|
|
|||
|
||||
Overview10 illustrated double pages, with each spread offering a chance to look for Boc, the little red dragon, who's hiding on each page. Children and parents can also look for other things, and discuss and ask questions. A Welsh twist on the Where's Wally? books. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Huw AaronPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781784619541ISBN 10: 178461954 Pages: 32 Publication Date: 23 November 2020 Audience: Children/juvenile , Children / Juvenile Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsMae ail gyfrol Ble Mae Boc? wedi glanio o'r diwedd, a'r tro hwn, fel y gwelir o'r isteitl, Ar Goll yn y Chwedlau mae Boc! Roedd y llyfr cyntaf yn werthwr gorau ac mae plant Cymru (a'u rhieni) wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am yr ail lyfr yn y gyfres boblogaidd. Diolch byth, felly, fod Huw Aaron wedi bod wrthi fel slecs yn gwneud yn siwr ei fod yn barod erbyn y Dolig. Os nad ydych chi'n gwybod erbyn hyn, draig fach goch yw Boc sydd, rywsut neu'i gilydd, yn llwyddo i fynd ar goll ar hyd a lled Cymru. Eich tasg chi yw ei ffeindio ynghanol yr holl brysurdeb. Yn yr ail gyfrol, caiff Boc ei sugno i ganol byd y chwedlau a chael ei swyno gan yr hud a'r lledrith. Cawn ein tywys ar antur i leoedd rhyfeddol - fel y ddinas o dan y dwr ac i deyrnas y tylwyth teg. Mae lluniau Huw Aaron mor anhygoel a lliwgar; maen nhw'n wledd go iawn i'r llygad. Gallwch dreulio oriau yn craffu ar y manylion bach difyr yn ogystal a chwilio am ein hoff gymeriad. Mae'r bydoedd mae o'n eu creu yn ffantastig ac yn llawn hiwmor. Fy hoff un yw'r Parti Llyfrau Plant, sy'n rhyw fath o deyrnged fawr i lenyddiaeth Gymraeg i blant drwy'r degawdau. Ers i'r Where's Wally? cyntaf gael ei gyhoeddi yn y 1980au, mae llyfrau 'chwilio' o'r fath yn hynod o boblogaidd, gan eu bod yn wych ar gyfer llenwi amser sbar a hefyd yn lot fawr o hwyl. Mantais Ble Mae Boc?: Ar Goll yn y Chwedlau dros lyfrau eraill tebyg yw ei fod yn cyflwyno chwedlau a thraddodiadau sy'n arbennig i ni yng Nghymru, fel y Mabinogi a Chantre'r Gwaelod. Caiff draigchwilwyr brwd ddigon o hwyl wrth chwilio ar eu pennau eu hunain, ond beth am wneud pethau'n fwy o hwyl a chyflwyno elfen o gystadleuaeth? Ras am y cyntaf! I'r rhieni a'r neiniau a'r teidiau, dyma fuddsoddiad doeth iawn, yn enwedig ar gyfer siwrneiau hirfaith yn y car! Y gobaith yw y bydd y plantos yn rhy brysur yn chwilio am Boc i ffraeo yn y set gefn. Wir i chi, mae 'na oriau o ddifyrrwch i'w cael rhwng y cloriau gan fod yna 10 tudalen ddwbl a thros 200 o drugareddau eraill i'w darganfod. Pryd bynnag y bydd gennych chi amser sbar - wrth ddisgwyl yn syrjeri'r doctor neu ar bnawn glawog o flaen y tan - dyma gyfaill ffyddlon sy'n werth ei gael yn agos. A pheidiwch a meddwl mai llyfr i blant yn unig yw hwn. Dyma gyfrinach i chi - mae lot fawr o ffans Boc yn rhieni! -- Morgan Dafydd @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |
||||