|
![]() |
|||
|
||||
OverviewLlyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae Stryd y Bont yn dilyn hanes pobl sy'n byw ar yr un stryd mewn tref yng Nghymru. Pa gyfrinachau sydd ganddyn nhw? Pwy sy'n adnabod pwy, ac a ydy cymeriadau Stryd y Bont yn adnabod eu cymdogion mewn gwirionedd? AILARGRAFFAD -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Manon Steffan RosPublisher: Atebol Cyfyngedig Imprint: Atebol Cyfyngedig ISBN: 9781912261444ISBN 10: 1912261448 Pages: 40 Publication Date: 14 January 2021 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsFel un syn hoff iawn o waith y llenor Manon Steffan Ros, a minnaun diwtor Cymraeg i Oedolion, roeddwn in edrych ymlaen at gael darllen ei chyfrol Stryd y Bont, syn rhan o gyfres Amdani yn arbennig ar gyfer oedolion syn dysgu Cymraeg. Maer gyfrol yma wedii hysgrifennu ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad, felly maen addas i ddechreuwyr sydd wedi bod yn dysgu am flwyddyn neu ddwy. Ychwanegiad bach difyr arall ydyr darluniau gan y cartwnydd Huw Aaron, syn brithor gyfrol drwyddi draw. A chefais i mo fy siomi. Mae gan Manon Steffan Ros enw da am ei dawn dweud cynnil a ffraeth ai straeon gafaelgar ac mae Stryd y Bont yn stori syn gafael yn y dychymyg or cychwyn cyntaf. Mae gan yr awdur ddawn arbennig i greu cymeriadau crwn a chredadwy, ac mae hin llwyddo iw cyflwyno yn effeithiol a lliwgar mewn ychydig iawn o eiriau, gan ddefnyddio iaith syml, addas i ddysgwyr Cymraeg syn ddechreuwyr ond heb fod yn nawddoglyd. Mae Stryd y Bont yn dilyn trywydd un stori, gyda phob pennod yn canolbwyntio ar gymeriadau syn byw mewn gwahanol dai ar hyd un stryd dros gyfnod o tua dau ddiwrnod. Ym mhob pennod, rydyn nin cael safbwynt cymeriad gwahanol au fersiwn nhw o ddigwyddiad syn troi o amgylch un cymeriad, sef Dewi, syn byw yn Rhif 1 Stryd y Bont. Llwyddar awdur i osod awyrgylch o gyffro a chwilfrydedd, ynghyd ag elfen o ddrama yn gynnar iawn yn y gyfrol. Erbyn yr ail bennod, pan fyddwn nin cael golwg ar y cymeriadau syn byw yn yr ail dy ar y stryd, maer stori eisoes yn gafael ac roeddwn in teimlo fy mod i eisiau darllen ymlaen. Maer iaith yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad gyda geirfa briodol ar waelod pob tudalen. Maer geiriau syn cael eu cynnwys yn yr eirfa mewn print trwm, felly maen haws ir darllenydd wybod os oes angen troi at gymorth ychwanegol gydag unrhyw ystyron. Efallai, ar lefel dechreuwyr fel hyn, y byddai hyd yn oed ragor o eiriau yn yr eirfa o gymorth, er mwyn cynorthwyo llif y darllen ir rheiny sydd ddim am bori mewn geiriadur trwy gydol y profiad o ddarllen. Yn ogystal geirfa ar bob tudalen, maer holl eiriau syn cael eu rhoi trwy gydol y llyfr wediu casglu ynghyd yn y cefn. O bosib, mae ambell batrwm eithaf diarth i ddysgwyr a dechreuwyr Mynediad 1 (er enghraifft, ei hesgidiau ac ati) ond ar y cyfan, maer cynnwys ar lefel yn ddigon heriol ond heb fod yn rhy hawdd chwaith. Maen braf iawn darllen rhyddiaith greadigol wedi ei hanelu at oedolion, mewn iaith syn addas i ddysgwyr ei darllen. Fel tiwtor Cymraeg i Oedolion, buaswn yn argymell y llyfr yma i fy nysgwyr i. Mererid Haf Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |