|
![]() |
|||
|
||||
OverviewA collection of entertaining and funny, satirical and disparaging Welsh idioms and phrases from all over Wales. Full Product DetailsAuthor: Mary WilliamPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781785621604ISBN 10: 1785621602 Pages: 224 Publication Date: 01 July 2016 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsFe wyr y to hyn am Mary Wiliam ar gyfrif ei chyfnod yn gweithio ir BBC. Mary Middleton oedd hir pryd hwnnw, ac fei gwelid yn nosweithiol yn holi ar y rhaglen boblogaidd Heddiw. Yn wir, cawsom gip arnin ddiweddar, mewn clip du a gwyn ar S4C, yn jeifio gydar Hywel Gwynfryn ifanc mewn dawns yn Llanddewibrefi, yn rhinwedd ei swydd ar Heddiw. Fe gofiar mwyaf diwylliedig yn ein plith iddi fod, hefyd, yn ymchwilydd ar staff yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, yn gweithio dan gyfarwyddyd y diweddar Vincent Phillips ar dafodieithoedd Cymru. Pwyn well, felly, i gyflwyno inni ddawn ymadroddir Cymry praff eu hiaith, dros ddegawdau niferus? Cyhoeddwyd prototeip y gyfrol hon gan Mary Wiliam ym mis Mawrth 1978, ac mae diwyg y testun yn debyg, ond bod y gyfrol hon yn llawer hwy nai rhagflaenydd (ddwywaith ei hyd ac ar bapur mwy) ac wedi ei diwygio drwodd a thro. Yn y gyfrol hon, maer pedwar pennawd ar bymtheg wedi eu trefnu dan dri phrif bennawd: Y dywediadau; Tylwyth a chymdeithas; a Byd gwaith ac arian. Hwyrach y dylid sn, cyn teithio ymhellach, am y clawr dychmygus syn darlunio'r ffordd syn dringo i fyny Bwlch Tal-y-llyn ym Meirionnydd. Taith drwyr iaith ywr isteitl a dyna yw natur y gyfrol; gwib sydyn a ffraeth o un dywediad ir llall, fel petai esbonio un dywediad yn atgoffar awdur o ddywediad tebyg, a bod hwnnw, yn ei dro, yn ei hatgoffa am ddywediad gwahanol mewn rhan arall o Gymru taith yng ngwir ystyr y gair. Y trueni mawr yw nad ywr iaith yn ddigon cyhyrog bellach i greur fath gyfoeth o ddywediadau. Ystyriwch y dychan ar doniolwch wrth ddisgrifio dyn diog fel masiwn ar y mr (t. 163), neu alw diacon pren ar flaenor di-werth mewn capel (t. 48), neur sylw fod bachgen wedi dewis cymar llai nag addas Fe bigodd y ddraenen ymhlith y blode (t. 103). Nodir dywediad o ardal Ffair-rhos: Bob un i ffansi, fel y gwedodd y ceffyl wrth gusanur mochyn(t. 42). Tybiaf mai Tegla syn nodi dywediad tebyg yn un oi lyfrau: Pawb at ei ffansi, fel y dywedodd y dyn wrth gusanur gaseg. Diau y bydd y gyfrol hon yn gyfrwng i brocior cof ac y bydd llawer ohonom, oi darllen, yn cofior hyn a ddywedai ein tadau an teidiau. Yn ein teulu ni, er enghraifft, os byddai rhywun yn tagu ar fwyd neu ddiod, fe ddywedid bod yr ymborth wedi mynd ir twll caws. Croeso mawr felly i gyfrol werthfawr a defnyddiol. Beth am inni i gyd fynd ati i lunio dywediadau cyhyrog cyfoes? Beth am ddisgrifio rhywun busneslyd yn un gwell na Gwgl am wybod eich hanes chi? Na, go brin. Dafydd Ifans Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |