Cyfres Amdani: Y Llythyr

Author:   Helen Naylor ,  Dwynwen Teifi
Publisher:   CAA Cymru
ISBN:  

9781845216818


Pages:   84
Publication Date:   16 December 2022
Format:   Paperback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $20.67 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Cyfres Amdani: Y Llythyr


Add your own review!

Overview

A book for Welsh learners, Intermediate Level. In the small village of Tredafydd in the south Wales valleys, Megan and Huw become lovers. But will their love conquer the circumstances? Death, their families and years apart vie against them. A Welsh adaptation of Helen Naylor's Two Lives by Dwynwen Teifi. Reprint. First Published in 2018. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Helen Naylor ,  Dwynwen Teifi
Publisher:   CAA Cymru
Imprint:   CAA Cymru
Dimensions:   Width: 14.80cm , Height: 0.30cm , Length: 21.00cm
ISBN:  

9781845216818


ISBN 10:   1845216814
Pages:   84
Publication Date:   16 December 2022
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Cyfres Amdani - cyfres newydd, gyffrous o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel: Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Bydd y gyfres hon yn llenwi'r bwlch trwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themau cyfoes. -- Cyhoeddwr: CAA Cymru Mae'r stori'n dechrau tua diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac yn dangos Megan a Huw, yn 15 ac yn 16 oed, yn cwympo mewn cariad. Ond wrth gwrs maen nhw'n rhan o'u teuluoedd mewn pentref glofaol yn y cymoedd, ac mae'r ddau'n ufuddhau i ofynion a disgwyliadau'r oes. Trwy hyn, maen nhw'n cael eu gwahanu, yn groes i'w hewyllys. Wedyn, mae'r nofel yn neidio i oes newydd, tua diwedd yr ugeinfed ganrif. O ganlyniad i amgylchiadau newydd, daw cyfle i Megan a Huw i gysylltu a'i gilydd eto. Ond erbyn hyn maen nhw yn eu 60au ac mae'u sefyllfaoedd teuluol a chymdeithasol yn eu clymu mewn gwahanol ffyrdd. A fydd eu chwilfrydedd yn datblygu'n gariad eto, neu a fyddan nhw'n gweld bod pethau wedi newid? Mae rhaid darllen tan y diwedd i gael gwybod. Mae'r cymeriadau'n hoffus, ac wrth ddarllen, trwy gydol y nofel, roeddwn i eisiau gwybod beth fyddai'n digwydd nesaf. Mae tinc realaeth yn y stori, gyda'r sefyllfaoedd a'r teimladau cymysglyd yn cael eu portreadu mewn ffordd uniongyrchol, yn aml trwy ddeialogau byr. Rydym yn cwrdd ag aelodau o'r teuluoedd, ac er nad oes llawer o le i ymhelaethu ar bob un mewn nofel weddol fer, maen nhw'n argyhoeddi fel pobl go iawn, nid pobl wedi'u creu ar gyfer y plot yn unig. Mae naws wahanol bywyd yn y 1940au ac yn y 1990au hefyd yn argyhoeddi heb dynnu sylw. Llyfr ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd yw hwn, yn rhan o'r gyfres Amdani. Mae'r stori afaelgar yn cael ei dweud mewn iaith weddol seml, gydag ychydig o eirfa ar waelod pob tudalen, a'r geiriau hynny wedi'u hamlygu gyda phrint trwm ar y dudalen. Ambell waith, credwn y byddai'n dda rhoi ychydig o gymorth gyda chystrawennau gramadegol, er enghraifft y defnydd o 'safai' yn lle 'roedd yn sefyll', a'r 'un' negyddol ('Ddwedodd Huw'r un gair'). Mae'n debyg y bydd angen geiriadur wrth law hefyd, ond mae profiad Dwynwen Teifi o ddysgu Cymraeg i oedolion yn golygu bod geirfa'r nofel wedi'i dewis yn ofalus er mwyn sicrhau bod y darllen yn brofiad heriol ond pleserus. -- Philippa Gibson @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

wl

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List