|
![]() |
|||
|
||||
OverviewDyma'r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o'r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i'r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau'r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau'r Credo, 'Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear'? Ac a fedrant goleddu'r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy'r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu'r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid 'yr atheistiaeth newydd' yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl - cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o'r naill yn cyfoethogi'n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i'n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy'n tarddu yn ei fwriad a'i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy'n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw. Full Product DetailsAuthor: T. Hefin Jones , Noel DaviesPublisher: University of Wales Press Imprint: University of Wales Press ISBN: 9781786831262ISBN 10: 1786831260 Pages: 144 Publication Date: 25 May 2017 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsRhagarweiniad Pennod 1: Edrych yn ol: rhai trobwyntiau hanesyddol Pennod 2: Gwyddoniaeth a diwinyddiaeth: rhai seiliau athronyddol Pennod 3: Y Glec Fawr, y cread a Duw Pennod 4: Siawns, cynllun ac anghenraid Pennod 5: Darwin, DNA a Duw Pennod 6: Biotechnoleg a datblygiadau meddygol Pennod 7: Y natur ddynol Pennod 8: Glendid maith y cread: Cristnogion a'r amgylchedd Pennod 9: Credwn yn Nuw Llyfryddiaeth Ddethol CyfeiriadaethReviewsAuthor InformationMae Noel Davies yn academydd a diwinydd sydd bellach wedi ymddeol. Mae T. Hefin Jones yn uwch ddarlithydd mewn Biowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Tab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |