|
|
|||
|
||||
OverviewA valuable volume by a word-guru, being a collection of a variety of entertaining Welsh idioms, words and sayings. First Published in 2012. Full Product DetailsAuthor: D. Geraint LewisPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781843239666ISBN 10: 1843239663 Pages: 240 Publication Date: 16 July 2012 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsTaith ansbaradigaethus o gwmpas yr iaith ai nodweddion unigryw ... medd broliant y gyfrol. Dyna air! Aeth dros hanner canrif heibio ers i mi ei glywed or blaen, er mai ansbaradigolaethus gofia i yn y fro rhwng Swyddffynnon a Thregaron. Wn i ddim beth yn union yw ei ystyr. Rhywbeth fel ysbrydoledig, gydag elfen o carlamus ac amarch, goelia i. Yn rhyfedd, dim ond ar glawr l y gyfrol y gwelais y gair ac ni ddeuthum o hyd iddo y tu mewn, nac o fewn cloriau unrhyw eiriadur Cymraeg arall, chwaith, er chwilota yn ngeiriadur William Owen Pughe (y trydydd argraffiad), J. Bodvan Anwyl (yr wythfed argraffiad), Geiriadur Prifysgol Cymru (1950) ac amryw eraill. Ofer fu ymgynghori Bruce, hefyd, ond gan nad wyf yn sicr o union ystyr Saesneg y gair, hwyrach i mi edrych yn y lle anghywir. Ond mewn difri, dyma gyfrol gyfoethog ac ardderchog, un y dylai pob Cymro syn ei ystyried ei hun yn hanner diwylliedig ei phrynu, ei defnyddio ai thrysori. Mae ynddi'r casgliad gwerthfawrocaf o ymadroddion cyhyrog Cymraeg, rhai hen a newydd, parchus a llai parchus. Cawn wybod ffynonellau llawer or ymadroddion, yn arbennig y rhai Beiblaidd. Ond fe wna i oedi gydar mwy bydol, megis cyllell sbaddu malwod am gyllell ddiwerth heb fawr o awch iddi, a rhech mochyn coron rhywbeth arall da i ddim. Rhech mochyn whech gofia i. Mi fyse hwnnwn fwy diwerth fyth! Chlywais i erioed am gi rhech ond y tarddiad, yn l D. Geraint Lewis, oedd arfer y byddigions o fynd chi neu ddau ir stafell giniawa. Pan fyddai arogleuon drwg yn llenwir stafell byddai rhywun yn gafael yn un or cwn a mynd ag e allan gan roi stwr iddo am ollwng gwynt ac arbed embaras ir hwn oedd yn gyfrifol go iawn. O sn am gwn fe geir yr hen ddywediad, ci tawel syn cnoi, ond gan hepgor yr ail linell a ddaw ir cof gast dawel syn rhoi. Dro arall ceir ail gymal annisgwyl ac, i mi, un cwbl ddieithr mae gwaed yn dewch na dwr (ac yn berwin gynt)! Ac ambell eglurhad doniol llyfu tin; un gradd yn waeth na sychu tin! Wyddwn i ddim fod y dywediad dim gobaith caneri yn tarddu or dyddiau pan aed chaneris lawr y pyllau glo i weld a oedd nwy yno. Dyma gyfrol syn brawf o rymuster crynor Gymraeg, ai hergydion ardderchog. Casgliad o ddywediadau iw hadfer in bywydau bob dydd, iw cyflwyno i ddysgwyr ar cenedlaethau i ddod, ac i brocio cof y gweddill ohonom. Gwych, hefyd, ywr drefn o groesgyfeirio ar mynegai Saesneg. Gorau cof, llyfr. Gwyn Griffiths Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |