|
![]() |
|||
|
||||
OverviewThe latest book in the 'Bro a Bywyd' series looks back on the colourful life of Hywel Teifi Edwards, one of the most prominent Welsh figures of the twentieth century. Full Product DetailsAuthor: Tegwyn JonesPublisher: Cyhoeddiadau Barddas Imprint: Cyhoeddiadau Barddas ISBN: 9781906396619ISBN 10: 1906396612 Pages: 116 Publication Date: 01 August 2013 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print ![]() This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsFel y dywed golygydd y gyfrol, Tegwyn Jones, tasg debyg i un Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen oedd rhoi'r amryddawn Hywel Teifi Edwards rhwng dau glawr ond mae wedi llwyddo'n rhyfeddol. Does dim dwywaith nad ywr awdur yn adnabod ei wrthrych yn dda. Dewiswyd dull hynod o effeithiol i gyfleur fro a throeon yr yrfa sef geiriau Hywel Teifi ei hun. Dyddiau mebyd Aber-arth a geir y sylw cyntaf ac fe gyflwynir y teulu ar ardal drwy ddyfyniadau o sgyrsiau a gyflwynwyd gan Hywel Teifi gerbron Cyfeillion y Cyngor Llyfrau. Dyfynnir hefyd bwt o sgwrs rhwng Hywel ai chwaer, Myfanwy, a ddarlledwyd mewn rhaglen ar gyfer S4C a hefyd sgwrs a recordiwyd ar gyfer rhaglen Beti ai Phobol yn 1989 ac felly yr r gyfrol yn ei blaen gan nodir cerrig milltir yn gwbl gelfydd. Roedd gan Hywel ddiddordeb mawr mewn chwaraeon a bu ar un adeg yn dipyn o bl-droediwr, fel y tystia'r rhai sy'n cofio am ei gampau ar y cae. Yn wir, mae'r llun ohono'n chwarae ar y Cae Sgwr yn Aberaeron yn dweud y cyfan! Symudir ymlaen yn dwt wedyn at hanes gadael yr aelwyd yn Aber-arth ac at ei gyfnod yn y Brifysgol yn Aberystwyth ac at ddechrau gyrfa. Fe briododd Rona a daeth dau gyw arbennig iawn ir nyth Huw a Meinir ac yn y bennod hon hefyd ceir lluniau hyfryd or genhedlaeth nesaf, a Hywel yn amlwg wedi dotio ar fod yng nghanol y bwrlwm teuluol. Dengys Tegwyn Jones fod Hywel yn ddyn teulu arbennig iawn, ond efallai mai fel ysgolhaig y gwyddom nir darllenwyr amdano orau, a dymar bennod syn cael sylw nesaf yn y gyfrol hon. Meddai Geraint Jenkins, Yr wyf or farn fod Hywel yn ysgolhaig gwirioneddol fawr efallai y mwyaf a welwyd yn Adrannau Cymraeg Prifysgol Cymru erioed. Roedd hefyd yn wleidydd brwd, a neilltuir pennod i hynny a phennod gyfan, fel y disgwylir, ir Eisteddfod. Gwyddai bopeth oedd i wybod am yr Eisteddfod wrth gwrs; bun feirniad ac yr oedd ganddo farn bendant amdani, fel y nodir yn y gyfrol. Ond daw'r llyfr i ben yn Llangennech, ardal lle y bu ef ai deulu yn byw ynddi er 1965, er mai'r llun olaf yn y gyfrol, yn naturiol ddigon, yw hwnnw a dynnwyd ar ddiwrnod angladd Hywel Teifi yn Aber-arth. Yn ei eiriau ef ei hun, Yn Llangennech y bydda i bellach tan ddiwedd oes, ac wedyn, fel y teid yn dod fyny i Lwchwr fe a in l i Aber-arth. Dyman wir gofnod hyfryd o gerrig milltir y cawr o Aber-arth cofnod cynnes iawn gan un a oedd yn ei adnabod yn dda ac a lwyddodd i gyfleu prif ddigwyddiadau bywyd Hywel drwy gyfrwng atgofion y dyn ei hun ac atgofion a sylwadau ei gyfeillion. Dyma lyfr ir sawl nad oedd yn adnabod Hywel Teifi yn dda ond dyma gyfrol hefyd ir rheiny a oedd yn gyfeillion agos iddo ac yn ei adnabod yn dda. Daw'r darllenydd i wybod rhywbeth newydd am y gwr o Aber-arth, gan drysori'r str o atgofion a gyflwynir yma'n gofiadwy mewn gair a llun. Sarah Down-Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |