|
|
|||
|
||||
OverviewA stage adaptation of the iconic Welsh novel, Cysgod y Cryman, depicting rural life in Powys, and in particular the friction between two generations of a landowning family when the son becomes a communist and aethist thus inducing his father's wrath. Full Product DetailsAuthor: Sion Eirian , Annes GlynnPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781843238225ISBN 10: 1843238225 Pages: 128 Publication Date: 06 February 2007 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Table of ContentsReviewsNid ywn syndod o gwbl gweld fod y Cymry am ddal i fwynhau nofelau Islwyn Ffowc Elis. Y maen chwedleuwr tan gamp, fel yr oedd Daniel Owen, ac fe wyr pawb, ond ambell i feirniad, peth mor sylfaenol bwysig i nofelydd ydi medru dal cynulleidfa efo stori dda. Y mae o hefyd yn medru ysgrifennu Cymraeg sydd fel sidan. Daeth ei fedr eithriadol fel dyn geiriau ir golwg yn ei ysgrifau Cyn Oerir Gwaed, ac y mae iw gweld yr un mor amlwg yn ei nofelau ai storau byrion. Y maen medru bod yn gyfareddol darllenwch rai or disgrifiadau ar ddechrau penodau Cysgod y Cryman i weld mor wir ydi hyn. Dyma nodweddion, om darlleniad cyntaf or nofel, yn 1953, am trawodd i mor gryf rwan r adeg honno. Ond, bobol bach, y maer blynyddoedd rhwng 1953 a 2002 wedi newid safbwyntiau ein cymdeithas ni yn chwyldroadol. Y mae, yn y nofel, elfennau y cyfeiriodd Islwyn Ffowc Elis atynt mewn ysgrif ar 'Y Nofelydd ai Gymdeithas', sef: '... safonau a rhagdybiau cydnabyddedig ei gyfnod ai gymdeithas, [elfennau meddai] nad yw [nofelydd] yn debyg o ymyrryd rhyw lawer [hwy] rhag tarfui gynulleidfa.' Rhagdybiau Anghydffurfiwr o Genedlaetholwr o Gymro, yn 1953, a geir yn Cysgod y Cryman. Ystyriwn, er enghraifft, Harri Vaughan, arwr a phrif gymeriad y nofel hon: y mae rhai oi nodweddion cymeradwy ar y pryd bellach yn ddigon i saethu ffeministiaid i orbit. Y maer un peth yn wir am Edward Vaughan, tad yr arwr, a pherchennog fferm sylweddol, sef Lleifior, yn Nyffryn Aerwen. Yn ei ysgrif ar 'Y Nofelydd ai Gymdeithas' sonia Islwyn Ffowc Elis am rwymedigaeth y nofelydd 'i rwystroi ragfarnau rhag duo gormod ar ei ddihirod a gwynnu gormod ar ei arwyr'. Wrth ddarllen y nofel eto yr ydw in rhyw deimlo fod yna ymagweddu go bendant tuag at rai cymeriadau ynddi. Nid mater o fod yn y nofel gymeriadau 'da' a rhai 'drwg' ydi hyn y mae cymeriadau or fath yn y rhan fwyaf o nofelau ond fod yr awdur o bryd iw gilydd yn cyfarwyddo ein hymateb yn lle gadael inni ymateb yn l portread a gweithredoedd y cymeriadau eu hunain. Dyma un enghraifft: y mae Wil James, sydd yn gweithio ar fferm Lleifior, yn ddihiryn; y mae ei weithredoedd ai eiriaun dangos hynny. Y maen mynnu siarad Saesneg Karl, Almaenwr a ddaeth i weithio yn Lleifior pan oedd yn garcharor rhyfel ac a ddaeth yn ei l yno ar l y rhyfel. Dyma a ddywed Islwyn Ffowc Elis yn y nofel: 'Yr oedd Wil James yn un or rhai a siaradai Saesneg Karl. Nid oedd ganddo mor crebwyll i wybod bod Karl yn fwy o feistr ar unrhyw iaith nag ydoedd ef.' Y maer ail frawddeg yn sylw uniongyrchol yr awdur, y maen dweud wrthym sut i ymateb. Ymhellach, y mae Karl yn gallu dweud, 'Yr wyf o hyd yn ddiysmygwr', chwithdod ieithyddol nad yw Wil James yn euog oi debyg. Y mae yn y nofel nifer o sylwadau fel hyn syn goruchwylio ymateb y darllenwr. Pan ymddangosodd y nofel gyntaf, cyhuddwyd Islwyn Ffowc Elis o wneud Karl mor dda nes ei bod yn anodd credu ynddo. Ond y maen gwbl glir fod ei hunanymwadiad mor eithafol nes bod yn negyddol, hynny yw, y mae cryfder Karl yn wendid. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn fwy craff nag oedd yn amlwg i amryw oi feirniaid cynnar. Prif bwnc y nofel ydi lle traddodiad, syn cynnwys system economaidd a hen systemau o lywodraethu, ym myd Harri Vaughan ai gymdeithas. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn flaengar yn ei bwnc achos yr oedd yn ymdrin materion a ddaeth i strydoedd amryw o ddinasoedd y byd rai blynyddoedd ar l cyhoeddir nofel: bu myfyrwyr yn y Sorbonne yn taflu cerrig ac yn baricedio strydoedd Paris, a phobol ifainc Tokyon taflu bomiau petrol yn Japan. Yr oedden nhw, fel Harri Vaughan yn ei ffordd ef ei hun, yn gwrthryfela yn erbyn awdurdod a systemau a darddai o draddodiad. Y maer pwnc yn dal gyda ni. Ond fe gynigir neges bwysig yn Cysgod y Cryman, sef mai trwy gyfaddawd y maer hen ar newydd yn debyg o ddod i ryw fath o sefydlogrwydd mwy cyfiawn. Trwy berthynas Harri Vaughan ai dad y cyfleir hyn yn y nofel. Yr oedd hin bleser darllen y nofel hon unwaith yn rhagor, a gweld elfennau ynddi mewn ffordd wahanol. Y mae to ar l to o bobol ifainc o Gymry wedi cymryd at y nofel hon; yr oeddent, ac y maent, yn ddoeth o wneud hynny. Y mae hin nofel syn bleser iw darllen. Y mae ei hawdur, uwchlaw popeth, yn ysgrifennwr Cymraeg tra nodedig, a beth bynnag arall sydd yn newid o ddarllen y nofel dros y blynyddoedd, y mae ei rhagoriaeth fel testun Cymraeg yn dal yn rhyfeddod. Darllenir y nofel ar y CD gan J.O. Roberts. Gwyn Thomas Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |
||||