia’ hynny (a dwi ddim ond yn sôn am y 90au) doeddach chi jest DDIM yn trafod rhyw yn gyhoeddus, ac yn bendant ddim efo’ch rhieni. Dwi ddim yn cofio’n iawn sut wnes i ddod i ddeall ‘sut mae pethau yn gweithio’ ond dwi’n bendant am un peth – doedd o ddim o ganlyniad i’r gwersi ‘sex ed’ yn yr ysgol achos roedd rheiny’n anobeithiol! Mae gen i ryw gof o ffeindio gwyddioniadur reit fanwl ar y silff adra a chael agoriad llygad go iawn! Wrth gwrs mae isio dysgu am y bioleg tu ôl i’r cyfan, ond mae llawer mwy iddi na hynny. Yn wahanol i’r llyfrau llychlyd, hen ffasiwn oedd gennym ni, mae’r llyfr deniadol, modern yma yn sôn am nifer o bynciau cyfoes fel iechyd meddwl, rhywedd, cyfryngau cymdeithasol, teuluoedd cyfunol, gorbryder, catfishing a phethau felly – llawer mwy na jest dysgu am sut mae sberm ac wy yn dod at ei gilydd (ond, ie, mi fyddwch chi’n falch o glywed fod yna ddiagramau o’r mân bethau hynny yn rhywle yn y llyfr!). Gweld y llyfr yma wnes i yn Saesneg gyntaf, a chlywed wedyn fod Rily wedi gwneud addasiad o lyfr poblogaidd Dr Ranj Dysgu am Dyfu: Llawlyfr i Fechgyn. Mae’n bwysig nodi nad llyfr am ryw yn unig yw hwn. Mae’n cynnwys gwybodaeth am lwyth o bethau defnyddiol a difyr sydd yn ymwneud â thyfu i fyny, a’r holl newidiadau gwyllt a gwallgo’ sy’n digwydd yn ystod y glasoed. Stwff fel hylendid personol, perthnasau, chwaraeon, cadw’n iach, iechyd meddwl, seibrfwlio, ffrindiau, hormonau, emosiynau a mwy ... mae’r rhestr yn parhau! Yn siarad o brofiad, mae bechgyn yn aml iawn yn cael enw drwg am fod yn ‘blentynnaidd’ neu’n anaeddfed ynghylch materion yn ymwneud â rhyw, ond dwi’n meddwl fod hynny’n annheg braidd. Mae bechgyn eisiau dysgu am y pethau ’ma i gyd, ond mae angen iddyn nhw gael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n mynd i apelio. Dyna’n union mae’r llyfr yma’n ei wneud. Addasiad o adolygiad oddi ar wefan Son am Lyfra / An adaptation of a review from the Son am Lyfra website. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |