|
![]() |
|||
|
||||
OverviewAlun Wyn Bevan did not wish to write his autobiography, but he does recount his many treasured memories of his life's experiences in the field of sport. During his upbringing in Brynaman, he lived opposite the cricket field and among his heroes at an early age were the cricket stars of the Glamorgan team. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Alun Wyn BevanPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 9781845276348ISBN 10: 1845276345 Pages: 232 Publication Date: 18 October 2017 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order ![]() We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsDyma gyfrol i gynhesur gwaed, a hunangofiant gwahanol ir gormodedd a gyhoeddir cyn pob Prifwyl ar Nadolig. Yn graff, mae Alan Wyn Bevan wedi canolbwyntio ar hel atgofion am un o garwriaethau mawr ei fywyd, yn hytrach na rhestru'n ofalus prif ddigwyddiadau ei fywyd personol. Yn ddi-dor bron rhwng 1952 a 2016, fe ysgrifennan heintus am uchafbwyntiau ym myd chwaraeon a wnaeth gryn argraff arno. Ei restr o ydyr 56 pennod ac mae tipyn o drafod ar rygbi, criced, pl-droed ond hefyd tennis, athletau, rygbir gynghrair, gymnasteg a chwaraeon Americanaidd. Gan nad oes rhyw lawer o sn am focswyr, dwin cymryd nad ydy doniaur sgwr at ei ddant. Bydd hon yn gyfrol y bydd modd dychwelyd ati droeon. Camp Alun Wyn ydy plethu ei gof ai frwdfrydedd am fyd y campau gydag atgofion a hanesion personol. Maen ysgrifennun rhwydd yn ei dafodiaith, ac mae hynnyn ychwanegu at y dweud syn naturiol a llyfn. Fe fyddwn wedi hoffi mynegai, fodd bynnag, gan fod cymaint o gyfeirio at wahanol bobl ymhob pennod. Ymysg fy hoff benodau y mae 1958 ai ddewis dychmygol ar gyfer rhaglen Desert Island Discs Radio 4. Hyfryd hefyd ydyr bennod olaf am Eic Davies ar Gwrhyd. Mae disgrifiadau twymgalon or mynydd ganddo, yn enwedig am fn llymeitian y diweddar Peter OToole yn Nhafarn y Roc. Disgrifiar hen adeilad sydd ar gau ers y chwedegau: Pallodd anadl yr hen dafarn ... ac maer adeilad erbyn hyn yn rhydun hamddenol ar y llethrau. Fel cyn-brifathro a gwr diwylliedig a naddodd ail yrfa iddoi hun fel sylwebydd a darlledwr, maer awdur yn gyfforddus wrth osod cyffro chwaraeon law yn llaw myfyrio ar bwysigrwydd ei ardal, a phwysigrwydd cofior rhai a ddylanwadodd arno. Rwyn hoff oi bennod ar Dewi Bebb. Maen olrhain sut y dewiswyd yr asgellwr or gogledd i gynrychioli Cymru, a phlethu hynny gyda dechrau gyrfa Gareth Edwards. Mae gen i gof cynnes iawn o Dewi fy hunan. Gwr bonheddig y bues in cydweithio ag o ar Gwpan Rygbir Byd i HTV Cymru. Pennod felys arall ydyr un am y 19eg o Fedi 1993 a dyddiau da Morgannwg yn ennill Cynghrair y Sul. Mi roeddwn i a chyfaill yng Nghaergaint hefyd, yn dotio ar Viv Richards ar bechgyn Cymreig yn trechu Caint.Does dim prinder geiriau gan Alun Wyn Bevan, ac mae modd yn aml clywed bwrlwm ei ddweud wrth ddarllen y tudalennau. Tybiwn i mai dyma ei gyfrol orau am chwaraeon, gan iddo gyfuno atgofion am fywyd a