|
![]() |
|||
|
||||
OverviewA book for Welsh learners, Intermediate Level. A collection of short stories with a good pinch of humour, by an author who has learnt Welsh herself. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Zoe Pettinger , Delyth Ifan , Lisa OsbornePublisher: CAA Cymru Imprint: CAA Cymru ISBN: 9781845216863ISBN 10: 1845216865 Pages: 62 Publication Date: 06 August 2018 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsCasgliad diddorol o bum stori fer wreiddiol - nid addasiadau - yw'r gwaith yma gan Zoe Pettinger (sy'n rhan o gyfres Amdani). Mae amryw o gymeriadau'r llyfrau yn ddysgwyr eu hunain; golyga hyn y bydd y dysgwyr yn gallu uniaethu a'r cymeriadau ac mae sefyllfaoedd cyfarwydd i'r dysgwyr yn codi. Mae pob un stori yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i'r dysgwyr. Dianc rhag cwlt yw thema un stori; yna cawn stori wyddonias yn delio gydag ymladd dros gymuned ac iaith; cawn stori wedyn am gariadon a fu'n cyd-ddysgu Cymraeg; yna stori am ysbryd sy'n tarfu ar aelodau dosbarth Cymraeg; a'r olaf yn stori am ddechrau mynychu dosbarth Cymraeg a'r ofnau a'r emosiynau ynglyn a hynny. Dysgwraig ddisglair ei hun yw awdur y straeon. Erbyn hyn mae hi'n diwtor llwyddiannus yn ardal Aberystwyth ac felly mae hi'n defnyddio fersiynau'r de o'r iaith. Mae'r straeon hyn yn addas i ddysgwyr Canolradd ac yn hawdd i'w darllen. Gellir eu defnyddio i helpu gyda sgiliau darllen ac yn arbennig i ddatblygu geirfa mewn meysydd amrywiol iawn. Golyga profiad helaeth yr awdur ei bod wedi gallu dethol geirfa, llawer o idiomau ac yn fwy penodol, ansoddeiriau, yn ofalus, er mwyn ehangu gwybodaeth y darllenydd yn ddiarwybod wrth iddo fwynhau'r stori. Bob tro mae gair newydd yn cael ei gyflwyno yn y stori caiff ei roi mewn print trwm, a'i esbonio ar waelod y dudalen berthnasol. Mae hyn yn hwyluso llif y deall a'r mwynhad o ddarllen heb orfod ymestyn am eiriadur - yn wir, mae'r dysgwr yn dal i ddysgu wrth ddarllen. Ysgogiad ychwanegol i'r dysgu yw'r adran eirfa yng nghefn y llyfr, yn ogystal a'r ailadrodd patrymau (megis ymarfer y gorffennol gan ddefnyddio'r ffurf gryno yn helaeth). Gan fod hwn yn llyfr o straeon byrion gellir gorffen un stori yn dwt ar un eisteddiad, ac wrth gwrs, nid dysgwyr y Gymraeg yn unig all eu gwerthfawrogi. O gwblhau'r llyfr hwn bydd y dysgwr wedi ymestyn ei allu a'i wybodaeth o'r iaith yn ogystal a chael mwynhad mawr o'r hyn mae'n ei ddarllen yn y straeon. -- Carwen Vaughan @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |