|
![]() |
|||
|
||||
OverviewA book for Welsh learners, Advanced Level (Uwch). There has been a three-car crash on the back-roads of rural Wales one dark night. But what joins the driver's of these vehicles, and how did they end up here? -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Mared LewisPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781785622380ISBN 10: 1785622382 Pages: 132 Publication Date: 09 November 2018 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsMae hon yn nofel afaelgar sy’n dilyn cymeriadau diddorol a chymhleth wrth i’w gwahanol fywydau blethu’n un stori. Cwrddwn ag Alfan sy’n ddigartref ers dau fis, a Siwan, menyw gyfoethog, a chawn ddilyn trywydd eu bywydau wrth iddynt ddod i nabod ei gilydd. Ond mae ‘dod i nabod’ yn broses araf a throellog gan fod cyfrinachau gan y ddau am boen a chymhlethdod eu gorffennol. Nid seintiau mohonyn nhw o bell ffordd, ond mae rhywbeth annwyl a chlwyfedig yn y ddau ohonynt sy’n dod yn fwy amlwg ar adegau ac yn ein denu atynt. Mae’r nofel yn dilyn Alfan a Siwan am yn ail, fesul pennod, ond mae eu hanesion yn cael eu cyflwyno yn y trydydd person yn hytrach nag yn lleisiau’r cymeriadau eu hunain. Disgrifir beth sy’n digwydd yn glir, mewn ffordd sy’n hawdd ei dilyn, ac yn aml mae’r stori’n datblygu trwy ddeialogau rhwng Alfan a Siwan, a sgyrsiau gydag eraill yn nes ymlaen. Mae’r hanes yn symud yn ei flaen yn gyflym, gan gadw diddordeb y darllenydd drwyddo draw. Rydym eisiau gwybod beth fydd yn digwydd nesaf, wrth i bethau annisgwyl gael eu datgelu. Oes pobl dda a phobl ddrwg yma, ynteu ydy’r gwirionedd yn fwy amwys na hynny? Dyw’r awdur ddim yn mynd yn ddwfn i bersonoliaeth y cymeriadau, ond dysgwn ddigon i ddeall eu teimladau, eu dyheadau a’u gwendidau. Ysgrifennwyd y llyfr gan Mared Lewis ar gyfer cyfres Amdani i ddysgwyr, a’r mae'r llyfr hwn ar gyfer Lefel Uwch, gyda geirfa addas ar waelod pob tudalen i hwyluso’r darllen. Mae hefyd restr lawn o’r eirfa hon yng nghefn y llyfr. Iaith y gogledd sydd yn y deialogau, ond fydd hyn ddim yn rhy anodd i ddysgwyr Lefel Uwch y de chwaith. Bydd darllen y gyfrol yn brofiad i’w fwynhau gan unrhyw ddysgwr sy’n hoff o stori gref, a bydd yn gymorth i ddysgu ac ehangu geirfa, idiomau a chystrawennau naturiol a chyfoes wrth ymlacio a chyffroi ar yr un pryd. -- Philippa Gibson @ www.gwales.com Mae hon yn nofel afaelgar syn dilyn cymeriadau diddorol a chymhleth wrth iw gwahanol fywydau blethun un stori. Cwrddwn ag Alfan syn ddigartref ers dau fis, a Siwan, menyw gyfoethog, a chawn ddilyn trywydd eu bywydau wrth iddynt ddod i nabod ei gilydd. Ond mae dod i nabod yn broses araf a throellog gan fod cyfrinachau gan y ddau am boen a chymhlethdod eu gorffennol. Nid seintiau mohonyn nhw o bell ffordd, ond mae rhywbeth annwyl a chlwyfedig yn y ddau ohonynt syn dod yn fwy amlwg ar adegau ac yn ein denu atynt. Maer nofel yn dilyn Alfan a Siwan am yn ail, fesul pennod, ond mae eu hanesion yn cael eu cyflwyno yn y trydydd person yn hytrach nag yn lleisiaur cymeriadau eu hunain. Disgrifir beth syn digwydd yn glir, mewn ffordd syn hawdd ei dilyn, ac yn aml maer storin datblygu trwy ddeialogau rhwng Alfan a Siwan, a sgyrsiau gydag eraill yn nes ymlaen. Maer hanes yn symud yn ei flaen yn gyflym, gan gadw diddordeb y darllenydd drwyddo draw. Rydym eisiau gwybod beth fydd yn digwydd nesaf, wrth i bethau annisgwyl gael eu datgelu. Oes pobl dda a phobl ddrwg yma, ynteu ydyr gwirionedd yn fwy amwys na hynny? Dywr awdur ddim yn mynd yn ddwfn i bersonoliaeth y cymeriadau, ond dysgwn ddigon i ddeall eu teimladau, eu dyheadau au gwendidau. Ysgrifennwyd y llyfr gan Mared Lewis ar gyfer cyfres Amdani i ddysgwyr, ar mae'r llyfr hwn ar gyfer Lefel Uwch, gyda geirfa addas ar waelod pob tudalen i hwylusor darllen. Mae hefyd restr lawn or eirfa hon yng nghefn y llyfr. Iaith y gogledd sydd yn y deialogau, ond fydd hyn ddim yn rhy anodd i ddysgwyr Lefel Uwch y de chwaith. Bydd darllen y gyfrol yn brofiad iw fwynhau gan unrhyw ddysgwr syn hoff o stori gref, a bydd yn gymorth i ddysgu ac ehangu geirfa, idiomau a chystrawennau naturiol a chyfoes wrth ymlacio a chyffroi ar yr un pryd. Philippa Gibson Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |