|
|
|||
|
||||
OverviewFollowing on from his volumes on the archaeology of north Wales and the Marches, Rhys Mwyn now explores and analyses the ancient monuments of south-west Wales. From primitive remains in the caves of the Gower coast to the treasures of Strata Florida abbey, we are guided through our rich history by a masterful storyteller. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Rhys MwynPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 9781845276911ISBN 10: 1845276914 Pages: 304 Publication Date: 26 June 2019 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsMae'r gyfrol hefyd yn mentro y tu hwnt i ffiniau Cymru - sut, er enghraifft, yr aeth cerrig gleision y Preselau yr holl ffordd i wastatedd Caersallog er mwyn adeiladu Cr y Cewri? Cyfrol ddifyr, hawdd ei darllen sy'n codi'r llen ar hanes cynharaf ein gwlad, ac yn mentro i dir archaeoleg fodern. -- Gwasg Carreg Gwalch Mae'r gyfrol hefyd yn mentro y tu hwnt i ffiniau Cymru - sut, er enghraifft, yr aeth cerrig gleision y Preselau yr holl ffordd i wastatedd Caersallog er mwyn adeiladu Cor y Cewri? Cyfrol ddifyr, hawdd ei darllen sy'n codi'r llen ar hanes cynharaf ein gwlad, ac yn mentro i dir archaeoleg fodern. -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Ers darllen Cam i'r Deheubarth mae gen i restr o lefydd yr hoffwn i ymweld a nhw: Bedd yr Afanc, bryngaer Carnalw, Cerrig Breudeth, Croes Nanhyfer a rhes gerrig Parc y Meirw. Ac er y byddai'n rhaid teithio i'r dwyrain yn hytrach na'r gorllewin, mae'r llyfr hefyd wedi tanio dyhead i ymweld a Chor y Cewri ar Wastadedd Caersallog. Dyma'r drydedd gyfrol i Rhys Mwyn ei sgrifennu yn tynnu ar ei ddiddordeb a'i brofiad ym maes archaeoleg. Y tro hwn mae'r awdur yn canolbwyntio ar dde-orllewin Cymru, ar y Deheubarth, ardal gyfoethog o ran ei safleoedd archaeolegol. Mae thema i bob pennod a'r penodau hynny wedi'u trefnu yn gronolegol, gan ddechrau gydag ogofau'r cyfnodau Paleolithig a Mesolithig a gorffen gydag archaeoleg filwrol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Ar y daith mae yna sylw i siambrau claddu'r cyfnod Neolithig, bryngaerau Oes yr Haearn, olion Rhufeinig, safleoedd sy'n gysylltiedig a'r Arglwydd Rhys, a llawer mwy. Ceir ymdrech i osod pob thema yn ei chyd-destun hanesyddol ac archaeolegol ar ddechrau'r penodau, ac mae yna gyfeirio at chwedloniaeth, straeon lleol, ysgolheictod ac ymchwil hefyd. Ac i mi, dyna lle mae Rhys Mwyn ar ei gryfaf a mwyaf brwdfrydig, pan mae'n olrhain y damcaniaethau a'r datblygiadau archaeolegol sydd wedi bod dros y blynyddoedd. Mae'r bennod ar gysylltiad cerrig Cor y Cewri a Sir Benfro yn enwedig yn hynod o ddiddorol; mae yna drafododaeth ar y gwahanol ddamcaniaethau am sut y teithiodd y cerrig i Gaersallog a'r ymdrechion i ddarganfod o ble yn union y daeth y cerrig. A dwi'n arbennig o hoff o'r term seicoddaearyddiaeth, a'r ffordd mae hynny'n caniatau i rywun olrhain hanes Rhufeinig tref Caerfyrddin, er bod mwyafrif olion y dref o'r oes honno wedi hen ddiflannu. Yr adran ar archaeoleg amgen oedd leiaf apelgar i fi, am fy mod i'n teimlo bod cymaint mwy y gellid bod wedi'i ddweud. Mae yna destun llyfr ar wahan yma, yn fy marn i, ac efallai mai dyna pam na ddarllenais y bennod gyda'r un diddordeb a'r lleill. Mae'r gyfrol hon yn ysbrydoli pobol i grwydro ac i ddarganfod, a hefyd i ymweld a safleoedd heblaw'r rhai amlwg. Yn naturiol, rhoddir sylw i safleoedd adnabyddus fel Pentre Ifan ac Abaty Ystrad-fflur, ond mae yna hefyd sawl llecyn oedd yn gwbl ddieithr i mi. A cheir cyfeirnodau OS, mapiau, a chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y safleoedd. Fe fyddai map sy'n cynnwys pob un safle wedi bod o ddiddordeb hefyd, er mwyn gweld lle maen nhw mewn perthynas a'i gilydd, a chynllunio ymweliadau ar sail hynny. Ond cwyn fach yw honno! Dwi wedi mwynhau'r cipolwg ar y gwahanol gyfnodau a'u holion archaeolegol, ac yn bwriadu ymweld a sawl un o'r safleoedd yn y dyfodol. -- Cerian Arianrhod @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |
||||