Cynefin, Cymru a'r Byd: Daearyddiaeth Heddiw ar Gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

Author:   Gwasg Carreg Gwalch
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845279301


Pages:   256
Publication Date:   29 February 2024
Format:   Hardback
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $49.14 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Cynefin, Cymru a'r Byd: Daearyddiaeth Heddiw ar Gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol


Add your own review!

Overview

The aim of this volume is to start at our feet and broaden horizons to all corners of the earth. It comprises all elements of Geography: physical characteristics, citizenship and natural environments. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Gwasg Carreg Gwalch
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:   Gwasg Carreg Gwalch
Dimensions:   Width: 13.80cm , Height: 1.20cm , Length: 21.50cm
ISBN:  

9781845279301


ISBN 10:   1845279301
Pages:   256
Publication Date:   29 February 2024
Audience:   Children/juvenile ,  Children / Juvenile
Format:   Hardback
Publisher's Status:   Active
Availability:   Available To Order   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Mae Cwricwlwm i Gymru bellach yn plethu'r pynciau unigol drwy'i gilydd. Nid yw'r hen wersi yn bodoli. Mae iaith, llenyddiaeth, daearyddiaeth, y celfyddydau – y dyneiddiau i gyd – yn un maes cyfoethog erbyn hyn. Yn y gyfrol hon, gwelwn fod daear a dyfroedd Cymru yn adrodd stori wrthym. LLIW LLAWN Y cynefin yw'r man cychwyn. Bro, ardal, dalgylch – ond mae cymaint mwy na hynny hefyd yn nyfnderoedd a gwreiddiau y gair 'cynefin'. Oddi yno, cawn ymestyn i weld Cymru gyfan a'i holl amrywiaeth. Yna, canfod lle ein gwlad ar wyneb y ddaear ac yn nyfodol y byd. -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch


