|
![]() |
|||
|
||||
OverviewFull Product DetailsAuthor: Alan Maley , Elin MeekPublisher: CAA Cymru Imprint: CAA Cymru ISBN: 9781845216825ISBN 10: 1845216822 Pages: 124 Publication Date: 06 April 2018 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsCyfres Amdani - cyfres newydd gyffrous o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel - Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Bydd y gyfres hon yn llenwi'r bwlch trwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themau cyfoes. -- Cyhoeddwr: CAA Cymru Roeddwn i wrth fy modd yn darllen y llyfr yma, mae'n rhaid i mi gyfaddef. Petai gen i amser ar y pryd, byddwn wedi gallu ei orffen mewn un eisteddiad. Mae'r cymeriadau yn gredadwy - rydych yn teimlo fel eich bod angen dewis un ochr dros y llall wrth ddarllen am weithredu mewnol y teulu sy'n agos at drasiedi. Dw i'n medru gweld pobl wahanol yn cefnogi cymeriadau gwahanol, yn dibynnu ar ba fath o berson y'ch chi. Mae yma'r dyn busnes efo calon garreg, sef Huw; y ferch Catrin sydd wedi newid llawer ers symud i fyny i'r gogledd; ei chwaer Sian gyda chalon mor garedig, a mam y teulu. Mae'r hyn mae Elin Meek wedi'i wneud gyda'r llyfr wrth ei addasu yn wych. Mae hi wedi rhoi ychydig bach o ymdeimlad Cymraeg i eiriau Alan Maley heb dynnu gormod i ffwrdd o'i darged. Yr unig beth dw i'n medru ei ddweud yn erbyn y llyfr yw ei fod yn 114 tudalen. Byddwn i wedi medru cario ymlaen i'w ddarllen am 100 tudalen arall, petai modd cael dilyniant. Mae'r stori yn datblygu wrth inni droi pob tudalen ac mae'r stori yn ddigon i gadw eich diddordeb ac yn eich gadael chi ag awydd am ddarllen mwy. Byddwn i'n argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd eisiau darllen rhywbeth lle maen nhw'n gallu uniaethu a'r stori. Dych chi'n teimlo bod popeth yn adeiladu wrth i'r stori symud ymlaen. Roeddwn i synnu pa mor hawdd oedd y llyfr i'w ddarllen. Fel rhywun sydd yn ffeindio llyfr lefel uwch yn anodd weithiau, roeddwn i'n synnu pa mor hawdd oedd e i ddilyn y stori ac ymlacio wrth ddarllen. Mae'r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gallu darllen lefel uwch yn gyfforddus. Hefyd, os dych chi'n darllen lefel isaf ac eisiau datblygu eich sgiliau darllen rydw i'n medru dweud y bydd y llyfr hwn yn hollol addas i chi, yn enwedig gyda'r geiriau defnyddiol ar waelod pob tudalen. Doeddwn i ddim yn ffeindio'r llyfr hwn yn anodd o gwbl ac yn fwy pwysig, roeddwn i'n mwynhau dod i nabod y cymeriadau. Roeddwn i'n ffeindio fy hun weithiau yn darllen yn hytrach na mynd i gysgu, pan ddylwn i fod wedi mynd i gysgu rai oriau yn ol! -- Nicky Roberts @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |