Dan y Ddaear

Author:   John Alwyn Griffiths
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845279530


Pages:   352
Publication Date:   11 October 2024
Format:   Paperback
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $25.85 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Dan y Ddaear


Add your own review!

Overview

Full Product Details

Author:   John Alwyn Griffiths
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:   Gwasg Carreg Gwalch
Dimensions:   Width: 12.40cm , Height: 1.40cm , Length: 18.20cm
ISBN:  

9781845279530


ISBN 10:   1845279530
Pages:   352
Publication Date:   11 October 2024
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Table of Contents

Reviews

Mae pob ditectif gwerth ei halen yn gweithredu o fewn ei filltir sgwâr. Vigàta yw tref ddychmygol Salvo Montalbano ar arfordir deheuol Ynys Sicilia; St Mary Mead yw pentref Seisnig̶-gysurus Miss Marple; tra bod tref go iawn Ystad yn ne Sweden yn deyrnas i Kurt Wallander. Erbyn hyn mae tref Glan Morfa yng ngogledd Cymru yn gartref i’r ditectif Cymraeg cyfoes mwyaf ei fri, sef Jeff Evans, Q.P.M. Ffenomen nad sy’n derbyn llawer o glod o fewn y byd llenyddol, mewn unrhyw iaith, yw ffuglen datrys torcyfraith. Mae’n wir y gall llunio ffuglen o’r fath droi’n fformiwla sy’n cael ei haddasu o’r naill nofel i’r llall, ond mae yna hefyd nofelau sy’n amlygu dawn lenyddol gynhenid yn ogystal â stori dda a manylion technegol cywir, er enghraifft cynnyrch P. D. James. Y mae’r awdur dan sylw yma, John Alwyn Griffiths, yn sicr o ran hanfodion y grefft, yn wybodus am arferion yr heddlu fel cyn brif dditectif, ac mae ganddo Gymraeg sicr, idiomatig a chywrain ar ben hynny. Hon, eleni, yw’r drydedd ar ddeg yn y gyfres nofelau sy’n adrodd hanes dal dihirod Glan Morfa a’r cylch. Mae cynfas yr awdur yn wahanol bob tro ̶ natur y troseddu yn wahanol ym mhob cyfrol a’r straeon wedi eu gweu’n gymhleth nes bod Jeff Evans, yn llwyddo i greu dénouement boddhaol trwy ei ddulliau anghonfensiynol. Oherwydd y dulliau hynny, rhai nas dysgir mewn coleg plismona, y mae’r ditectif hwn yn llwyddo yn amlach na pheidio i gyrraedd y nod, er cryn ofid i’w benaethiaid syfrdan, ac er cryn risg corfforol personol iddo’i hun, cyn diwedd pob anturiaeth. Y broblem fawr wrth adolygu nofel ddatrys yw gwybod faint o’r stori y gellir ei datgelu, digon i godi blas a chwilfrydedd ar ddarpar ddarllenydd, ond cofio hefyd peidio â gollwng y gath o’r cwd cyn i’r darpar ddarllenwr hwnnw brynu’r gyfrol. Trosedd hanesyddol yw sylfaen y stori yn y nofel hon. Mae’r cefndir yn amaethyddol y tro hwn gyda thenant yn aredig tir ac yn darganfod esgyrn dynol. Digon yw dweud bod yr hanes wedi ei greu’n grefftus o gwmpas y teulu biau’r tir dan sylw a bod yma ddihirod go iawn, rhai o bell does dim angen dweud, yn ogystal ag ambell Gymro sydd wedi cael ei gyfareddu gan ddulliau anghyfreithlon o wneud arian. Rhag i’r darllen fynd yn rhy dywyll ac anodd ei stumogi, mae gan yr awdur nofelau datrys yn aml rhyw gymeriad sy’n dod ag elfen ysgafnach, neu elfen o gomedi hyd yn oed, i’r digwydd. Dyna ichi’r plismon Catarella yng nghyfres Montalbano o waith Andrea Camilleri. Mae ef yn llwyddo, nid yn unig i gamgofio enwau’r unigolion a ddaw i mewn i dderbynfa swyddfa’r heddlu, ond hefyd yn llwyddo i daro drws swyddfa’r Doctore bob tro y daw i mewn i’w swyddfa. Yn y nofel dan sylw, fel yn y cyfrolau blaenorol, Nansi’r Nant sy’n dod ag awel ysgafnach i nofelau John Alwyn Griffiths – Miss Dilys Hughes i roi iddi ei henw cofrestredig swyddogol. Hi yw cynrychiolydd is-fyd Glan Morfa (Buchedd B y dref), ac yn ceisio trwy bob dull a modd i ddenu’r ditectif diwair gyda’i deniadau benywaidd. Gwybodaeth Nansi, yn aml iawn, sy’n rhoi Jeff ar ben y ffordd i ddal y dihirod ac y mae yntau bob amser yn ofalus i beidio â datgelu enw ei hysbysydd i’w gyd-weithwyr, yn unol ag integriti pob ditectif gwerth ei halen. Dyma nofel dditectif gyfoes sy’n gafael yn y darllenydd. Mae ynddi droeon annisgwyl a llwybrau sy’n troelli’n groes i’r hyn a ddisgwylir. Y cymeriadau amheus yn aml yn ddieuog a’r annisgwyl yn euog dros ben! -- Dafydd Ifans @ www.gwales.com


'Mae John Alwyn Griffiths yn sicr o ran hanfodion y grefft, yn wybodus am arferion yr heddlu, ac mae ganddo Gymraeg sicr, idiomatig a chywrain ar ben hynny.' – Dafydd Ifans -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Mae pob ditectif gwerth ei halen yn gweithredu o fewn ei filltir sgwâr. Vigàta yw tref ddychmygol Salvo Montalbano ar arfordir deheuol Ynys Sicilia; St Mary Mead yw pentref Seisnig̶-gysurus Miss Marple; tra bod tref go iawn Ystad yn ne Sweden yn deyrnas i Kurt Wallander. Erbyn hyn mae tref Glan Morfa yng ngogledd Cymru yn gartref i’r ditectif Cymraeg cyfoes mwyaf ei fri, sef Jeff Evans, Q.P.M. Ffenomen nad sy’n derbyn llawer o glod o fewn y byd llenyddol, mewn unrhyw iaith, yw ffuglen datrys torcyfraith. Mae’n wir y gall llunio ffuglen o’r fath droi’n fformiwla sy’n cael ei haddasu o’r naill nofel i’r llall, ond mae yna hefyd nofelau sy’n amlygu dawn lenyddol gynhenid yn ogystal â stori dda a manylion technegol cywir, er enghraifft cynnyrch P. D. James. Y mae’r awdur dan sylw yma, John Alwyn Griffiths, yn sicr o ran hanfodion y grefft, yn wybodus am arferion yr heddlu fel cyn brif dditectif, ac mae ganddo Gymraeg sicr, idiomatig a chywrain ar ben hynny. Hon, eleni, yw’r drydedd ar ddeg yn y gyfres nofelau sy’n adrodd hanes dal dihirod Glan Morfa a’r cylch. Mae cynfas yr awdur yn wahanol bob tro ̶ natur y troseddu yn wahanol ym mhob cyfrol a’r straeon wedi eu gweu’n gymhleth nes bod Jeff Evans, yn llwyddo i greu dénouement boddhaol trwy ei ddulliau anghonfensiynol. Oherwydd y dulliau hynny, rhai nas dysgir mewn coleg plismona, y mae’r ditectif hwn yn llwyddo yn amlach na pheidio i gyrraedd y nod, er cryn ofid i’w benaethiaid syfrdan, ac er cryn risg corfforol personol iddo’i hun, cyn diwedd pob anturiaeth. Y broblem fawr wrth adolygu nofel ddatrys yw gwybod faint o’r stori y gellir ei datgelu, digon i godi blas a chwilfrydedd ar ddarpar ddarllenydd, ond cofio hefyd peidio â gollwng y gath o’r cwd cyn i’r darpar ddarllenwr hwnnw brynu’r gyfrol. Trosedd hanesyddol yw sylfaen y stori yn y nofel hon. Mae’r cefndir yn amaethyddol y tro hwn gyda thenant yn aredig tir ac yn darganfod esgyrn dynol. Digon yw dweud bod yr hanes wedi ei greu’n grefftus o gwmpas y teulu biau’r tir dan sylw a bod yma ddihirod go iawn, rhai o bell does dim angen dweud, yn ogystal ag ambell Gymro sydd wedi cael ei gyfareddu gan ddulliau anghyfreithlon o wneud arian. Rhag i’r darllen fynd yn rhy dywyll ac anodd ei stumogi, mae gan yr awdur nofelau datrys yn aml rhyw gymeriad sy’n dod ag elfen ysgafnach, neu elfen o gomedi hyd yn oed, i’r digwydd. Dyna ichi’r plismon Catarella yng nghyfres Montalbano o waith Andrea Camilleri. Mae ef yn llwyddo, nid yn unig i gamgofio enwau’r unigolion a ddaw i mewn i dderbynfa swyddfa’r heddlu, ond hefyd yn llwyddo i daro drws swyddfa’r Doctore bob tro y daw i mewn i’w swyddfa. Yn y nofel dan sylw, fel yn y cyfrolau blaenorol, Nansi’r Nant sy’n dod ag awel ysgafnach i nofelau John Alwyn Griffiths – Miss Dilys Hughes i roi iddi ei henw cofrestredig swyddogol. Hi yw cynrychiolydd is-fyd Glan Morfa (Buchedd B y dref), ac yn ceisio trwy bob dull a modd i ddenu’r ditectif diwair gyda’i deniadau benywaidd. Gwybodaeth Nansi, yn aml iawn, sy’n rhoi Jeff ar ben y ffordd i ddal y dihirod ac y mae yntau bob amser yn ofalus i beidio â datgelu enw ei hysbysydd i’w gyd-weithwyr, yn unol ag integriti pob ditectif gwerth ei halen. Dyma nofel dditectif gyfoes sy’n gafael yn y darllenydd. Mae ynddi droeon annisgwyl a llwybrau sy’n troelli’n groes i’r hyn a ddisgwylir. Y cymeriadau amheus yn aml yn ddieuog a’r annisgwyl yn euog dros ben! -- Dafydd Ifans @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

MRG2025CC

 

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List