chymdeithas bro ei febyd gydai atgofion am rai o arwyr y campau yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Yn ogystal maen llwyddo i gyfuno ei deithiau ai ddiddordeb ysol mewn chwaraeon, drwy ddod r byd yn grwn inni rhwng dau glawr y gyfrol hon.Iolo ap DafyddGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Dyma gyfrol i gynhesur gwaed, a hunangofiant gwahanol ir gormodedd a gyhoeddir cyn pob Prifwyl ar Nadolig. Yn graff, mae Alan Wyn Bevan wedi canolbwyntio ar hel atgofion am un o garwriaethau mawr ei fywyd, yn hytrach na rhestru'n ofalus brif ddigwyddiadau ei fywyd personol. Yn ddi-dor bron rhwng 1952 a 2016, fe ysgrifennan heintus am uchafbwyntiau ym myd chwaraeon a wnaeth gryn argraff arno. Ei restr o ydyr 56 pennod ac mae tipyn o drafod ar rygbi, criced, pl-droed ond hefyd tennis, athletau, rygbir gynghrair, gymnasteg a chwaraeon Americanaidd. Gan nad oes rhyw lawer o sn am focswyr, dwin cymryd nad ydy doniaur sgwr at ei ddant. Bydd hon yn gyfrol y bydd modd dychwelyd ati droeon. Camp Alun Wyn ydy plethu ei gof ai frwdfrydedd am fyd y campau gydag atgofion a hanesion personol. Maen ysgrifennun rhwydd yn ei dafodiaith ei hun, ac mae hynnyn ychwanegu at y dweud syn naturiol a llyfn. Fe fyddwn wedi hoffi mynegai, fodd bynnag, gan fod cymaint o gyfeirio at wahanol bobl ymhob pennod. Ymysg fy hoff benodau y mae 1958 ai ddewis dychmygol ar gyfer rhaglen Desert Island Discs Radio 4. Hyfryd hefyd ydyr bennod olaf am Eic Davies ar Gwrhyd. Mae disgrifiadau twymgalon or mynydd ganddo, yn enwedig am fan llymeitian y diweddar Peter OToole yn Nhafarn y Roc. Disgrifiar hen adeilad sydd ar gau ers y chwedegau: 'Pallodd anadl yr hen dafarn ... ac maer adeilad erbyn hyn yn rhydun hamddenol ar y llethrau.' Fel cyn-brifathro a gwr diwylliedig a naddodd ail yrfa iddoi hun fel sylwebydd a darlledwr, maer awdur yn gyfforddus wrth osod cyffro chwaraeon law yn llaw myfyrio ar bwysigrwydd ei ardal, a phwysigrwydd cofior rhai a ddylanwadodd arno. Rwyn hoff oi bennod ar Dewi Bebb. Maen olrhain sut y dewiswyd yr asgellwr or gogledd i gynrychioli Cymru, ac yn plethu hynny gyda dechrau gyrfa Gareth Edwards. Mae gen i gof cynnes iawn o Dewi fy hunan, gwr bonheddig y bues in cydweithio ag o ar Gwpan Rygbir Byd i HTV Cymru. Pennod felys arall ydyr un am y 19eg o Fedi 1993 a dyddiau da Morgannwg yn ennill Cynghrair y Sul. Roeddwn i a chyfaill imi yng Nghaergaint hefyd, yn dotio ar Viv Richards ar bechgyn Cymreig yn trechu Caint. Does dim prinder geiriau gan Alun Wyn Bevan, ac mae modd yn aml clywed bwrlwm ei ddweud wrth ddarllen y tudalennau. Fe dybiwn i mai dyma ei gyfrol orau am chwaraeon, gan iddo gyfuno atgofion am fywyd a chymdeithas bro ei febyd gydai atgofion am rai o arwyr y campau yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Yn ogystal, maen llwyddo i gyfuno ei deithiau ai ddiddordeb ysol mewn chwaraeon, drwy ddod r byd yn grwn inni rhwng dau glawr y gyfrol hon. Iolo ap Dafydd Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |