|
|
|||
|
||||
OverviewFull Product DetailsAuthor: Arwyn Roberts , Tudur Huws JonesPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 9781845275709ISBN 10: 1845275705 Pages: 208 Publication Date: 28 September 2016 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Available To Order We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsMaen amlwg o ddarllen y gyfrol hon fod pobl yn bwysig iawn i Arwyn Roberts, neu Arwyn Herald, fel y bydd pawb syn gwybod amdano yn ei adnabod. Yn rhinwedd ei swydd fel ffotograffydd newyddiadurol, mae wedi dod ar draws degau o filoedd o bobl dros y blynyddoedd gan gofnodi digwyddiadau mawr a mn i bapurau lleol gogledd Cymru dros gyfnod o bedwar degawd. Maer gyfrol hon wedi ei chyhoeddi i gyd-fynd ag Arwyn yn dathlu deugain mlynedd o dynnu ffotograffau. Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn hunangofiant, cawn hanes ei fagwraeth ym mhentref Rhosgadfan, a phwysigrwydd ei deulu a'i gymuned iddo. Cawn bytiau difyr a straeon diddorol am ei blentyndod mewn cyfnod lle roedd y pentref ar ardal gyfan, fwy na heb, yn uniaith Gymraeg. Atgofion hapus sydd yma gan fwyaf, ond maen amlwg fod marwolaeth ei dad o ganlyniad i effeithiau llwch y chwarel yn dal i'w gorddi. Drwyr gyfrol, mae ei berthynas i fam yn hollbwysig iddo. Gadawodd Arwyn Roberts yr ysgol yn 16 oed a dechreuodd ar ei yrfa gyda phapurau'r Herald pan ymatebodd i hysbyseb, 'Boy wanted'. A does dim dwywaith fod y gwaith ar gweithwyr wedi dylanwadun fawr arno. Ceir llawer o gyfeiriadau at amrywiol gyd-weithwyr, a nifer or rhain yn gyfeillion agos y mae wedi mwynhau bod yn eu cwmni, gan eu parchun fawr. Ac wrth bori drwyr gyfrol, fe gawn hanesion amdanynt wrth eu gwaith, ac wrth gymdeithasu! Mae digon o straeon doniol yn y gyfrol, megis honno am Arwyn yn cael ei stopio gan yr heddlu ac yntau yn ei ddillad isaf, ac un amdano ar ben fan yn ceisio cael y llun perffaith. Ac mae yma atgofion diddorol am brotestiadau Cymdeithas yr Iaith ac ymgyrch Meibion Glyndwr, a sn am ddigwyddiadau cymdeithasol o bwys hefyd, fel angladd Jack Evans o Borthmadog ar band jazz o New Orleans, a rhai marwolaethau disyfyd yn yr ardal. Oherwydd bod cymaint o bobl yn ei adnabod wrth ei waith yn unig, maen debyg y bydd llawer yn synnu wrth ddarllen am yr hyn a wna Arwyn Herald y tu hwnt i'w oriau gwaith. Ac er na all swydd fel hon fod yn un 9 tan 5, mae Arwyn wedi bod yn aelod o nifer o bwyllgorau amrywiol dros y blynyddoedd, gan gynnwys bod yn gadeirydd Clwb Pl-droed Nantlle Vale. Cododd hefyd symiau sylweddol i elusennau megis Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd ac Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Arwyn Herald yn adnabyddus i bobl o bob cwr o Gymru oherwydd ei gysylltiad hir 'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Urdd, a cheir digon o gyfeirio at y ddwy wyl bwysig hon. Dawn amlwg mai un o uchafbwyntiau personol Arwyn oedd cael ei urddo'n aelod o'r Orsedd, a doedd dim amheuaeth beth fyddai ei enw barddol Arwyn Herald, siwr iawn. Wrth ddarllen y gyfrol daw'n glir gymaint o newid a fu yn ystod ei gyfnod gydar papur ac maer themu hynny yn cael sylw yma, megis diwedd oes y diwydiant chwareli yn ei ardal a'r newidiadau fu yn nhref Caernarfon o ran ei hadeiladau. Cofnoda Arwyn hanes drwy ei ffotograffau, yn ogystal rhoi digwyddiadau ar gof a chadw. Yn ogystal straeon Arwyn ei hun, cawn bytiau difyr amdano gan ei ffrindiau, llawer ohonynt yn bobl adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt, a phob un yn pwysleisio addfwynder Arwyn a'i gyfeillgarwch triw. Maer darn gan Dafydd Wigleyn deyrnged hyfryd iddo, ac rwy'n cloi'r adolygiad trwy ddyfynnu Bryn Terfel: Does dim dwywaith fod y lensys ar cameru wedi newid tipyn go lew dros y 40 mlynedd, Arwyn ond rwyt tin dal yn union run fath. Hefin Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Maen amlwg o ddarllen y gyfrol hon fod pobol yn bwysig iawn i Arwyn Roberts, neu Arwyn Herald, fel y bydd pawb syn gwybod amdano yn ei adnabod. Yn rhinwedd ei swydd fel ffotograffydd newyddiadurol mae wedi dod ar draws degau o filoedd o bobl dros y blynyddoedd gan gofnodi digwyddiadau mawr a bach i bapurau lleol gogledd Cymru dros gyfnod o bedwar degawd. Ac maer gyfrol hon wedi ei chyhoeddi i gyd-fynd ag Arwyn yn dathlu deugain mlynedd o dynnu ffotograffau. Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn hunangofiant, cawn hanes ei fagwraeth ym mhentref Rhosgadfan, a phwysigrwydd ei deulu a'i gymuned iddo. Cawn bytiau difyr a straeon diddorol am ei blentyndod mewn cyfnod lle roedd y pentref ar ardal gyfan, fwy na heb, yn uniaith Gymraeg. Atgofion hapus sydd yma gan fwyaf, ond maen amlwg fod y marwolaeth ei dad o ganlyniad i effeithiau llwch y chwarel yn dal i'w gorddi. Drwyr gyfrol, mae ei berthynas i fam yn hollbwysig iddo. Gadawodd Arwyn Roberts yr ysgol yn 16 oed a dechreuodd ar ei yrfa gyda phapurau'r Herald pan ymatebodd i hysbyseb, 'Boy wanted'. A does dim dwywaith fod y gwaith ar gweithwyr wedi dylanwadun fawr arno. Ceir llawer o gyfeiriadau at amrywiol gyd-weithwyr, a nifer or rhain yn gyfeillion agos y mae wedi mwynhau bod yn eu cwmni, gan eu eu parchun fawr. Ac wrth bori drwyr gyfrol, fe gawn hanesion amdanynt wrth eu gwaith, ac wrth gymdeithasu! Mae digon o straeon doniol yn y gyfrol, megis honno am Arwyn yn cael ei stopio gan yr heddlu ac yntau yn ei ddillad isaf, ac un amdano ar ben fan yn ceisio cael y llun perffaith. Ac mae yma atgofion diddorol am brotestiadau Cymdeithas yr Iaith ac ymgyrch Meibion Glyndwr, a sn am ddigwyddiadau cymdeithasol o bwys hefyd, fel angladd Jack Evans o Borthmadog ar band jazz o New Orleans, a rhai marwolaethau disyfyd yn yr ardal. Oherwydd bod cymaint o bobl yn ei adnabod wrth ei waith yn unig, maen debyg y bydd llawer yn synnu wrth ddarllen am yr hyn a wna Arwyn Herald y tu hwnt i'w oriau gwaith. Ac er na all swydd fel hon fod yn un 9 tan 5, mae Arwyn wedi bod yn aelod ar nifer o bwyllgorau amrywiol dros y blynyddoedd, gan gynnwys bod yn gadeirydd Clwb Pl-droed Nantlle Vale. Cododd hefyd symiau sylweddol i elusennau megis Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd ac Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Arwyn Herald yn adnabyddus i bobl o bob cwr o Gymru oherwydd ei gysylltiad hir 'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Urdd, a cheir digon o gyfeirio at y ddwy wyl bwysig hyn. Dawn amlwg mai un o uchafbwyntiau personol Arwyn oedd cael ei urddo'n aelod o'r Orsedd, a doedd dim amheuaeth beth fyddai ei enw barddol Arwyn Herald, siwr iawn. Wrth ddarllen y gyfrol daw'n glir gymaint o newid a fu yn ystod ei gyfnod gydar papur ac maer themu hynny yn cael sylw yma, megis diwedd oes y diwydiant chwareli yn ei ardal a'r newidiadau fu yn nhref Caernarfon o ran ei hadeiladau. Cofnoda Arwyn hanes drwy ei ffotograffau, yn ogystal rhoi digwyddiadau ar gof a chadw. Yn ogystal straeon Arwyn ei hun, cawn bytiau difyr amdano gan ei ffrindiau, llawer ohonynt yn bobl adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt, a phob un yn pwysleisio addfwynder Arwyn a'i gyfeillgarwch triw. Maer darn gan Dafydd Wigleyn deyrnged hyfryd iddo, ac rwy'n cloi'r adolygiad trwy ddyfynnu Bryn Terfel: Does dim dwywaith fod y lensys ar cameru wedi newid tipyn go lew dros y 40 mlynedd, Arwyn ond rwyt tin dal yn union run fath. Hefin Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |
||||