Yr hyn sy'n ei gwneud yn gyfrol arbennig yw ei bod yn hollol unigryw i Gymru ac yn ymestyn i gynnwys pynciau eraill fel hanes, llenyddiaeth, hunaniaeth, celf ac yn cynnwys enghreifftiau o ddiwylliannau a chrefyddau eraill. Y cynefin yw'r man cychwyn. Bro, ardal, dalgylch - ond mae cymaint mwy na hynny hefyd yn nyfnderoedd a gwreiddiau y gair 'cynefin'. Oddi yno, cawn ymestyn i weld Cymru gyfan a'i holl amrywiaeth. Yna, canfod lle ein gwlad ar wyneb y ddaear ac yn nyfodol y byd. Mae'r gyfrol yn wynebu problemau cyfoes a phynciau llosg y dydd. Ond y mae hefyd yn dangos bod atebion, bod ffordd ymlaen. Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2-3 (11-14 oed) -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Cyfrol newydd sbon ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yw Cynefin, Cymru a’r Byd. Mae’r llyfr yn cynnig arweiniad cynhwysfawr a chyfoes i athrawon sy’n dysgu Daearyddiaeth fel pwnc, neu drwy gyfuniad o bynciau o fewn adran y Dyniaethau ac Astudiaethau’r Amgylchfyd. Mae cyhoeddi cyfrol mor bwysig yn Gymraeg a Saesneg yn fantais fawr i ni wrth hyrwyddo a datblygu Cwricwlwm Cymreig uchelgeisiol i ddisgyblion Cymru. Fe'i comisiynwyd yn arbennig gan banel addysg y Llywodraeth i ateb gofynion newydd y Cwricwlwm o safbwynt dysgu’r Dyniaethau yng Ngham Cynnydd 2 a 3 ysgolion Cymru, a bu cryn ddisgwyl amdani er mwyn llenwi’r bwlch fel adnodd newydd, cyfoes, sy’n pontio gwaith cynradd ac uwchradd. Ffrwyth llafur gweithgor o ymgynghorwyr ac arbenigwyr yn y maes Daearyddiaeth yw'r gyfrol, a threialwyd y cynnwys yn drylwyr gan athrawon a disgyblion mewn ysgolion ar draws Cymru. Nid oes cyfrol debyg i hon wedi ymddangos o’r blaen yn holl hanes addysg yng Nghymru, ac fe fydd yn cyfoethogi adnoddau dysgu ac addysgu dosbarthiadau ysgolion ledled Cymru. Mae’n bartner teilwng i gyfrol hanes diweddar gan Wasg Carreg Gwalch sef Hanes yn y Tir gan Elin Jones (2022) a gafodd dderbyniad gwych ar aelwydydd ac mewn ysgolion. Mae diwyg ac arddull y gyfrol yn debyg iawn, gyda’r testun yn llifo rhwng y gwaith graffig. Mae’r gyfrol yn cynnig dilyniant o themâu a gweithgareddau trawsgwricwlaidd sy’n pontio astudiaethau’r amgylchfyd rhwng Cam Cynnydd 2 a 3 (cynradd ac uwchradd), gyda phob isadran yn agor gyda gair allweddol, e.e. Cartref, Cynefin, Gwlad, Tir, Amrywiaeth, Hunaniaeth, Llywodraethu Gwladwriaeth ac Unedig. Gosodwyd y cynnwys yn drefnus ac effeithiol ac mae’r arweiniad i athrawon a disgyblion yn glir a manwl. Mae’r dewis o luniau, mapiau, graffiau a thablau yn gyfoes a pherthnasol. Mae’n cynnig dilyniant rhwng yr holl elfennau daearyddol – nodweddion ffisegol, dinasyddiaeth a’r amgylchedd naturiol, ac mae modd modelu a chysylltu amgylchiadau lleol yr ysgol leol drwy astudio enghreifftiau penodol o’r gyfrol. Yr hyn sy’n ei gwneud yn gyfrol arbennig yw ei bod yn hollol unigryw i Gymru ac yn ymestyn i gynnwys pynciau eraill fel hanes, llenyddiaeth, hunaniaeth a chelf, ac yn cynnwys enghreifftiau o ddiwylliannau a chrefyddau eraill. Mae Cwricwlwm Cymru bellach yn plethu ac ymgorffori’r pynciau traddodiadol drwy’i gilydd. Nid yw’r hen wersi pynciol mor amlwg bellach, a dysgu thematig trawsgwricwlaidd, gyda’r pynciau yn plethu i’w gilydd yn naturiol, yw’r athroniaeth sy’n pontio o’r oedran cynradd i’r uwchradd bellach. I athrawon ysgolion cynradd mae’r dull thematig trawsgwricwlaidd o ddysgu wedi hen ennill ei blwyf, ond bellach mae athrawon ysgolion uwchradd hefyd yn symud i gydweithio rhwng adrannau Hanes, Daearyddiaeth ac Addysg Grefyddol. Mae ‘cynefin’ yn derm Cymraeg sy’n cael ei ddiffinio gan Gwricwlwm i Gymru fel ‘y lle rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n perthyn, lle mae’r bobl a’r dirwedd o’n cwmpas yn gyfarwydd, a’r golygfeydd a’r synau yn gysurus i’w hadnabod.’ Nid dim ond yr ardal yr ydym yn byw ynddi yw ‘cynefin’ – bro, ardal, dalgylch – ond mae cymaint mwy na hynny hefyd yn y gair. Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio i gynefinoedd gwahanol yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol. Mae astudio Daearyddiaeth yn ysbrydoli ymdeimlad ymhlith y disgyblion o ryfeddu at y byd rydyn ni’n byw ynddo ac yn eu hysgogi i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer pawb. Mae arsylwi a dadansoddi materion sy’n effeithio ar dirweddau, yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, yn eu galluogi i ddefnyddio eu gallu a’u sgiliau ar gyfer heriau mawr sy’n wynebu dynoliaeth. Gyda mwy a mwy o bwyslais ar ddysgu yn yr awyr agored ac ymweliadau addysgol, mae’n gyfrol yn cynnig arweiniad perffaith i athrawon ysgolion Cymru. Mae mynd ar ymweliad gwaith maes yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu ymdeimlad cryf o’u hunaniaeth a’u llesiant eu hunain, ond hefyd i ddatblygu dealltwriaeth o hunaniaeth pobl eraill, a gwneud cysylltiadau â phobl, hanesion lleol, a mannau eraill yng Nghymru a ledled y byd ehangach. Mae’r gyfrol yn wynebu a thrafod problemau cyfoes a phynciau llosg y dydd o ran cynefinoedd amrywiol Cymru sy’n wynebu newid. Ond y mae hefyd yn dangos bod atebion, a bod ffordd ymlaen. Yn sicr fe fydd hon yn cael croeso ac yn hwyluso gwaith cynllunio’r athrawon wrth iddynt sefydlu ac ymgorffori’r newidiadau a chysyniadau daearyddol Cwricwlwm Cymru. -- Robin Williams @ www.gwales.com


Yr hyn sy'n ei gwneud yn gyfrol arbennig yw ei bod yn hollol unigryw i Gymru ac yn ymestyn i gynnwys pynciau eraill fel hanes, llenyddiaeth, hunaniaeth, celf ac yn cynnwys enghreifftiau o ddiwylliannau a chrefyddau eraill. Y cynefin yw'r man cychwyn. Bro, ardal, dalgylch - ond mae cymaint mwy na hynny hefyd yn nyfnderoedd a gwreiddiau y gair 'cynefin'. Oddi yno, cawn ymestyn i weld Cymru gyfan a'i holl amrywiaeth. Yna, canfod lle ein gwlad ar wyneb y ddaear ac yn nyfodol y byd. Mae'r gyfrol yn wynebu problemau cyfoes a phynciau llosg y dydd. Ond y mae hefyd yn dangos bod atebion, bod ffordd ymlaen. Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2-3 (11-14 oed) -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

RGJUNE2025

 

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List