|
![]() |
|||
|
||||
OverviewA book for Welsh learners, Entry Level (Mynediad), about Rhodri, who is a native Welsh speaker, and Lucy, his wife who has just started learning. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Mari George , Rhodri Owen , Lucy OwenPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781785622403ISBN 10: 1785622404 Pages: 44 Publication Date: 09 November 2018 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsMae'n heulog iawn ac mae Gabs wedi anghofio ei sbectol haul. Mae Lucy newydd ddychwelyd o gwrs dwys dysgu Cymraeg ac yn benderfynol o beidio siarad dim ond Cymraeg. Wrth y dwr mae Rhodri'n rhybuddio Gabs i fod yn ofalus ar y cerrig camu, rhag iddo wlychu. Mae Gabs yn gollwng y sbectol haul i'r dwr. Mae'r rhieni yn dadlau pwy ddylai fynd i mewn i'r dwr i achub y sbectol. Dyw Rhodri ddim eisiau difetha steil ei wallt gan ei fod yn gorfod gweithio y noson honno. I ganol hyn i gyd daw ci'r teulu. Mae rhywun yn wlyb iawn ar ddiwedd y stori ac yn gwisgo dillad ofnadwy o anffasiynol, ond mae Gabs a'r ci yn hollol sych! Tybed pwy sy'n diferu? -- Cyhoeddwr: Gomer Mae hwn yn llyfr yn y gyfres Amdani sy'n addas i oedolion sy wedi cwblhau Lefel Mynediad ac yn awyddus i roi eu sgiliau newydd ar waith. Mae'n denu diddordeb trwy adrodd stori am bobl go iawn sy'n adnabyddus, sef y cyflwynwyr teledu Lucy a Rhodri Owen, a'u mab Gabriel sy'n ddeg oed. Mae'r stori'n ddigon syml: stori am ddiwrnod pan mae'r teulu'n ymweld a Chastell Ogwr, gyda'u ci Buddy. Mae hiwmor ysgafn trwy gydol y llyfr, gan dynnu coes Rhodri am boeni am sut mae'n edrych o flaen y camerau teledu, a thynnu sylw at Gymraeg Lucy, sy'n dysgu'r iaith. Mae ambell wall yn ei geirfa (e.e. 'gwydrau haul' yn lle 'sbectol haul') sy'n cael ei gywiro gan ei mab a'i gwr, ac mae hi'n tueddu i ddefnyddio geiriau crand y dysgwr yn hytrach na geiriau'r stryd weithiau - sydd hefyd yn cael eu troi'n eiriau cyffredin gan y lleill. Mae'r lluniau hefyd yn ychwanegu hiwmor ac ysgafnder i'r llyfr. Maen nhw'n gyfuniad o ffotograffau o wynebau'r bobl go iawn a chyrff cartwnaidd, sy'n egluro'r stori, ac fel arfer mae un llun ar gyfer pob tudalen o destun. Mae'r awdur Mari George wedi ysgrifennu'r stori mewn iaith seml ac uniongyrchol. Mae'r rhan fwyaf o'r brawddegau'n defnyddio'r amser presennol, gydag ambell 'roedd' a 'bydd', ond does dim berfau amser gorffennol (e.e. 'aeth', 'gwelodd'). Mae'n defnyddio iaith a geirfa bob dydd a fydd yn ddefnyddiol i bawb. Mae geirfa ar waelod pob tudalen, a hefyd mae'r geiriau sy'n ymddangos yno yn cael eu hamlygu gan brint trwm yn y testun. Bydd hyn yn help mawr i ddysgwyr ar y lefel hon, gan eu galluogi i ddarllen yn weddol ddidrafferth. Er y bydd y llyfr yn dal yn ddigon heriol, gobeithio bydd y profiad o lwyddo i'w ddarllen ac o gael blas arno yn hwb i barhau a symud ymlaen trwy'r llyfrau eraill yn y gyfres. Dylai hyn fod yn sail gadarn i ddod i arfer darllen, a mwynhau darllen - dwy elfen allweddol yn y broses o ddysgu'r iaith. -- Philippa Gibson @ www.gwales.com Maen heulog iawn ac mae Gabs wedi anghofio eu sbectol haul. Mae Lucy newydd ddychwelyd o gwrs dwys Dysgu Cymraeg ac yn benderfynol o beidio siarad dim ond Cymraeg. Wrth y dwr mae Rhodrin rhybuddio Gabs i fod yn ofalus ar y cerrig camau rhag iddo wlychu. Mae Gabs yn gollwng y sbectol haul ir dwr. Maer rhieni yn dadlau pwy ddylai fynd i mewn ir dwr i achub y sbectol. Dyw Rhodri ddim eisiau difetha steil ei wallt gan ei fod yn gorfod gweithio y noson honno. I ganol hyn i gyda daw cir teulu. Ma rhywun yn wlyb iawn ar ddiwedd y stori ac yn gwisgo dillad ofnadwy o anffasiynol! Mae Gabs ar ci yn hollol sych! Tybed pwy syn diferu? -- Gwasg Gomer Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |