|
![]() |
|||
|
||||
OverviewCerddi'r Plant by Waldo Williams and E. Llwyd Williams was first published in 1936 by Gwasg Aberystwyth. This new edition celebrates the original publication by highlighting 29 of the best poems, with 16 by Waldo Williams, including 'Byd yr Aderyn Bach' which was not in the original book, and 13 poems by E. Llwyd Williams. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Waldo Williams , E. Llwyd Williams , Mererid Hopwood , D.J. MorrisPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781785622915ISBN 10: 1785622919 Pages: 56 Publication Date: 26 September 2019 Audience: Children/juvenile , Children / Juvenile Format: Hardback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsDyma drysor. Wir i chi, rydw in teimlo mod i wedi gafael mewn rhywbeth gwerthfawr, mewn cyfrol syn perthyn i mi, a dwin sicr y gwnewch chithau deimlor un peth. Mae rhagymadrodd Mererid Hopwood yn fendigedig. Nid yn unig maen eich tynnu chin syth i naws y gyfrol ac yn gwneud i chi deimlo fel plentyn sydd ar fin cael gwybod cyfrinach, ond mae hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau annwyl i chi am sut i fynd ati i fwynhau darllen cyfrol o gerddi, beth bynnag ywch oedran. Ond beth yw naws y gyfrol? Rhywbeth hen ffasiwn yn sicr, ond nid rhywbeth negyddol mo hynny, hen ffasiwn hyfryd syn rhyfeddol o gartrefol yn yr oes hon. Mae cerddi Waldo Williams ac E. Llwyd Williams wedi eu gosod bob yn ail syn rhoi egni yn y daith wrth ddarllen o glawr i glawr. Rydych chin dod i adnabod lleisiaur beirdd. Maen nhwn gerddi amrywiol o ran eu cynnwys ond fe deimlwch chi fwynhad E. Llwyd Williams wrth ail-greu synau chwareus byd plentyn. Yna, fe gewch chich llorio gan ddelweddu syml ond treiddgar Waldo. Yr hyn syn gweithio mor hynod ywr ffordd maer gyfrol yn croesi cenedlaethau. Mae ambell gerdd fel Gweithio gan Waldo yn mynd i deimlon ddieithr i blant yr oes yma, ond mi ddaw phlentyn mewnol aelod hynaf y teulu ir wyneb, dwin siwr. Ron in dychmygu fy hun, fy mam a fy nhaid yn gallu cyd-ddarllen y gyfrol yma gyda fy merch fach dros y blynyddoedd, a phawb yn teimlo eu bod nhwn perthyn ac yn uniaethu hi. Mae na eirfa a bywgraffiadaur beirdd ar arlunydd yng nghefn y gyfrol. Er nad on in teimlo mod i angen eu darllen yn syth, ron in falch eu bod nhw yno. Dwin teimlo y bydd y gyfrol yman tyfu efon teulu bach ni ac y bydd hin cael ei bodio droeon dros y blynyddoedd. Anni Llyn Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Books Council of Wales. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |